Elon Musk: Mentrwr Americanaidd a anwyd yn Ne Affrica

Dyn busnes a buddsoddwr De Affricanaidd-Americanaidd yw Elon Reeve Musk.

Yn Rhagfyr 2023 ef oedd person cyfoethoca'r byd, gydag amcangyfrif o werth net o US$222 biliwn, yn ôl Bloomberg Billionaires Index, a $244 biliwn yn ôl Forbes, yn bennaf o ganlyniad i'w gwmniau Tesla a SpaceX. Ef yw sylfaenydd, cadeirydd, Prif Swyddog Gweithredol a phrif swyddog technoleg SpaceX; mae hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol, pensaer cynnyrch a chyn-gadeirydd Tesla, Inc.; mae'n berchennog, cadeirydd a CTO o X Corp.; sylfaenydd y Boring Company a xAI; cyd-sylfaenydd Neuralink ac OpenAI a yn llywydd Sefydliad Musk.

Elon Musk
Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill
GanwydElon Reeve Musk Edit this on Wikidata
28 Mehefin 1971 Edit this on Wikidata
Pretoria Edit this on Wikidata
Man preswylBel Air, Saskatchewan, Kingston, Boca Chica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Fusnes y Frenhines
  • Coleg Wharton
  • Prifysgol Pennsylvania
  • Pretoria Boys High School
  • Waterkloof House Preparatory School
  • Prifysgol Queen's, Kingston,
  • Prifysgol Stanford
  • Bryanston High School
  • Prifysgol Pretoria Edit this on Wikidata
Galwedigaethrhaglennwr, peiriannydd, entrepreneur, buddsoddwr, person busnes Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr, prif swyddog technoleg, cadeirydd, prif gyfarwyddwr, llywydd ar-y-cyd, prif weithredwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadErrol Musk Edit this on Wikidata
MamMaye Musk Edit this on Wikidata
PriodJustine Musk, Talulah Riley, Talulah Riley Edit this on Wikidata
PartnerAmber Heard, Grimes, Shivon Zilis Edit this on Wikidata
PlantNevada Musk, Vivian Jenna Wilson, Griffin Musk, Damian Musk, John saxon musk, Kai Musk, Exash Musk, Strider Musk, Azure Musk, Exa Musk, Tau Musk Edit this on Wikidata
PerthnasauLyndon Rive, Jana Bezuidenhout Edit this on Wikidata
LlinachY Muskiaid Edit this on Wikidata
Gwobr/augradd er anrhydedd, doctor honoris causa, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gold Medal of the Royal Aeronautical Society, Time Person of the Year, Gwobr Time 100, Financial Times Person of the Year, Medal John Fritz, Gwobr Time 100, NSS Wernher Von Braun Memorial Award, Great Immigrants Award, Axel Springer Award, Stephen Hawking Medal For Science Communication, Edison Awards, Heinlein Prize for Advances in Space Commercialization, Living Legends of Aviation, Order of Defence Merit, Member of the National Academy of Engineering, honorary doctor of the Yale University Edit this on Wikidata
llofnod
Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill

Yn aelod o deulu cyfoethog Musk De Affrica, ganed Elon yn Pretoria a mynychodd Brifysgol Pretoria am gyfnod byr cyn ymfudo i Ganada yn 18 oed, gan gaffael dinasyddiaeth trwy ei fam a aned yng Nghanada. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, aeth i Brifysgol Queen's yn Kingston yng Nghanada. Yn ddiweddarach trosglwyddodd Musk i Brifysgol Pennsylvania, a derbyniodd raddau baglor mewn economeg a ffiseg. Symudodd i Galifornia yn 1995 i fynychu Prifysgol Stanford. Fodd bynnag, rhoddodd Musk y gorau ar ôl dau ddiwrnod a, gyda'i frawd Kimbal, cyd-sefydlodd y cwmni meddalwedd ar-lein Zip2. Prynwyd y cwmni cychwynnol hwn gan Compaq am $307 miliwn ym 1999, ac yn yr un flwyddyn, cyd-sefydlodd Musk X.com, banc uniongyrchol. Unodd X.com â Confinity yn 2000 i ffurfio PayPal.

Yn Hydref 2002, prynnodd eBay y cwmni bancio arlein PayPal am $1.5 biliwn, a'r un flwyddyn, gyda $100 miliwn o'r arian sefydlodd Musk SpaceX, cwmni gwasanaethau hedfan i'r gofod. Yn 2004, daeth yn fuddsoddwr cynnar yn y gwneuthurwr cerbydau trydan Tesla Motors, Inc. (Tesla, Inc. bellach). Daeth yn gadeirydd a phensaer y cynnyrch, gan gymryd swydd Prif Swyddog Gweithredol yn 2008. Yn 2006, aeth Musk ati i greu SolarCity, cwmni ynni solar a gaffaelwyd gan Tesla yn 2016 ac a newidiodd ei enw i Tesla Energy. Yn 2013, cynigiodd system gludo trenau tiwb-faciwm, cyflym. Cyd-sefydlodd OpenAI yn 2015, cwmni ymchwil deallusrwydd artiffisial dielw. Y flwyddyn ganlynol, cyd-sefydlodd Musk Neuralink - cwmni niwrodechnoleg sy'n datblygu rhyngwynebau ymennydd-cyfrifiadur - a'r Boring Company, cwmni adeiladu twneli ar gyfer y trenau tiwb-faciwm. Yn 2022, prynodd Twitter am $44 biliwn. Wedi hynny, unodd y cwmni gyda X Corp. a oedd newydd ei greu ac ailfrandio'r gwasanaeth fel X y flwyddyn ganlynol. Ym Mawrth 2023, sefydlodd xAI, cwmni deallusrwydd artiffisial.

