Dafydd Ddu Eryri: Bardd Cymraeg

Roedd David Thomas, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Dafydd Ddu Eryri (1759 – 30 Mawrth 1822) yn fardd ac athro beirdd a aned yn Waunfawr yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd).

Dafydd Ddu Eryri
Dafydd Ddu Eryri: Bywgraffiad, Gwaith llenyddol, Marwolaeth Dafydd Ddu
FfugenwDafydd Ddu Eryri Edit this on Wikidata
Ganwyd1759 Edit this on Wikidata
Eglwys Sant Mihangel Edit this on Wikidata
Bu farw22 Rhagfyr 1822 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Afon Cegin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Dafydd Ddu Eryri: Bywgraffiad, Gwaith llenyddol, Marwolaeth Dafydd Ddu
Llechen ar gartref Dafydd Du yn Waunfawr

Bywgraffiad

Roedd yn fab i wehydd ac ym more ei oes bu yntau'n dilyn yr un alwedigaeth. Cafodd fymryn o addysg elfennol gan glerigwr lleol ac aeth yn athro ysgol lleol yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1781. Daeth yn ffigwr pwysig yn niwylliant ei fro a hybai safonau barddoniaeth a dysgodd lu o feirdd lleol. Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn Llanrug.

Bu farw trwy foddi yn Afon Cegin ar noson ystormus, 30 Mawrth 1822; cafwyd hyd i'w gorff dranoeth yn ymyl i'r sarn a geisiasai groesi.

Fe'i claddwyd ym mynwent Llanrug a chodwyd cofgolofn yno gan ei gymwynaswr Peter Bailey Williams, person y plwyf, i nodi ei fedd.

Dafydd Ddu Eryri: Bywgraffiad, Gwaith llenyddol, Marwolaeth Dafydd Ddu 
Portread o David Thomas (Dafydd Ddu), Eryri

Gwaith llenyddol

Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei awdlau, carolau a cherddi moesol a chrefyddol. Enillodd y fedal arian am ei awdl 'Rhyddid' yn eisteddfod y Gwyneddigion yn Llanelwy, 1790. Er nad yw o lawer o werth llenyddol mae'n mynegi'r wrthwynebiad cynnydol i gaethwasaieth. Enillodd dlwas arall yn eisteddfod y Gwyneddigion yn Llanrwst, 1791. Cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd yn y gyfrol Corph y Gaingc yn 1810.

Er iddo dreulio peth amser yng nghylch y Gwyneddigion ni fedrai ddygymod â Radicaliaeth y mudiad a syniadau rhyfedd William Owen Pughe am yr iaith Gymraeg a'i horgraff. Yn 1783 sefydlodd gymdeithasau llenyddol mewn gwahanol rannau o Arfon i hyrwyddo cerdd dafod a chodi safonau llenyddol ei fro, gan gynnwys 'Cymdeithas yr Eryron' a fu'n cwrdd yn nhafarn y Bull's Head ym Mhontnewydd. Yn 1795 trefnodd eisteddfod ym Mhenmorfa.

Creuodd gylch o ddisgyblion oedd yn cynnwys Robert Morris "Robin Ddu Eifionydd" (c. 1767–1816), Elis Wyn o Wyrfai (1827–1895), Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769–1838), William Williams (Gwilym Peris) (1769–1847), Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785–1848), William Edwards (Gwilym Padarn) a'i fab Griffith Edwards (Gutyn Padarn), Owen Williams (Owain Gwyrfai) o Waunfawr a William Ellis Jones (Cawrdaf). Fel "Cywion Dafydd Ddu" yr adnabyddid y beirdd hyn. Er nad oes llawer o lewyrch ar eu gwaith yn ôl safonau beirniadol heddiw bu gan y beirdd lleol hyn, llawer ohonynt yn chwarelwyr neu dyddynwyr, rôl bwysig i chwarae yn cynnal traddodiad yr eisteddfod a rheolau cerdd dafod yn y cymunedau chwarel a dyfodd yn Eryri yn y 19g, yn arbennig yn ardaloedd Dyffryn Nantlle a Llanberis.

Marwolaeth Dafydd Ddu

Dafydd Ddu Eryri: Bywgraffiad, Gwaith llenyddol, Marwolaeth Dafydd Ddu 
Bedd Dafydd Ddu Eryri - Mynwent Eglwys Sant Mihangel, Llanrug, Gwynedd

Ar noson 30 Mawrth, 1822 cerddodd adref i Lanrug o Fangor ar ôl ymweld â rhai o glerigwyr llengar Môn, ac wedyn yn fwynhau yn un o dafarnau'r ddinas. Wrth geisio croesi'r Afon Cegin ger Pentir disgynnodd a boddodd mewn ychydig o fodfeddi o ddŵr.

Ysgrifennwyd y canlynol i nodi ei farwolaeth:

Hon ydyw'r afon, ond nid hwn yw'r dŵr
A foddodd Ddafydd Ddu.

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig, o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893)
  • Bedwyr Lewis Jones, "The Literary Awakening in Arfon and Eifionydd", Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)
  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)
Dafydd Ddu Eryri: Bywgraffiad, Gwaith llenyddol, Marwolaeth Dafydd Ddu 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Tags:

Dafydd Ddu Eryri BywgraffiadDafydd Ddu Eryri Gwaith llenyddolDafydd Ddu Eryri Marwolaeth Dafydd DduDafydd Ddu Eryri CyfeiriadauDafydd Ddu Eryri LlyfryddiaethDafydd Ddu Eryri1759182230 MawrthBarddEnw barddolGwyneddSir GaernarfonWaunfawr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Arwisgiad Tywysog CymruAndrew MotionWhatsAppCoshocton County, OhioThe BeatlesHil-laddiad ArmeniaFlavoparmelia caperataOrgan (anatomeg)Fideo ar alwAbigailIstanbulFergus County, MontanaPolcaClermont County, Ohio11 ChwefrorEscitalopramTeiffŵn HaiyanJuan Antonio VillacañasProtestiadau Sgwâr Tiananmen (1989)1572Muskingum County, OhioY Bloc DwyreiniolAylesburyRhyfel yr Undeb Sofietaidd yn AffganistanGwenllian DaviesThomas BarkerBae CoprWhitewright, TexasCanolrifPierce County, NebraskaNeram Nadi Kadu AkalidiTîm pêl-droed cenedlaethol Wrwgwái25 Mehefin1195The Iron GiantGary Robert JenkinsY MedelwrSant-AlvanLYZVan Buren County, ArkansasGwlad GroegTuscarawas County, OhioTywysog CymruMarion County, OhioCass County, NebraskaEdward BainesJoseff StalinOhio City, OhioTomos a'i FfrindiauThe WayTrumbull County, OhioSiôn CornY Cerddor CymreigNatalie PortmanCymraegThe SimpsonsMonsantoRaritan Township, New JerseyCamymddygiadAugustusTawelwchBanner County, NebraskaPeiriannegHocking County, OhioSaline County, ArkansasMeicro-organebSandusky County, OhioColumbiana County, OhioGwyddoniadurGwlad y BasgMacOSLos AngelesSigwratRobert Wagner🡆 More