Penmorfa: Pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan yn Eifionydd, Gwynedd, yw Penmorfa ( ynganiad ) .

Mae'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Dremadog ar bwys yr A487.

Penmorfa
Penmorfa: Enwogion, Croesi ac osgoir morfa, Pwllgoleulas
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.943089°N 4.162283°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Penmorfa: Enwogion, Croesi ac osgoir morfa, Pwllgoleulas
Eglwys Sant Beuno, Penmorfa.

Fe'i gelwir yn Benmorfa am ei fod yn gorwedd ar ben gorllewinol morfa Tremadog, sy'n rhan o'r Traeth Mawr; buasai'r tir hwn yn wlypach o lawer cyn i William Madocks godi morglawdd dros geg y Traeth Mawr.

Cofrestwryd Eglwys Sant Beuno, Penmorfa yn adeilad Gradd II* gan Cadw. Mae wedi cau ers rhai blynyddoedd.

Ar ochr arall yr Alltwen i'r gogledd o'r pentref ceir hen blasdy'r Gesail Gyfarch gyda phlasdy'r Clenennau yn ei wynebu dros y cwm. Ar wahân i'r A487, mae lonydd bychain dros y morfa yn cysylltu'r pentref â Pentrefelin a Cricieth i'r de-orllewin a Penamser a Phorthmadog i'r de-ddwyrain.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Enwogion

Croesi ac osgoi'r morfa

Penmorfa: Enwogion, Croesi ac osgoir morfa, Pwllgoleulas 
Hen arwydd “Penmorfa” ger gorsaf Tan y Bwlch yn cyfeirio teithwyr o gwmpas, ac nid dros y Traeth Mawr fel heddiw

Prin y gallwn ddirnad ôl y llythrennau ar y graig ond hen arwydd i Benmorfa ydi hwn wedi ei osod rhyw oes cyn codi morglawdd Maddocks ddechrau’r 19g. Y pryd hwnnw roedd siroedd Meirionnydd a Chaernarfon wedi eu gwahanu i bob pwrpas gan ucheldir a chan morfa anferth aber y Glaslyn, sef y Traeth Mawr. Am le godidog fyddai’r aber hwnnw cyn ei ddifetha fel cynefin naturiol gan gob Maddocks, a’r ffordd newydd. Meddyliwch gorfod mynd ar hyd yr hen ffordd o Faentwrog i Benmorfa trwy Rhyd, Llanfrothen, Aberglaslyn, Prenteg. Mae'r arwydd o garreg i’w weld heddiw yn y wal ar ymyl y ffordd rhwng y fynedfa i orsaf Tan y Bwlch a Llyn Mair.

Pwllgoleulas

Rhan isaf pentre Penmorfa yw Pwllgoleulas ar lannau’r hen Draeth Mawr. Gall yr enw gyfeirio at y cannwyll corff (‘’Will-o’-the-wisp’’). Dyma breswylydd o’r pentref Tom Jones yn 2012:

    ‘’Yn ddiweddar rhoddwyd enw pob ochor i bentref Pwllgoleuglas sydd rhwng Penmorfa a Thremadog. Pwllgloywlas fu ar lafar am flynyddoedd lawer gan pawb ac fe roedd cwestiynu pan ddaeth yr arwyddion allan a oedd camgymeriad, ond doedd dim, Pwllgoleulas oedd yr enw cywir. Mae'r pentref ar gyrion 'rhen draeth, cyn codi'r cob ym Mhorthmadog. Byddai'r llanw yn dod i fyny hyd at Penmorfa felly morfa gwlyb a fyddai yno pan a'i y llanw allan. Felly tybed mai pwll gwlyb oedd yma a bod nwyon yn codi ohonno a fflam las yn dod ohonno pan danniai'r nwyon a rhoi enw i Pwllglauglas? Pwy a wyr?


Yn ôl Archif Melville Richards o Enwau Lleoedd, mae'r lle yn cael ei gydnabod fel 'Pwll Gloyw Lâs' ar ddogfennau trethiant tir yn 1769. Ar y Mapiau Degwm ymddengys fel Pwll Gloewlas. Felly hefyd ar fapiau diwedd y 1800au. Yng nghyfrol Alltud Eifion, 'Gestiana' nodir 'Pwllgloyw Glas. Mae'r cyfuniad o 'Pwll + Gloyw + Glas' felly yn fwy tebygol o fod wir nag elfen o dybio mai 'Pwll+Golau+Glas' yw'r tarddiad.

Cyfeiriadau

Tags:

Penmorfa EnwogionPenmorfa Croesi ac osgoir morfaPenmorfa PwllgoleulasPenmorfa CyfeiriadauPenmorfaA487Delwedd:Penmorfa.oggEifionyddGwyneddPenmorfa.oggTremadogWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Edward VII, brenin y Deyrnas UnedigURLHanes TsieinaCreampieHwyaden ddanheddogGNU Free Documentation LicenseStygianJimmy WalesAnna MarekLlythrenneddDelweddFfloridaBoddi TrywerynC.P.D. Dinas Caerdydd1 Ebrill7fed ganrifInternet Movie DatabaseSupport Your Local Sheriff!2024HollywoodMahanaLlydawAneurin Bevan1904CyfandirEmma NovelloHwngariProtonRhestr baneri CymruOrganau rhywCerrynt trydanolWicipediaE. Wyn JamesCydymaith i Gerddoriaeth CymruRyan DaviesOlewyddenTsunamiAbermenaiRhif Llyfr Safonol RhyngwladolCiWilliam ShakespeareGwlad PwylBertsolaritzaHunan leddfuRhian MorganSbaenDer Da Ist Tot Und Der Beginnt Zu SterbenAlecsander FawrCwmwl OortBig BoobsCyfeiriad IPCaerwrangonArwyddlun TsieineaiddRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrGwyddoniadurRhyw geneuolMorocoPussy RiotWilbert Lloyd RobertsAwstraliaJohn Ceiriog HughesThe NailbomberHebog tramorY Tywysog SiôrGweriniaeth1993Rhodri LlywelynRhyw rhefrolI am Number Four🡆 More