Mae Musk wedi mynegi safbwyntiau sydd wedi ei wneud yn ffigwr dadleuol, nad yw'n cydymffurfio a'r drefn na ffasiwn Beirniadwyd ef am wneud datganiadau anwyddonol a chamarweiniol am COVID-19, trawsffobia, a chamddenhonglwyd ei sylwadau yn erbyn agwedd milwriaethus Llywodraeth Israel. Mae ei berchnogaeth o Twitter wedi bod yr un mor ddadleuol, diswyddwyd nifer o weithwyr a dywedir fod y nifer o drydariadau cas wedi codi a bod gwybodaeth anghywir a diffyg gwybodaeth ar y wefan. Yn 2018, fe wnaeth Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid yr Unol Daleithiau (SEC) ei siwio am drydar ar gam ei fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer meddiannu Tesla yn breifat. I setlo'r achos, ymddiswyddodd Musk fel cadeirydd Tesla a thalu dirwy o $20 miliwn.

Bywyd cynnar ac addysg

Plentyndod a theulu

Ganed Elon Reeve Musk ar 28 Mehefin 1971, yn Pretoria, prifddinas weinyddol De Affrica. Mae ganddo dras Prydeinig a Pennsylvania-Iseldiraidd. Roedd ei fam, Maye Musk (née Haldeman), yn fodel ac yn ddietegydd a anwyd yn Saskatchewan, Canada, ac a fagwyd yn Ne Affrica. Mae ei dad, Errol Musk, yn beiriannydd electromecanyddol o Dde Affrica, yn beilot, yn forwr, yn ymgynghorydd, ac yn ddatblygwr eiddo, a oedd yn rhannol berchen ar fwynglawdd emrallt Zambia ger Llyn Tanganyika, yn ogystal â phorthdy rhent yng Ngwarchodfa Natur Breifat Timbavati. Mae gan Musk frawd iau, Kimbal, a chwaer iau, Tosca.

Roedd teulu Musk yn gyfoethog yn ystod ei ieuenctid. Etholwyd ei dad i Gyngor Dinas Pretoria fel cynrychiolydd y Blaid Flaengar gwrth-apartheid a dywedodd bod ei blant yn rhannu'r un atgasedd at apartheid. Roedd ei dad-cu ar ochr ei fam, Joshua N. Haldeman, o Ganada ac a aeth â'i deulu ar deithiau newydd uwch Affrica ac Awstralia - a hynny mewn awyren un injan, sef Bellanca. Ar ôl i'w rieni ysgaru yn 1980, dewisodd Musk fyw gyda'i dad, yn bennaf. Yn ddiweddarach roedd Musk yn difaru gwneud y penderfyniad hwn ac ymddieithriodd oddi wrth ei dad. Mae ganddo hanner chwaer a hanner brawd drwy ei dad.

Mewn digwyddiad cofiadwy, ar ôl galw bachgen yr oedd ei dad wedi cyflawni hunanladdiad yn "dwp", cafodd Musk ei guro'n ddifrifol a'i daflu i lawr grisiau concrit. Gwawdiodd ei dad Elon am ei ymddygiad ac ni ddangosodd unrhyw gydymdeimlad ag ef er gwaethaf ei anafiadau.

Roedd Musk yn ddarllenwr brwd, gan briodoli ei lwyddiant yn ddiweddarach yn rhannol i ddarllen Benjamin Franklin: An American Life, Lord of the Flies, y gyfres Foundation, a The Hitchhiker's Guide to the Galaxy. Yn ddeg oed, datblygodd ddiddordeb mewn cyfrifiadura a gemau fideo, gan ddysgu sut i raglennu o lawlyfr defnyddiwr VIC-20. Yn ddeuddeg oed, gwerthodd Musk ei gêm BASIC Blastar i'r cylchgrawn PC and Office Technology am oddeutu $500.

Addysg

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Graddiodd Musk o Ysgol Uwchradd Bechgyn Pretoria yn Ne Affrica

Mynychodd Musk Ysgol Baratoadol Waterkloof House, Ysgol Uwchradd Bryanston, ac Ysgol Uwchradd Bechgyn Pretoria, lle graddiodd. Roedd Musk yn fyfyriwr da ond nid eithriadol, gan ennill 61 yn Affricaneg a B ar ei arholiad mathemateg uwch. Gwnaeth Musk gais am basbort o Ganada trwy ei fam a aned yng Nghanada, gan wybod y byddai'n haws mewnfudo i'r Unol Daleithiau fel hyn. Wrth aros i'w gais gael ei brosesu, mynychodd Brifysgol Pretoria am bum mis.

Cyrhaeddodd Musk Ganada ym Mehefin 1989 a bu'n byw gydag ail gefnder iddo yn Saskatchewan am gyfnod o flwyddyn, yn gweithio mewn fferm a melin lumber. Ym 1990, aeth i Brifysgol Queen's yn Kingston, Ontario. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, trosglwyddodd i Brifysgol Pennsylvania (UPenn), lle cwblhaodd astudiaethau ar gyfer gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn ffiseg a gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn economeg o Ysgol Wharton. Er i Musk ddweud ei fod wedi ennill y graddau ym 1995, mae UPenn yn iddynt eu dyfarnu iddo ym 1997. Dywedir fod Musk wedi cynnal partïon mawr i helpu i dalu am ei hyfforddiant, ac ysgrifennodd gynllun busnes ar gyfer gwasanaeth sganio llyfrau electronig tebyg i Google Books.

Ym 1994, cynhaliodd Musk ddwy interniaeth yn Dyffryn Silicon: un yn Sefydliad Ymchwil Pinnacle cychwyn storio ynni, a ymchwiliodd i uwch-gynhwysyddion electrolytig ar gyfer storio ynni, ac un arall yn Rocket Science Games yn Palo Alto. Ym 1995, cafodd ei dderbyn i raglen PhD mewn gwyddor deunyddiau ym Mhrifysgol Stanford. Fodd bynnag, gwnaeth dro pedol; penderfynodd Musk ymuno â chwyldro'r Rhyngrwyd, gan roi'r gorau i Stanford deuddydd ar ôl cael ei dderbyn a gwneud cais am swydd yn Netscape, ond yn ôl y sôn ni dderbyniodd ateb ganddynt.

