Cyffordd Llandudno

Tref fechan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cyffordd Llandudno (Saesneg: Llandudno Junction).

Tyfodd o gwmpas yr orsaf o'r un enw ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n cysylltu Llandudno a Blaenau Ffestiniog, yn defnyddio'r orsaf yn ogystal. Gan fod y rhan fwyaf o deithwyr yn ymwelwyr i Landudno aeth 'Cyffordd Llandudno' yn enw yr orsaf newydd. Cyn dyfodiad y rheilffordd Tre Marl oedd enw'r pentref bach y tyfodd Cyffordd Llandudno ohoni. "Y Gyffordd" neu "Junction" yw ei enw ar lafar yn lleol.

Cyffordd Llandudno
Cyffordd Llandudno
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.28°N 3.8°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH794778 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)

Daearyddiaeth

Yn hanesyddol, mae'n rhan o blwyf Llangystennin, gynt yn rhan o gwmwd Creuddyn. Fe'i lleolir tua tair milltir a hanner i'r de o Landudno ar lan ddwyreiniol Afon Conwy. Dros yr afon, sy'n aberu ym Mae Conwy yma, mae tref hanesyddol Conwy. Mae pont rheilffordd hynafol dros yr afon, a godwyd gan Robert Stephenson, hen bont grog a godwyd gan Thomas Telford, a phont ddiweddar yn cysylltu'r Gyffordd â Chonwy. Yn rhedeg dan yr afon ceir y twnnel y mae lôn ddeuol yr A55 yn rhedeg drwyddo, gan osgoi'r Gyffordd ei hun. I'r gogledd mae Cyffordd Llandudno yn ymdoddi i dref Deganwy. I'r gogledd-ddwyrain mae bryniau'r Marl yn ei chysgodi. I'r dwyrain mae'r hen lôn yn arwain i Fochdre a Bae Colwyn.

Cyffordd Llandudno 
Gorsaf Cyffordd Llandudno

Adeiladau

Yr adeilad amlycaf yn y dref yw Gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno.

Ar hen safle ffatri Hotpoint ar ymyl y dref ceir swyddfeydd rhanbarthol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Gogledd.

Ceir archfarchnad Tesco fawr a sinema amlsgrin ar gyrion y dref, rhwng yr orsaf a'r A55.

Ym mis Medi 2016, unodd y ddwy ysgol gynradd yng Nghyffordd Llandudno, Ysgol Maelgwn ac Ysgol Nant-y-Coed, i ffurfio ysgol newydd, Ysgol Awel y Mynydd.

Gwarchodfa Adar Glan Conwy

Yn ymyl y Gyffordd ar lan Afon Conwy ceir gwarchodfa adar Glan Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o'r Gyffordd i gyffiniau pentref Glan Conwy. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.

Gweler hefyd

Pentrefi bychain ger y Gyffordd:

Cyfeiriadau

Tags:

Cyffordd Llandudno DaearyddiaethCyffordd Llandudno AdeiladauCyffordd Llandudno Gwarchodfa Adar Glan ConwyCyffordd Llandudno Gweler hefydCyffordd Llandudno CyfeiriadauCyffordd LlandudnoBlaenau FfestiniogConwy (sir)Conwy (tref)CymruCymuned (Cymru)Gorsaf reilffordd Cyffordd LlandudnoLlandudnoRheilfforddRheilffordd Arfordir Gogledd CymruRheilffordd Dyffryn Conwy

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Integrated Authority FileYsgol RhostryfanY CarwrWassily KandinskyHalogenMacOSLee TamahoriWsbecistanAsiaDafydd HywelMae ar DdyletswyddBilboBIBSYSSurreyAngeluCynnwys rhyddSeiri RhyddionEmma TeschnerThe Cheyenne Social ClubEconomi Gogledd IwerddonCefn gwladArwisgiad Tywysog Cymru23 MehefinRaja Nanna RajaTecwyn Roberts1809CymraegHolding HopeThe Next Three DaysNorwyaidOriel Gelf Genedlaethol27 Tachwedd9 EbrillSeliwlosAfon TyneGetxoDonostiaWhatsAppGlas y dorlanAlldafliadYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaBwncath (band)RhufainTimothy Evans (tenor)RhyfelCopenhagenCilgwriCyfnodolyn academaiddDewi Myrddin HughesMici PlwmRhifau yn y GymraegRocynDirty Mary, Crazy LarryMoeseg ryngwladolWelsh TeldiscFfloridaKazan’Drudwen fraith AsiaMalavita – The FamilyMount Sterling, IllinoisCaethwasiaethTre'r CeiriAligatorAnnibyniaethSiôr III, brenin y Deyrnas UnedigMain PageCharles Bradlaugh🡆 More