Mae model yn berson sy'n gosod ei hun neu'n arddangos ei hun er mwyn celf, ffasiwn neu hysbysebu a chynhyrchion eraill.
Nid yw na oed na rhyw yn ffactor hollbwysig - gall model fod yn ddyn neu ddynes neu blentyn - ond ceir mwy o fodelau benywaidd ifanc. Serch hynny, nid yw'r ffin bob amser yn gwbl glir o ran meysydd fel actio, dawnsio neu feimio. Yn gyffredinol, nid yw ymddangos mewn ffilm yn cael ei ystyried yn fodelu, waeth beth yw'r rôl ei hun. Fodd bynnag, disgwylir i fodelau arddangos emosiwn yn eu ffotograffau ac mae nifer o fodelu wedi disgrifio'u hunain fel actorion. Ceir gwahanol fathau o fodelu gan gynnwys glamor, ffasiwn, bicini, celf-fanwl a modelau rhannau o'r corff. Mae rhai modelau yn modelu'n noeth, er mwyn celf neu adloniant. Nid yw pob model yn brydferth: mae modelau cymeriad yn portreu pobl gyffredin neu ddoniol, ac fe'u gwelir gan amlaf mewn gwaith print ac mewn hysbysebion.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Model, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.