Gyrfa

Zip2

Fideos allanol
Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill  Musk yn sôn am ei brofiad busnes cynnar yn ystod araith yn 2014 ar YouTube

Yn 1995, sefydlodd Musk, ei frawd Kimbal, a Greg Kouri Global Link, a ailenwyd yn ddiweddarach i Zip2. Ariannwyd y cwmni'n bennaf trwy rownd ariannu o US$200,000, a chyfrannwyd 10% ohono gan ei dad Errol Musk. Datblygodd y cwmni ganllaw dinas Rhyngrwyd gyda mapiau, cyfarwyddiadau, a thudalennau melyn, a'i farchnata i bapurau newydd. Roeddent yn gweithio mewn swyddfa fach ar rent yn Palo Alto, gyda Musk yn codio'r wefan bob nos. Arwyddwyd cytundebau gyda The New York Times a'r Chicago Tribune. Perswadiodd y brodyr y bwrdd cyfarwyddwyr i roi'r gorau i'r syniad o uno â CitySearch; fodd bynnag, rhwystrwyd ymdrechion Musk i ddod yn Brif Swyddog Gweithredol. Prynnodd Compaq Zip2 am $307 miliwn mewn arian parod yn Chwefror 1999, a derbyniodd Musk $22 miliwn am ei gyfran o 7 y cant.

X.com a PayPal

Hefyd yn 1999, cyd-sefydlodd Musk X.com, cwmni bancio a oedd yn gwneud taliadau drwy e-byst ac ar-lein gyda $12 miliwn o'r arian a wnaeth drwy Compaq. X.com oedd un o'r banciau ar-lein cyntaf i gael ei yswirio'n ffederal, ac ymunodd dros 200,000 o gwsmeriaid yn ystod y misoedd cyntaf. Er i Musk sefydlu'r cwmni, roedd buddsoddwyr yn ei ystyried yn amhrofiadol a disodlwyd ef fel Prif Swyddog Gweithredol y cwmni gan Bill Harris, erbyn diwedd y flwyddyn.

Yn 2000, unodd X.com â banc ar-lein Confinity i osgoi cystadleuaeth, gan fod gwasanaeth trosglwyddo arian PayPal yn fwy poblogaidd na gwasanaeth X.com. Yna dychwelodd Musk fel Prif Swyddog Gweithredol y cwmni unedig. Achosodd hoffter o Microsoft yn hytrach na Unix rwyg ymhlith gweithwyr y cwmni, ac yn y pen draw ymddiswyddodd cyd-sylfaenydd Confinity Peter Thiel. Gyda'r cwmni'n dioddef o gymhlethdodau technolegol a diffyg model busnes cydlynol, ymddiswyddwyd Musk gan y Bwrdd a rhoi Thiel yn ei le ym Medi 2000. O dan Thiel, canolbwyntiodd y cwmni ar y gwasanaeth trosglwyddo arian a chafodd ei ailenwi'n PayPal yn 2001.

Yn 2002, prynwyd PayPal gan eBay am $1.5 biliwn mewn stoc, a derbyniodd Musk - cyfranddaliwr mwyaf PayPal gyda 11.72% o gyfranddaliadau - $175.8 miliwn am ei drafferth. Yn 2017, fwy na 15 mlynedd yn ddiweddarach, prynodd Musk y parth X.com gan PayPal oherwydd ei "werth sentimental". Yn 2022, trafododd Musk nod o greu "X, ap popeth" (X, the everything app".)

SpaceX

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Gweinyddwr NASA Charles Bolden yn llongyfarch Musk o flaen y cerbyd gofod SpaceX Dragon, yn dilyn ei daith gyntaf yn 2012

Yn gynnar yn 2001, daeth Musk i gysylltiad â'r Gymdeithas Mawrth cwmni nid-am-elw a thrafododd gynlluniau ariannu i osod siambr dwf ar gyfer planhigion ar y blaned Mawrth. Yn Hydref yr un flwyddyn, teithiodd i Moscow gyda Jim Cantrell ac Adeo Ressi i brynu taflegrau balistig rhyng-gyfandirol (ICBMs) wedi'u hadnewyddu a allai anfon y tŷ gwydr i'r gofod. Cyfarfu â'r cwmnïau NPO Lavochkin a Kosmotras ond gwelwyd Musk fel glaslanc dibrofiad a dychwelodd y grŵp i'r Unol Daleithiau yn waglaw. Yn Chwefror 2002, dychwelodd y grŵp i Rwsia gyda Mike Griffin (llywydd In-Q-Tel ) i chwilio am dri ICBM. Cawsant gyfarfod arall gyda Kosmotras a chynigiwyd un roced iddynt am $8 miliwn, ond gwrthododd Musk y cynnig. Yn lle hynny, penderfynodd ddechrau cwmni a allai adeiladu rocedi fforddiadwy. Gyda $100 miliwn o'i arian ei hun, sefydlodd Musk SpaceX ym Mai 2002 a daeth yn Brif Swyddog Gweithredol a Phrif Beiriannydd y cwmni.

Lansiodd SpaceX eu roced Falcon 1 am y tro cyntaf yn 2006. Er i'r roced fethu â chyrraedd orbit y Ddaear, dyfarnwyd contract rhaglen Gwasanaethau Cludiant Orbitol Masnachol iddi gan Weinyddwr NASA (a chyn-ymgynghorydd SpaceX) Mike Griffin yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Ar ôl dau ymgais aflwyddiannus arall, a fu bron â achosi i Musk a'i gwmnïau fynd yn fethdalwyr, llwyddodd SpaceX i lansio'r Falcon 1 i orbit yn 2008. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, derbyniodd SpaceX gwerth $1.6  biliwn o gontracts gan NASA ar gyfer 12 taith hedfan y roced Falcon 9 a'r llong ofod Dragon i'r Orsaf Ofod Ryngwladol, gan ddisodli'r Wennol Ofod ar ôl ei hymddeoliad yn 2011. Yn 2012, cyrhaeddodd Dragon yr Orsaf Ofod Ryngwladol, y llong ofod fasnachol cyntaf i wneud hynny.

