Mae'r abacws (ll.
abacysau), a elwir hefyd yn 'ffrâm gyfri', yn offeryn cyfrifo a ddefnyddiwyd yn Asia, Ewrop, Tsieina a Rwsia, canrifoedd cyn mabwysiadu'r System rhifolion Hindŵ-Arabaidd. Ymddangosodd yr abacws yn gyntaf oddeutu 2700–2300 CC yn Swmer, Gorllewin Asia. Heddiw, mae'r abacws yn aml yn cael ei lunio fel ffrâm fambŵ gyda gleiniau'n llithro ar wifrau, ond yn wreiddiol, roeddent yn ffa neu'n gerrig wedi'u symud mewn rhigolion yn y tywod neu ar ford pren, carreg, glai neu fetel. Mewn rhai gwledydd cafodd ei olynnu gan y cyfrifiannell mecanyddol, ac yna'r cyfrifiannell electronig, ond yn 2019 roedd yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd.
Math | offeryn |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir amrywiaeth eang o ran cynllun a maint yr abacws. Pwrpas yr abacysau 10-glain, yn bennaf, yw i gynorthwyo addysgu rhifyddeg. Fe'u defnyddir heddiw yn aml mewn rhai o gyn-wledydd Sofiet yn yr ysgolion, ac yng Ngorllewin Ewrop, Tsieina ac Affrica. Mae'r math 'soroban' (a'r 'suanpan') yn Japan, wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo symiau cymhleth iawn. Gall pob abacws, gyflawni sawl gweithrediad gwahanol e.e. adio, lluosi neu gyfrio'r Ail isradd. Mae rhai o'r dulliau'n gweithio gyda rhifau annaturiol e.e. 1.7 neu 3⁄4.
Ar 12 Tachwedd 1949 cynhaliwyd cystadleuaeth ffurfiol rhwng yr abacws a'r cyfrifiannell, yn Tokyo. Defnyddiwyd y math soroban gan Kiyoshi Matsuzaki a chyfrifiannell electronig gan Thomas Nathan Wood, aelod o luoedd arfog UDA. Rhoddwyd marciau am bedwar math o broblem (y pedwar gweithrediad rhifyddol) a phumed problem a oedd yn cyplysur 4 gweithrediad, gyda chyflymder a chywirdeb yn brif meincnodau. Enillodd yr abacws 4 o'r problemau a'r cyfrifiannell un. Yn ôl y papur newydd Stars and Stripes, roedd buddugoliaeth yr abacws yn glir a phendant, ac wedi'r digwyddiad hwn: "the machine age took a step backwards....".
Gwyddom i'r gair "abacws" gael ei ddefnyddio cyn yr Oesoedd Canol, pan ymddangosodd mewn dofen Saesneg. Tarddiad y gair yw'r gair Groeg ἄβαξ abax sef bwrdd neu ford heb goesau. Cred eraill fod y gair yn hŷn na hyn ac yn perthyn i iaith y Ffenicia, (Libanus a Syria heddiw), ʾābāq (אבק), "llwch" (ay'n awgrymu mai llwch ar fwrdd oedd yr abacws cyntaf.
Ar wahân i Mesopotamia, milenia'n ddiweddarach, fe'i caed yn yr Aifft. Gwyddom hyn oherwydd cofnod gan Herodotus (c.485 CC - 425 CC) sy'n nodi eu bod yno'n defnyddio "cerrig bychan o'r dde i'r chwith - cyfeiriad hollol wahanol i'r hyn a wnawn yng Ngwald Groeg". Canfuodd archaeolegwyr nifer o gerrig ar ffurf disgiau a ystyrir yn rannau o'r abacws.
Gwyddom hefyd i'r Persiaid ddefnyddio'r abacws tua 600 CC. Ni chyrhaeddodd Wlad Groeg tan 5CC.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Abacws, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.