Twm O'r Nant: Bardd ac anterliwtiwr

Bardd a dramodydd sy'n enwog am ei anterliwtiau oedd Thomas Edwards neu Twm o'r Nant (Ionawr 1739 – 3 Ebrill 1810).

Daeth yn ffigwr amlwg ym mywyd y werin ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g ac mae ei waith yn adleisio profiad a theimlad y dosbarth hwnnw yn wyneb anghyfiawnderau mawr yr oes. Yn ystod ei oes cafodd ei alw "y Cambrian Shakespeare" gan ei edmygwyr.

Twm o'r Nant
Twm O'r Nant: Gyrfa, Ei waith llenyddol, Llyfryddiaeth
GanwydIonawr 1739 Edit this on Wikidata
Llanefydd Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 1810 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, dramodydd, saer maen Edit this on Wikidata

Gyrfa

Ganwyd Twm o'r Nant ym Mhenporchell Isaf, ym mhlwyf Llanefydd, Sir Ddinbych yn 1739. O fewn dwy flynedd symudodd y teulu i'r Nant Uchaf yn Nantglyn (y "Nant" yn ei lysenw), hefyd yn Sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond dysgodd elfennau darllen a sgwennu Cymraeg mewn ysgol rad a sefydlwyd yn Nantglyn. Dywed Twm yn ei hunangofiant ei fod wedi sgwennu ei anterliwt gyntaf yn 9 mlwydd oed. Gweithiodd fel gwas fferm, fel ei dad o'i flaen. Ond cyn hir roedd yn perfformio mewn anterliwtiau yn ffeiriau gogledd-ddwyrain Cymru. Priododd ei gariad Elizabeth Hughes yn 24 oed ar 19 Chwefror 1763, mewn gwasanaeth yn Llanfair Talhaearn a arweinwyd gan y bardd Ieuan Brydydd Hir, a chafodd ferch yn Rhagfyr yr un flwyddyn. Bu fyw â'i wraig yn y gogledd hyd 1769 gan ennill bywoliaeth fel cariwr coed yn Ninbych a Bachymbyd.

Twm O'r Nant: Gyrfa, Ei waith llenyddol, Llyfryddiaeth 
Bedd Twm yn Eglwys Sant Marchell ("Yr Eglwys Wen"), Dinbych.
Twm O'r Nant: Gyrfa, Ei waith llenyddol, Llyfryddiaeth 
Bedd Twm yn Sant Marchell Llanfarchell, Dinbych.

Yna daeth tro mawr ar ei fywyd ac aeth Twm i lawr i'r De a Sir Drefaldwyn i ddianc rhag ei ddyledwyr a threuliodd gyfnod helbulus yn cadw tafarn ac yn gofalu am dollborth yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.

Dychwelodd Twm i'r gogledd yn 1789 a bu aros yno hyd ddiwedd ei oes. Cododd gartref i'r teulu ar ddarn o dir rhwng Natnglyn a Llansannan. Bu rhaid iddo droi ei law at sawl peth, yn cynnwys gwaith saer maen ac fel gosodwr ffwrnesiau a gratiau. Trodd fwyfwy at grefydd yn ei henaint a daeth yn gyfeillgar iawn â Thomas Charles o'r Bala. Mae'r anterliwtiau a gyfansoddodd yng nghyfnod olaf ei oes yn llawer llai masweddus ac yn adlewyrchu profiad Twm dan ddylanwad Methodistiaeth. Bu farw ar 3 Ebrill 1810 a chafodd ei gladdu ym mynwent Llanfarchell (neu'r "Yr Eglwys Wen"), ger Dinbych.

Ei waith llenyddol

Twm O'r Nant: Gyrfa, Ei waith llenyddol, Llyfryddiaeth 
Portread o Twm o'r Nant, tua 1790-1800, gan Lewis Hughes. Olew ar bren (Amgueddfa Gwerin Cymru).