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Musk yn archwilio malurion damwain y roced F9R Dev1 yn 2014

Gan weithio tuag at ei nod o rocedi y gellir eu hailddefnyddio, yn 2015 llwyddodd SpaceX i lanio cam cyntaf Falcon 9 ar lwyfan mewndirol. Glaniwyd yn ddiweddarach ar longau drôn. Yn 2018, lansiodd SpaceX y Falcon Heavy; roedd y genhadaeth gyntaf hon yn cario Tesla Roadster personol Musk fel llwyth. Ers 2019, mae SpaceX wedi bod yn datblygu Starship, cerbyd lansio hynod o drwm y gellir ei ailddefnyddio, gyda'r bwriad o ddisodli'r Falcon 9 a'r Falcon Heavy. Yn 2020, lansiodd SpaceX ei hediad dynol cyntaf, y Demo-2, gan ddod y cwmni preifat cyntaf i fynd a gofodwyr i orbit a docio llong ofod â chriw gyda'r ISS.

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
50 o loerennau Starlink ychydig cyn eu gosod yn orbit isel y Ddaear, 2019

Yn 2015, dechreuodd SpaceX ddatblygu Starlink sef cysawd neu rwydwaith o loerennau orbit isel gyda'r nod o ddarparu mynediad i'r rhyngrwyd drwy loeren, gyda'r ddwy loeren brototeip gyntaf yn cael eu lansio yn Chwefror 2018. Lansiwyd rhan cyntaf y rhwydwaith ym Mai 2019, pan lansiwyd ygyda 60 lloeren weithredol gyntaf yn cael eu lansio. Amcangyfrifir gan SpaceX mai cyfanswm cost y prosiect degawd o hyd i ddylunio, adeiladu a defnyddio'r gytser yw tua $10. biliwn. Mae rhai beirniaid, gan gynnwys yr Undeb Seryddol Rhyngwladol, wedi honni bod Starlink yn rhwystro golygfa o'r awyr ac yn fygythiad gwrthdrawiad i longau gofod. Tynnodd Musk nyth cacwn i'w ben pan ddiffoddodd y mynediad i Satarlink o Wcrain, gan ddweud nad ar gyfer defnydd rhyfel y cawsant eu lansio.

Tesla

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Musg wrth ymyl Model S Tesla, 2011

Ymgorfforwyd Tesla, Inc., Tesla Motors yn wreiddiol, yng Ngorffennaf 2003 gan Martin Eberhard a Marc Tarpenning, a ariannodd y cwmni tan rownd ariannu Cyfres A. Chwaraeodd y ddau ddyn rolau gweithredol yn natblygiad cynnar y cwmni cyn i Musk gymryd rhan. Arweiniodd Musk rownd fuddsoddi Cyfres A yn Chwefror 2004; buddsoddodd $6.5 miliwn, daeth y cyfranddaliwr mwyaf ac ymunodd â bwrdd cyfarwyddwyr Tesla fel cadeirydd. Cymerodd Musk rôl weithredol yn y cwmni a goruchwyliodd ddylunio cynnyrch Roadster, ond nid oedd yn ymwneud â gweithrediadau busnes o ddydd i ddydd y cwmni.

Yn dilyn cyfres o wrthdaro cynyddol yn 2007, ac argyfwng ariannol 2007-2008, cafodd Eberhard ei gardiau, a gadawodd. Ymgymerodd Musk â'r cwmni fel Prif Swyddog Gweithredol a phensaer cynnyrch yn 2008. Dynododd setliad achos cyfreithiol yn 2009 gydag Eberhard mai Musk oedd cyd-sylfaenydd Tesla, ynghyd â Tarpenning a dau arall. O 2019, Musk oedd y Prif Swyddog Gweithredol â deiliadaeth hiraf o unrhyw wneuthurwr modurol yn fyd-eang. Yn 2021, newidiodd Musk ei deitl i "Technoking" wrth gadw ei swydd fel Prif Swyddog Gweithredol (CEO).

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Musk gyda thafluniad o Model X yng nghyfarfod blynyddol cyfranddalwyr Tesla Inc yn 2014

Dechreuodd Tesla werthu sports car trydan cyntaf, y Roadster, yn 2008. Gwerthwyd tua 2,500 o gerbydau dros nos, hwn oedd y car trydan cyfresol cyntaf i ddefnyddio celloedd batri lithiwm-ion. Erbyn 2023, fodd bynnag, edrychwyd ar lithiwm fel dull hen ffasiwn o greu batri. Cyflwynodd Tesla ei Fodel pedwar drws S sedan yn 2012. Yn groesiad o gar, lansiwyd y Model X yn 2015. Rhyddhawyd sedan marchnad dorfol, y Model 3, yn 2017. Yn 2023, y Model 3 oedd y car trydan plug-in a werthwyd orau ledled y byd, ac ym Mehefin 2021 hwn oedd y car trydan cyntaf i werthu 1 miliwn o unedau'n fyd-eang. Lansiwyd pumed cerbyd, sef y Model Y yn 2020. Cafodd y Cybertruck, pickup trydan, ei ddadorchuddio yn 2019. O dan Musk, mae Tesla hefyd wedi adeiladu nifer o ffatrïoedd batris lithiwm-ion a cherbydau trydan, o'r enw Gigafactories.

Ers ei gynnig cyhoeddus cychwynnol yn 2010, mae stoc Tesla wedi codi'n sylweddol; daeth yn wneuthurwr ceir mwyaf arianog yn haf 2020, a daeth i mewn i'r S&P 500 yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Yn Hydref 2021, cyrhaeddodd gyfalafiad marchnad o $1 triliwn, y chweched cwmni yn hanes yr Unol Daleithiau i wneud hynny. Yn Nhachwedd 2021, ar Twitter, cynigiodd Musk werthu 10% o’i stoc Tesla. Wedi i mwy na 3.5 miliwn o gyfrifon Twitter gefnogi'r gwerthiant, gwerthodd Musk $6.9 biliwn o stoc Tesla o fewn wythnos, a chyfanswm o $16.4 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn, gan gyrraedd y targed o 10%. Yn Chwefror 2022, adroddodd The Wall Street Journal fod Elon a Kimbal Musk yn destun ymchwiliad gan y SEC am fasnachu mewnol posibl yn ymwneud â'r gwerthiant. Yn 2022, dadorchuddiodd Musk robot a ddatblygwyd gan Tesla, robot o'r enw Optimus. Ar 20 Mehefin, 2023, cyfarfu Musk â Phrif Weinidog India Narendra Modi yn Ninas Efrog Newydd, gan awgrymu y gallai fod ganddo ddiddordeb mewn buddsoddi yn India "cyn gynted ag y bo modd".

