Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Ysbyty Ifan.
Lleolir y pentref ar lannau Afon Conwy ifanc, rhai milltiroedd i'r de o Bentrefoelas ar lôn y B4407 (sy'n cysylltu Pentrefoelas ar yr A5 â Ffestiniog). Hen enw Ysbyty oedd "Dolgynwal".
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 196 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,798.66 ha |
Cyfesurynnau | 53.021°N 3.723°W |
Cod SYG | W04000139 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
Yn yr Oesoedd Canol, roedd yr ardal yn rhan o gwmwd Is Aled, cantref Rhufoniog. Daw enw'r pentref o un o ysbytai Marchogion yr Ysbyty a sefydlwyd yno tua'r flwyddyn 1190 gan Ifan ap Rhys o Drebrys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Er bod Ysbyty Ifan yn ymddangos yn lle digon diarffordd heddiw, yn yr Oesoedd Canol safai ar ffordd bwysig a gysylltai Llŷn ac Eryri i'r gorllewin ac ardaloedd y Gororau i'r dwyrain. Cafodd yr Ysbyty nawdd gan Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf ac yn y 13g roedd gan y sefydliad enw da am ei letygarwch. Roedd gan yr ysbyty (hosbis), a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i Ynys Enlli, yr hawl gyfreithiol i fod yn noddfa ac yn ddiweddarach arweiniodd hynny at sawl herwr guddio yno neu yn y cyffiniau. Parhaodd y sefyllfa felly hyd y 15g pan roddodd yr uchelwr lleol Maredudd ap Ieuan derfyn arno.
Mae pont ddeniadol sy'n dyddio o'r 18g yn croesi Afon Conwy yn y pentref. Gerllaw ceir bythynnod traddodiadol sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth werinol Eryri a'r cylch. Ar lan yr afon saif hen felin a adeiladwyd yn yr 17g. Am gyfnod defnyddid olwyn dŵr y felin i gynhyrchu trydan (hyd 1961).
Codwyd yr eglwys bresennol, Eglwys Sant Ioan, yn 1861 ar safle'r hen eglwys. Ynddi cedwir tair cofeb o'r hen eglwys, o Rys Fawr ap Maredudd o Fryn Gwyn, a ddygodd faner Harri Tudur ar Faes Bosworth, ei wraig Lowri, a'u trydydd fab Robert, a fu'n gaplan i'r Cardinal Thomas Wolsey.
Ym mynwent yr eglwys mae bedd Sion Dafydd Berson neu Sion Dafydd Glocsiwr oedd yn berson yn hen gapel yr Owen ym Mhentrefoelas; ef oedd athro Twm o'r Nant ac ef a'i dysgodd i ddarllen gyntaf. Ar ei garreg fedd mae englyn gan Twm o'r Nant i'w hen athro: "Galar, i'r ddaear ddu - aeth athraw..."
Bu Helga Martin yn tynnu lluniau hen fyrddynnod y plwyf yn 2012-13. Fe‘u cyhoeddwyd ym Mwletinau Llên Natur [1] Archifwyd 2021-01-25 yn y Peiriant Wayback.:
Mur Poeth
Cafwyd yr ymateb canlynol i lun Helga Martin o hwn:
Enghreifftiau eraill o luniau i’w gweld ar wefan Llên Natur [3] (chwilier am Ysbyty Ifan gan ddewis Oriel) yw Bryniau Defaid, Hafod Uddig, Moelfryn, Trawsnant, Gwernhywel Bach, Graig Ddu, Bryn Tirion, Bryn Gwyn, Y Fedw, Cefn Gwyn, Cefn Garw, Ty Cipar, Rhyd Goch, Ty Bach Mynydd, Rhyd yr Uchain [sic.] a Beudy Ty’n Coed.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ysbyty Ifan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.