Dinas yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Caerwynt neu Caer-wynt (Saesneg: Winchester).
Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Dinas Caerwynt. Mae'n ganolfan weinyddol yr ardal an-fetropolitan honno, yn ogystal â sir seremonïol Hampshire a sir an-fetropolitan Hampshire. Saif ar lan Afon Itchen. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caerwynt boblogaeth o 45,184. Mae'n ddinas hanesyddol sy'n gartref i Eglwys Gadeiriol Caerwynt, a godwyd yn yr 11g ar safle eglwys gynharach. Fel prifddinas teyrnas Sacsonaidd Wessex a safle llys ei brenhinoedd, bu bron mor bwysig â Llundain yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Mae'n gartref i Goleg Caerwynt, ysgol gyhoeddus hynaf Lloegr, a sefydlwyd gan William o Wykeham yn 1382. Bu farw'r nofelydd Jane Austen yn y ddinas.
Math | dinas, tref sirol, ardal ddi-blwyf |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Caerwynt |
Poblogaeth | 35,200 |
Gefeilldref/i | Gießen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Hampshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Littleton and Harestock |
Cyfesurynnau | 51.0633°N 1.3086°W |
Cod SYG | E43000074 |
Cod OS | SU485295 |
Cod post | SO22, SO23 |
Dinasoedd
Caerwynt · Portsmouth · Southampton
Trefi
Aldershot · Alton · Andover · Basingstoke · Bishop's Waltham · Bordon · Eastleigh · Emsworth · Fareham · Farnborough · Fleet · Fordingbridge · Gosport · Havant · Hedge End · Lymington · New Alresford · New Milton · Petersfield · Ringwood · Romsey · Southsea · Tadley · Totton and Eling · Whitchurch · Wickham · Yateley
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Caerwynt, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.