SolarCity a Tesla Energy

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Faniau gosod paneli solar SolarCity yn 2009

Darparodd Musk y cysyniad cychwynnol a chyfalaf ariannol ar gyfer SolarCity, a sefydlodd ei gefndryd Lyndon a Peter Rive yn 2006. Erbyn 2013, SolarCity oedd yr ail ddarparwr mwyaf o systemau pŵer solar yn yr Unol Daleithiau. Yn 2014, hyrwyddodd Musk y syniad o adeiladu cyfleuster cynhyrchu uwch yn Buffalo, Efrog Newydd, tair gwaith maint y gwaith solar mwyaf yn yr Unol Daleithiau. Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r ffatri yn 2014 ac fe'i cwblhawyd yn 2017. Roedd yn gweithredu fel menter ar y cyd â Panasonic tan ddechrau 2020.

Prynodd Tesla y cwmni SolarCity am dros $2 biliwn yn 2016 a’i uno â’i uned batri i greu Tesla Energy. Arweiniodd hyn at ostyngiad o fwy na 10% ym mhris stoc Tesla. Ar y pryd, roedd SolarCity yn wynebu problemau hylifedd ariannol. Fe wnaeth grwpiau cyfranddalwyr lluosog ffeilio achos cyfreithiol yn erbyn cyfarwyddwyr Musk a Tesla, gan nodi bod pryniant SolarCity wedi'i wneud er budd Musk yn unig a'i fod yn dod ar draul Tesla a'i gyfranddalwyr. Setlodd cyfarwyddwyr Tesla yr achos cyfreithiol yn Ionawr 2020, gan adael Musk yr unig ddiffynnydd sy'n weddill. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dyfarnodd y llys o blaid Musk.

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Musk yn trafod dyfais Neuralink yn ystod arddangosiad byw yn 2020

Yn 2016, cyd-sefydlodd Musk Neuralink, egin gwmni niwrotechnoleg, gyda buddsoddiad o $100 miliwn. Nod Neuralink yw integreiddio'r ymennydd dynol â deallusrwydd artiffisial (AI) trwy greu dyfeisiau sydd wedi'u hymgorffori yn yr ymennydd i hwyluso ei uno â pheiriannau. Trafodwyd y cysyniad hwn yn y nofel Y Dydd Olaf a sgwennwyd yn 1968 gan Owain Owain - a hynny yn y Gymraeg. Gallai technoleg o'r fath wella'r cof (yn ôl Musk) neu ganiatáu i'r dyfeisiau gyfathrebu â meddalwedd. Y perygl, yn ôl Y Dydd olaf yw y gall hefyd gyflyru'r person a'i roboteiddio. Mae'r cwmni hefyd yn gobeithio datblygu dyfeisiau i drin cyflyrau niwrolegol fel clefyd Alzheimer, dementia ac anafiadau i fadruddyn y cefn.

Ym Medi 2023, cymeradwywyd y cwmni i gychwyn treialon dynol; bydd y cwmni'n cynnal astudiaeth chwe blynedd.

The Boring Company

Yn 2017, sefydlodd Musk y Boring Company i adeiladu twneli, a datgelodd gynlluniau ar gyfer cerbydau arbenigol, tanddaearol, defnydd uchel a allai deithio hyd at 150 milltir yr awr gan osgoi traffig uwchben y Ddaear mewn dinasoedd mawr. Yn gynnar yn 2017, dechreuodd y cwmni drafod gyda chyrff rheoleiddio a chychwynwyd adeiladu ffos brawf 30 troedfedd (9.1 metr) o led 50 tr (15 m) o hyd 15 tr (4.6 m) o dan wyneb y Ddaear, ar safle swyddfeydd SpaceX, gan nad oedd angen unrhyw drwyddedau. Creodd y cwmni hefyd dwnnel Los Angeles, twnel llai na 2 filltir (3.2 km) yn 2018.

Cwblhawyd twnnel o dan Ganolfan Confensiwn Las Vegas yn gynnar yn 2021. Mae swyddogion lleol wedi cymeradwyo ehangu system y twnnel ymhellach ac yn 2021, cymeradwywyd adeiladu twnnel ar gyfer Fort Lauderdale, Florida.

Twitter (X)

Mynegodd Musk ddiddordeb mewn prynu Twitter yn 2017, ac roedd wedi cwestiynu ymrwymiad y platfform i bwysigrwydd rhyddid barn. Yn ogystal, roedd ei gyn-wraig Talulah Riley wedi ei annog i brynu Twitter i atal y "woke-ism". Yn Ionawr 2022, dechreuodd Musk brynu cyfranddaliadau Twitter, gan gyrraedd cyfran o 9.2% erbyn Ebrill, gan ei wneud yn gyfranddaliwr mwyaf y cwmni. Pan ddatgelwyd hyn yn gyhoeddus, profodd cyfranddaliadau Twitter yr ymchwydd pris mwyaf o fewn diwrnod ers IPO 2013 y cwmni. Ar Ebrill 13, cynigiodd Musk $ 43 biliwn am Twitter, gan lansio cais i feddiannu 100% o'r stoc am $54.20 y cyfranddaliad. Erbyn diwedd y mis roedd Musk wedi cwblhau ei gais yn llwyddiannus am tua $44 biliwn. Roedd hyn yn cynnwys tua $12.5 biliwn mewn benthyciadau yn erbyn ei stoc Tesla a $21 biliwn mewn ariannu ecwiti.

