Mae dawns neu dawnsio (o'r Ffrangeg danser) yn gelfyddyd, ymarfer corff neu ddifyrwaith sydd, yn ei hanfod, yn gyfres o gamau ac ysgogiadau corfforol rhythmig gan unigolyn, parneriaid neu grŵp o bobl, fel rheol i gyfeiliant cerddoriaeth.
Mae'n cymryd sawl ffurf ac mae ei gwreiddiau yn hynafol iawn gyda pherthynas agos â hanes cerddoriaeth a defodau crefyddol; gwelir olion o hynny yn y dawnsiau gwerin traddodiadol.
Mae'r diffiniad o beth yn union yw dawns yn dibynnu ar gyfyngiadau cymdeithasol, diwylliannol, artistig a moesol. Mae'n amrywio o symudiadau gweithredol (megis dawnsio gwerin) i dechnegau meistrolgar fel ballet. Gellir cymryd rhan mewn dawns neu ei berfformio ar gyfer cynulleidfa. Gall fod yn seremonïol, cystadleuol neu'n rywiol hefyd. Gall dawns ymgorffori neu fynegi syniadau, emosiynau neu adrodd stori.
Mae dawns wedi esblygu i nifer o ddulliau gwahanol. Mae breg-ddawnsio yn gysylltiedig â diwylliant hip hop. Mae dawns Affricanaidd yn ddeongliadol. Dulliau clasurol o ddawns yw ballet, ballroom, y waltz a'r tango tra bod Sgwâr a'r Llithriad Trydanol yn fathau o gamau dawns.
Mae gan bob dawns, waeth beth fo'i ffurf, rhywbeth yn gyffredin. Nid yn unig mae angen cael hyblygrwydd a symudiad corfforol ond rhaid cael ffiseg hefyd. Os na ystyrir y ffiseg cywir, gellir disgwyl cael anafiadau.
Coreograffiaeth yw'r celfyddyd o greu dawnsiau. Gelwir person sy'n creu (h.y. coreograffio) dawns yn goreograffwr.
Mae cystadleuaeth ddawnsio yn ddigwyddiad a drefnir lle mae'r cystadleuwyr yn perfformio dawns gerbron beirniaid er mwyn ennill tlysau neu weithiau gwobr ariannol. Ceir nifer o wahanol fathau o gystadlaethau dawns, yn dibynnu ar y math neu fathau o ddawns a berfformir. Mae'r prif fathau o gystadlaethau dawns yn cynnwys:
A dance competition is an organized event in which contestants perform dances before a judge or judges for awards and, in some cases, monetary prizes. There are several major types of dance competitions, distinguished primarily by the style or styles of dances performed. Major types of dance competitions include:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dawns, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.