Cofir Twm yn bennaf am ei anterliwtiau. Math o ddrama boblogaidd a chwareid ar lwyfannau agored mewn ffeiriau a gwyliau mabsant oedd yr anterliwt. Ceir elfen gref o ffars a dychan ynddynt, ynghyd â beirniadaeth gymdeithasol a moesol. Yr anterliwtiau pwysicaf gan Twm o'r Nant yw:

  • Tri Chydymaith Dyn (1762)
  • Y Farddoneg Fabilonaidd (1768)
  • Cyfoeth a Thlodi (1768)
  • Pedair Colofn Gwladwriaeth (1786)
  • Pleser a Gofid (1787)
  • Tri Chryfion Byd (1789)
  • Bannau y Byd (1808)
  • Cybydd-dod ac Oferedd (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, 1870)

Ond mi fu Twm yn fardd hynod o boblogaidd yn ogystal. Ysgrifennodd nifer o garolau, baledi, cywyddau ac englynion. Gwerthid ei gerddi gan faledwyr yn y ffeiriau a chyhoeddwyd y gyfrol Gardd o Gerddi yn 1790. Cymerodd Twm ran flaenllaw yn Eisteddfod Caerwys 1798, eisteddfod fawr a oedd yn ymgais i adgyfodi traddodiad yr hen eisteddfodau yng Nghaerwys yn yr 16g. Cafodd Twm ei wneud yn Ddisgybl Penceirddiad. O'r un cyfnod tyfodd gelyniaeth rhwng Twm a Dafydd Ddu Eryri a barodd am weddill ei oes.

Ysgrifennodd Twm o'r Nant hunangofiant byr a bywiog sy'n llawn o wybodaeth am ei fywyd a'i feddylfryd, Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r Nant. Cedwir yn ogystal nifer o lythyrau ganddo.

Llyfryddiaeth

Twm O'r Nant: Gyrfa, Ei waith llenyddol, Llyfryddiaeth 
Twm o'r Nant yn ei henaint, portread cyfoes.

Gwaith Twm o'r Nant

Astudiaethau

  • Wyn Griffith, Twm o'r Nant (Caerdydd, 1953). Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi.
  • Saunders Lewis, 'Twm o'r Nant', Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd, 1973)
  • Kate Roberts, 'Twm o'r Nant', yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (1966)
  • E. Wyn James, 'Rhai Methodistiaid a’r Anterliwt: John Hughes, Pontrobert, Twm o’r Nant ac Ann Griffiths', Taliesin, Hydref 1986 [1]

Cyfeiriadau

Twm O'r Nant: Gyrfa, Ei waith llenyddol, Llyfryddiaeth 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Tags:

Twm O'r Nant GyrfaTwm O'r Nant Ei waith llenyddolTwm O'r Nant LlyfryddiaethTwm O'r Nant CyfeiriadauTwm O'r Nant1739181018g19g3 EbrillAnterliwtBarddIonawr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1993Ifan Gruffydd (digrifwr)John William ThomasUnol Daleithiau AmericaGwilym Roberts (Caerdydd)Meddylfryd twfHenry KissingerCymraegPessach633Gogledd CoreaBamiyanDatganoli CymruWhatsAppThe Principles of Lust69 (safle rhyw)YstadegaethCudyll coch MolwcaiddGogledd IwerddonY rhyngrwydC.P.D. Dinas CaerdyddSefydliad WicimediaCaerwyntIeithoedd GoedelaiddRichard ElfynCaerwrangon1973Cod QRShowdown in Little TokyoLlanelliDestins ViolésSisters of AnarchyWiciadurTwo For The MoneyLlanarmon Dyffryn CeiriogDonatella VersaceMarchnataHollywoodBugail Geifr LorrainePaddington 2Ysgol Henry RichardIncwm sylfaenol cyffredinolAderynAderyn mudolFfraincGwyddoniasPrawf TuringAltrinchamFfloridaY Tywysog SiôrLloegr Newydd19eg ganrifGalaeth y Llwybr LlaethogHarry Potter and the Philosopher's Stone (ffilm)PubMedKatwoman XxxDinas SalfordY Weithred (ffilm)MorfiligionCiArdal 51Simon BowerMycenaeAnnie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)Woyzeck (drama)Gruff Rhys🡆 More