Suddodd gwerth marchnad stoc Tesla $100 biliwn drannoeth y pryniant, mewn ymateb i'r pryniant. Trydarodd Musk ei feirniadaeth o bolisïau Twitter i’w 86 miliwn o ddilynwyr. Yn union fis ar ôl y pryniant, dywedodd Musk fod y fargen “wedi’i gohirio” yn dilyn adroddiad bod 5% o ddefnyddwyr gweithredol dyddiol Twitter yn gyfrifon sbam. Ar 12 Grffennaf 2022, fe wnaeth Twitter siwio Musk yn ffurfiol yn Llys Siawnsri Delaware am dorri cytundeb cyfreithiol rwymol i brynu Twitter. Yn Hydref 2022, gwrthdrodd Musk eto, gan gynnig prynu Twitter am $54.20 y cyfranddaliad. Cwblhawyd y caffaeliad yn swyddogol ar 27 Hydref.

Yn syth ar ôl y caffaeliad, saciodd Musk sawl prif weithredwr Twitter gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol Parag Agrawal; Daeth Musk yn Brif Swyddog Gweithredol yn eu lle. Sefydlodd danysgrifiad misol o $7.99 ar gyfer "siec glas", a diswyddodd gyfran sylweddol o staff y cwmni. Lleihaodd Musk y gwaith o gymedroli cynnwys Twitter, ac aeth ati i adfer cyfrifon fel y Bee, ac yn Rhagfyr, rhyddhaodd Musk ddogfennau mewnol yn ymwneud â chymedroli Twitter parthed Hunter Biden yn y cyfnod cyn etholiad arlywyddol 2020.

Nododd Southern Poverty Law Center fod Twitter wedi caniatau i nifer o eithafwyr leisio eu barn; Cynyddodd y cynnwys o gasineb hefyd ar y llwyfan ar ôl iddo gymryd drosodd, yn eu barn nhw.

Ar ddiwedd 2022, addawodd Musk ymddiswyddo fel Prif Swyddog Gweithredol (CEO) ar ôl iddo gynnal arolwg lle roedd mwyafrif y defnyddiwr eisiau iddo wneud gamu i lawr. Bum mis yn ddiweddarach, gwnaeth hynny o'i rol fel Prif Swyddog Gweithredol a gosododd cyn weithredwr NBCUniversal Linda Yaccarino yn y swydd a throsglwyddo ei rôl i gadeirydd gweithredol a phrif swyddog technoleg X.

Arddull ei arweinyddiaeth

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Musk yn rhoi araith i weithwyr SpaceX yn 2012

Mae Musk yn aml yn cael ei ddisgrifio fel microreolwr ac mae wedi galw ei hun yn "nano-reolwr". Mae'r New York Times wedi'i ddisgrifio (o ran ei arddull a'i ymagwedd) fel absoliwtydd. Nid yw Musk yn gwneud cynlluniau busnes ffurfiol; yn lle hynny, mae'n dweud bod yn well ganddo fynd at broblemau peirianneg  gyda " methodoleg dylunio ailadroddol" ("iterative design methodology") a thrwy bod yn "oddefol o fethiant". Honir ei fod yn gwthio gweithwyr i fabwysiadu jargon y cwmni ei hun ac iddo lansio prosiectau uchelgeisiol, peryglus a chostus yn erbyn argymhellion ei gynghorwyr, megis tynnu radar wyneb blaen o Tesla Autopilot. Mynnodd ddefnyddio system hunangynhaliol cwmniau, sef integreiddiad fertigol, er mwyn i'w gwmnïau symud y rhan fwyaf o'u cynnyrch yn fewnol. Er bod hyn wedi arwain at arbed costau ar gyfer roced SpaceX, dywedir fod integreiddio fertigol wedi achosi llawer o broblemau defnyddioldeb i feddalwedd Tesla.

Mae ymdriniaeth Musk o weithwyr - y mae'n cyfathrebu'n uniongyrchol â nhw trwy e-byst torfol - wedi'i nodweddu fel "dyn y moronen a'r ffon", gan wobrwyo'r rhai "sy'n cynnig beirniadaeth adeiladol" tra hefyd yn hysbys ei fod yn bygwth, rhegi a chael gwared a'i weithwyr yn fyrbwyll. Dywedodd Musk ei fod yn disgwyl i'w weithwyr weithio oriau hir, weithiau am 80 awr yr wythnos. Honir fod ei weithwyr newydd yn arwyddo cytundebau atal datgelu (NDA) llym. Yn 2022, datgelodd Musk gynlluniau i gael gwared a 10% o weithlu Tesla, oherwydd ei bryderon am yr economi. Yr un mis, ataliodd gweithio o bell yn SpaceX a Tesla a bygythiodd gael gwared ar weithwyr nad ydyn nhw'n gweithio 40 awr yr wythnos yn y swyddfa.

Gweithgareddau eraill

Sefydliad Musk

Mae Musk yn llywydd Sefydliad Musk a sefydlodd yn 2001, gyda'r diben o ddarparu systemau ynni mewn ardaloedd lle cafwyd trychineb; cefnogi ymchwil, datblygu ac eiriolaeth (ar gyfer diddordebau gan gynnwys archwilio gofod, pediatreg, ynni adnewyddadwy a "deallusrwydd artiffisial diogel"); a chefnogi ymdrechion addysgol mewn gwyddoniaeth a pheirianneg.

Erbyn 2020 reoedd y sefydliad wedi gwneud 350 o roddion. Gwnaethpwyd tua hanner ohonynt i ymchwil wyddonol neu addysg nid-am-elw. Ymhlith y buddiolwyr nodedig mae Sefydliad Wicimedia, ei alma mater, sef Prifysgol Pennsylvania, a Big Green, cwmni nid-am-elw ei frawd Kimbal. Rhwng 2002 a 2018, rhoddodd y sefydliad $25 miliwn yn uniongyrchol i sefydliadau dielw, ac aeth bron i hanner ohonynt i OpenAI Musk, a oedd yn ddielw ar y pryd.

Yn 2012, ymrwymodd Musk (drwy'r Giving Pledge) i roi'r mwyafrif o'i gyfoeth i achosion elusennol naill ai yn ystod ei oes neu yn ei ewyllys. Mae wedi gwaddoli gwobrau yn yr X Prize Foundation, gan gynnwys $100 miliwn i wobrwyo gwell technoleg dal carbon.

