Cangen o fathemateg sy'n canolbwyntio ar derfynau, ffwythiannau, deilliadau, ac integrynnau ydyw calcwlws.
Ystyr gwreiddiol y gair Lladin calculus yw 'carreg gron', a ddefnyddid i gyfrif a chyfrifo e.e. ar abacws.
Enghraifft o'r canlynol | maes o fewn mathemateg |
---|---|
Math | mathemateg datblygedig, dadansoddiad mathemategol |
Yn cynnwys | calcwlws differol, Calcwlws integrol |
Rhagflaenydd | sublime calculation |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae iddi ddwy brif gangen, sef calcwlws differol a chalcwlws integrol, sydd yn perthyn i'w gilydd o ganlyniad i theorem sylfaenol calcwlws. Yn y bôn, yr astudiaeth o newid yw calcwlws, yn yr un modd ag y mai geometreg yn astudiaeth o siâp, ac algebra yn astudiaeth o weithredoedd mathemategol a'u defnydd wrth ddatrys hafaliadau.
Yn gyffredinol, tybir i galcwlws gael ei ddatblygu'n bennaf yn yr 17g gan Isaac Newton a Gottfried Wilhelm Leibniz. Mae iddo lawer o ddibenion beunyddiol, heddiw, mewn gwyddoniaeth ac economeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Calcwlws, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.