Mae Model Y Tesla yn SUV trydan maint canolig batri a adeiladwyd gan Tesla, Inc.
Enghraifft o'r canlynol | model y cerbyd |
---|---|
Math | crossover, Car trydan |
Màs | 2,003 cilogram |
Gwlad | UDA |
Rhagflaenwyd gan | Tesla Model 3 |
Gwneuthurwr | Tesla |
Hyd | 4,750 milimetr |
Gwefan | https://www.tesla.com/modely |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Model Y yn seiliedig ar lwyfan sedan y Model 3, ac mae 75 y cant o'i rannau'n gyffredin a llwyfan Model 3 Tesla, gan gynnwys dyluniad mewnol ac allanol tebyg a'i seilwaith trydan. Mae'r Model Y yn llai costus na Model X Tesla canolig. Fel y Model X, mae'r Model Y yn cynnig trydedd rhes o seddi, fel opsiwn.
Dadorchuddiwyd y car ym Mawrth 2019 a dechreuodd y gwaith o'i gynhyrchu yn Ffatri Tesla yn Fremont yn mis Ionawr 2020, agan ei ddosbarthu ar 13 Mawrth 2020.
Yn chwarter cyntaf ac ail 2023, gwerthodd y Model Y yn well na'r Toyota Corolla, gan ddod y car sy'n gwerthu orau yn y byd, y cerbyd trydan cyntaf erioed i hawlio'r teitl hwnnw.
Model Y yw cerbyd cyntaf Tesla i ddefnyddio pwmp gwres ar gyfer gwresogi caban mewnol y car. Gall y pwmp gwres fod hyd at 300% yn fwy effeithlon na'r gwresogi gwrthiant trydan a arferid ei ddefnyddio.
Roedd rhai cerbydau trydan gan weithgynhyrchwyr eraill, gan gynnwys y Nissan Leaf, Renault Zoe, BMW i3, Jaguar I-Pace, Audi e-tron, a Kia Niro, eisoes wedi defnyddio pympiau gwres yn eu ceir trydan. Mae pympiau gwres Tesla, fodd bynnag, wedi cael eu canmol yn arw am ddefnyddio llawer llai o rannau.
Nid oedd gan grbydau a gynhyrchwyd ers mis Mai 2021 radar ar gyfer adaptive cruise control. Yn Chwefror 2022, agorodd y Weinyddiaeth Diogelwch Traffig Priffyrdd Cenedlaethol (National Highway Traffic Safety Administration yr UD) ymchwiliad i frecio diangen yn y cerbydau newydd hyn.+
Fe wnaeth diwedddariad meddalwedd 20 Medi 2022 drawsnewid y ceir oedd a radar i Tesla Vision. Mae'r cymorth llywio wedi'i gyfyngu i 85 mya (137 km/awr), i lawr o 90 mya (140 km/awr) ac mae'r lleiafswm y pellter rhwng dau gar wedi'i newid i ddau hyd car (i lawr o un hyd car).
Mae Model Y wedi cael derbyniad da iawn ar y cyfan gyda'r beirniaid yn canmol ymddangosiad y car, ei gyflymiad cyflym, y tu mewn ac ystod eang eraill o bethau. Fodd bynnag, fe feirniadwyd y modd yr oedd y cerbyd yn cael ei lywio a'i reid anesmwyth. Yn ôl Top Gear, mae'r Model Y yn "gar gwych i fyw gydag ef". Cyfeiriwyd at y Model Y hefyd fel yr arweinydd yn ei ddosbarth, ond mae adolygwyr yn nodi bod cystadleuaeth yn cynyddu gyda nifer o ddewisiadau amgen yn dod i'r farchnad gan weithgynhyrchwyr eraill.
Yn 2023, enillodd Model Y Tesla 'Wobr Gwerth Gweddilliol Grŵp Autovista' yn y categori 'Compact and Large Battery-Electric Vehicle (BEV) SUV'. Enillodd Model Y hefyd wobr 'y Car Cwmni Gorau' yng Ngwobrau Ceir Gorau Carbuyer 2024.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tesla Model Y, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.