Hyperloop

Yn Awst 2013, cyhoeddodd Musk gynlluniau ar gyfer fersiwn o vactrain - trên tiwb faciwm - a neilltuodd ddwsin o beirianwyr o SpaceX a Tesla i sefydlu'r sylfeini cysyniadol a chreu dyluniadau cychwynnol. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, dadorchuddiodd Musk y cysyniad, a alwyd ganddo yn hyperddolen (Hyperloop). Cyhoeddwyd y cynllun alffa ar gyfer y system mewn papur gwyn a bostiwyd i flogiau Tesla a SpaceX. Roedd y ddogfen yn cynnwys y dechnoleg ac yn amlinellu llwybr posib, lle gellid adeiladu system drafnidiaeth o'r fath rhwng Ardal Fwyaf Los Angeles ac Ardal Bae San Francisco, ar gost o tua $6. biliwn. Byddai'r cynnig, os yw'n dechnegol ymarferol ar y costau a nodir, yn gwneud teithio Hyperloop yn rhatach nag unrhyw ddull arall o deithio am bellteroedd mor hir.

OpenAI a xAI

Yn Rhagfyr 2015, cyd-sefydlodd Musk OpenAI, cwmni ymchwil deallusrwydd artiffisial dielw (AI) sy'n anelu at ddatblygu deallusrwydd cyffredinol artiffisial gyda'r bwriad o fod yn ddiogel ac yn fuddiol i ddynoliaeth. Ffocws arbennig y cwmni yw democrateiddio systemau uwch-ddeallusrwydd artiffisial, yn erbyn llywodraethau a chorfforaethau. Addawodd Musk $1 biliwn o gyllid i OpenAI. Yn 2023, fe drydarodd Musk ei fod wedi rhoi cyfanswm o $100 miliwn i OpenAI. Adroddodd TechCrunch yn ddiweddarach, yn ôl ei ymchwiliad ei hun i gofnodion cyhoeddus, mai “dim ond $15 miliwn” o gyllid OpenAI y gellid ei olrhain yn bendant i Musk. Atebodd Musk ei fod wedi rhoi tua $50 miliwn.

Yn 2018, gadawodd Musk fwrdd OpenAI i osgoi gwrthdaro posibl yn y dyfodol gyda'i rôl fel Prif Swyddog Gweithredol Tesla wrth i'r cwmni ddod i ymwneud yn gynyddol ag AI trwy Tesla Autopilot. Ers hynny, mae OpenAI wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn dysgu peirianyddol, gan gynhyrchu rhwydweithiau niwral fel GPT-3 (cynhyrchu testun tebyg i ddyn), a DALL-E (cynhyrchu delweddau digidol o ddisgrifiadau iaith naturiol) sy'n gwmni gwneud elw.

Ar 12 Gorffennaf 2023, lansiodd Elon Musk gwmni deallusrwydd artiffisial o'r enw xAI, sy'n anelu at ddatblygu rhaglen AI cynhyrchiol sy'n cystadlu ag offrymau presennol fel ChatGPT. Dywedir bod y cwmni wedi cyflogi peirianwyr o Google ac OpenAI. Prynodd y cwmni, sydd wedi'i gorffori yn Nevada, 10,000 o unedau prosesu graffeg. Dywedwyd bod Musk wedi cael cyllid gan fuddsoddwyr yn SpaceX a Tesla.

Digwyddiad canabis 2018

Ym Medi 2018, cafodd Musk ei gyfweld ar bennod o bodlediad The Joe Rogan Experience, pan samplodd sigâr a oedd yn cynnwys canabis. Yn 2022, dywedodd Musk ei bod yn ofynnol iddo ef a gweithwyr SpaceX eraill gael profion cyffuriau ar hap am tua blwyddyn yn dilyn y digwyddiad hwn, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Gweithle Di-gyffuriau 1988 ar gyfer contractwyr Ffederal. Mewn cyfweliad 60 Munud yn 2019, dywedodd Musk, "Dydw i ddim yn ysmygu pot. Fel y gallai unrhyw un a wyliodd y podlediad hwnnw ddweud, nid oes gennyf unrhyw syniad sut i ysmygu pot."

Jet preifat

Yn 2003, dywedodd Musk mai ei hoff awyren oedd yn berchen arno oedd Albatros L-39. Roedd yn defnyddio jet preifat sy'n eiddo i Falcon Landing LLC, cwmni sy'n gysylltiedig â SpaceX, a chafodd ail jet yn Awst 2020. Mae ei ddefnydd trwm o'r jet - hedfanodd dros 150,000 o filltiroedd yn 2018 - a'r defnydd o danwydd ffosil wedi cael ei feirniadu.

Cyfoeth

Gwerth net

Elon Musk: Bywyd cynnar ac addysg, Gyrfa, Gweithgareddau eraill 
Gwerth net Musk rhwng 2013 a 2023 yn ôl amcangyfrif cylchgrawn Forbes

Fel y nodwyd, gwnaeth Musk $175.8 miliwn pan werthwyd PayPal i eBay yn Hydref 2002. Cafodd ei restru gyntaf ar 'Restr Billionaires Forbes' yn 2012, gyda gwerth net o $2 biliwn.

Ar ddechrau 2020, roedd gan Musk werth net o $27 biliwn. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd ei werth net wedi cynyddu $150 biliwn, wedi'i yrru'n bennaf gan ei berchnogaeth o tua 20% o stoc Tesla. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd gwerth net Musk yn aml yn gyfnewidiol. Er enghraifft, gostyngodd $16.3 biliwn ar 8 Medi, y cwymp undydd mwyaf yn hanes Bloomberg Billionaires Index ar y pryd. Yn Nhachwedd y flwyddyn honno, pasiodd Musk gyd-sylfaenydd Facebook Mark Zuckerberg i ddod y trydydd person cyfoethocaf yn y byd; wythnos yn ddiweddarach fe basiodd cyd-sylfaenydd Microsoft, Bill Gates, i ddod yr ail gyfoethocaf.

Yn Ionawr 2021, Musk, gyda gwerth net o $185 biliwn, roedd wedi rhagori ar sylfaenydd Amazon, Jeff Bezos, i ddod y person cyfoethocaf yn y byd. Llwyddodd Bezos i adennill y safle uchaf y mis canlynol. Ar 27 Medi 2021, ar ôl i stoc Tesla gynyddu, cyhoeddodd Forbes fod gan Musk werth net o dros $ 200 biliwn, ac mai ef oedd y person cyfoethocaf yn y byd. Yn Nhachwedd 2021, Musk oedd y person cyntaf i gael gwerth net o fwy na $300 biliwn.

Ar Ragfyr 30, 2022, adroddwyd bod Musk wedi colli $200 biliwn o'i werth net oherwydd dirywiad yng ngwerth stoc Tesla; ef felly oedd y person cyntaf mewn hanes i golli swm mor fawr o arian.

Rheolir cyfoeth personol Musk gan ei swyddfa deuluol o'r enw Excession LLC, a ffurfiwyd yn 2016 ac a redir gan Jared Birchall.

Perthnasau a phlant

Yn 2023 roedd gan Musk 10 o blant wedi goroesi Cyfarfu â'i wraig gyntaf, yr awdur o Ganada Justine Wilson, tra'n mynychu Prifysgol Queen's yn Ontario, Canada; priododd y ddau yn 2000. Yn 2002, bu farw eu plentyn cyntaf o syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS) yn 10 wythnos oed. Ar ôl ei farwolaeth, defnyddiodd y cwpl IVF i barhau â'u teulu; cawsant efeilliaid yn 2004 ac yna tripledi yn 2006. Ysgarodd y cwpl yn 2008 a rhannwyd y warchodaeth. Yn 2022, newidiodd yr efaill hynaf ei henw yn swyddogol i adlewyrchu ei hunaniaeth o ran rhywedd fel menyw draws ac i ddefnyddio Wilson fel ei henw olaf oherwydd nad oedd bellach yn dymuno bod yn gysylltiedig â Musk.

Yn 2008, dechreuodd Musk ganlyn yr actores Saesnig Talulah Riley. Priododd y ddau ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Eglwys Gadeiriol Dornoch yn yr Alban. Yn 2012, ysgarodd y cwpl, cyn ailbriodi y flwyddyn ganlynol. Ar ôl ffeilio'n fyr am ysgariad yn 2014, cwblhaodd Musk ail ysgariad oddi wrth Riley yn 2016. Yna bu'n mynd allan gydag Amber Heard am sawl mis yn 2017.

Yn 2018, datgelodd Musk a'r cerddor o Ganada , Grimes, eu bod yn canlyn. Rhoddodd Grimes enedigaeth i'w mab ym mis Mai 2020. Yn ôl Musk a Grimes, enw'r mab oedd "X Æ A-12"; fodd bynnag, byddai'r enw wedi mynd yn groes i reoliadau California gan ei fod yn cynnwys nodau nad ydynt yn yr wyddor Saesneg fodern, ac fe'i newidiwyd i "X Æ A-Xii". Creodd hyn fwy o ddryswch, gan nad yw Æ yn llythyren yn yr wyddor Saesneg fodern. Yn y diwedd, enwyd y plentyn yn X AE A-XII Musk, gyda "X" fel enw cyntaf, "AE A-XII" fel enw canol, a "Musk" fel cyfenw. Yn Rhagfyr 2021, roedd gan Grimes a Musk ail blentyn, merch o'r enw Exa Dark Sideræl Musk (llysenw "Y"), a aned trwy fam fenthyg (surrogate). Mewn cyfweliad gyda Time yn Rhagfyr 2021, dywedodd ei fod yn ddyn sengl. Yn Mawrth 2022, dywedodd Grimes am ei pherthynas â Musk: "Mae'n debyg y byddwn yn cyfeirio ato fel "fy nghariad", ond 'da ni'n anwadal iawn." Yn ddiweddarach y mis hwnnw, fe drydarodd Grimes ei bod hi a Musk wedi gwahanu eto. Ym mis Medi 2023 datgelwyd bod gan y pâr drydydd plentyn, mab o'r enw Techno Mechanicus "Tau" Musk. Ar 29 Hydref 2023, siwiodd Grimes Musk dros hawliau rhieni a gwarchodaeth o'u mab hynaf.

Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Insider ddogfennau llys yn datgelu bod Musk wedi cael efeilliaid gyda Shivon Zilis, cyfarwyddwr gweithrediadau a phrosiectau arbennig yn Neuralink, ym mis Tachwedd 2021. Fe'u ganed wythnosau cyn i Musk a Grimes gael eu hail blentyn trwy fam fenthyg ym mis Rhagfyr. Roedd Zilis, yn ei gwaith, yn gyfrifol yn uniongyrchol i Musk.

Cyfeiriadau

Tags:

Elon Musk Bywyd cynnar ac addysgElon Musk GyrfaElon Musk Gweithgareddau eraillElon Musk CyfoethElon Musk CyfeiriadauElon MuskForbesSpaceXTesla (cwmni ceir)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Efrog Newydd6 AwstI am Number Four2006Carles Puigdemont1897Kim Il-sungIstanbulBanerRichard WagnerGolffAncien RégimeMaelströmDe Cymru NewyddPenarlâgShïaGemau Olympaidd yr Haf 1920Jerry ReedMiri MawrSgemaPab Ioan Pawl IJohn Frankland RigbyFranz LisztRobert RecordeLlawysgrif goliwiedigChampions of the EarthMahatma GandhiThe Horse BoyAderynY Blaswyr FinegrA-senee-ki-wakwPriodasRhyw llawGroeg (iaith)William Howard TaftDarlithyddRetinaBlood FestYnysoedd TorontoJään KääntöpiiriCaerNwy naturiolLlygoden ffyrnigSpynjBob PantsgwârCelt (band)Gradd meistrAlexandria RileyBethan Rhys RobertsCwnstabliaeth Frenhinol UlsterMagic!TunPisoBeti GeorgeY Wlad Lle Mae'r Ganges yn BywCD14AsiaBig BoobsFelony – Ein Moment kann alles verändernFfotograffiaeth erotigRussell HowardBen-HurBBC Radio CymruGwyddoniadurCymryAlexis de TocquevilleDisgyrchiantWashington (talaith)FloridaSenedd LibanusRhyw Ddrwg yn y CawsThe Principles of Lust🡆 More