Aberdyfi: Pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref a chymuned, yng Ngwynedd, Cymru, yw Aberdyfi (Saesneg: Aberdovey yn draddodiadol, er mai Aberdyfi yw'r ffurf a argymhellir erbyn hyn).

Fe'i lleolir yn ardal Meirionnydd ar lan ogleddol aber eang Afon Dyfi. Saif ar briffordd yr A493 ac ar Reilffordd y Cambrian, rhwng Pennal a Machynlleth i'r dwyrain a Thywyn i'r gogledd. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant yno heddiw. Mae traeth eang tywodlyd yn ymestyn am filltiroedd o Aberdyfi i Dywyn ac mae'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr haf.

Aberdyfi
Aberdyfi: Tai haf, Yr hen fferi, Diwylliant a thraddodiadau
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth878 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,128.22 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5444°N 4.0444°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000043 Edit this on Wikidata
Cod OSSN615965 Edit this on Wikidata
Cod postLL35 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Tai haf

Mae'r pentref yn nodedig am ei ganran uchel o dai haf. Ym mis Hydref 2021 datgelwyd bod 54% o’r holl eiddo yn y pentref naill ai'n ail gartrefi, tai gwyliau ar osod, neu’n wag.

Yr hen fferi

Ar un adeg bu gwasanaeth cwch fferi yn cysylltu Aberdyfi ag Ynys Tachwedd, ger y Borth, ar lan ddeheuol Afon Dyfi. Mae'n bosibl mai fan hyn y croesodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint ar eu ffordd i'r gogledd ym 1188; "croesasom yr afon mewn cwch," meddai Gerallt yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru.

Aberdyfi: Tai haf, Yr hen fferi, Diwylliant a thraddodiadau 
Aberdyfi, 1860
Aberdyfi: Tai haf, Yr hen fferi, Diwylliant a thraddodiadau 
Hen ffotograff o Gasgliad John Thomas, 1885 o Benhelyg

Diwylliant a thraddodiadau

Mae'r dref yn enwog am y gân werin adnabyddus "Clychau Aberdyfi", a gysylltir weithiau â chwedl Cantre'r Gwaelod. Cyhoeddwyd yr alaw gan Maria Jane Williams (Llinos) (1795-1883) yn y gyfrol Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg (1844). Yn ddiweddarach ysgrifennodd Ceiriog eiriau i'r alaw yn ogystal. Mae'r nofel The Misfortunes of Elphin gan Thomas Love Peacock yn gymysgiad bwrlesg o draddodiad "Clychau Aberdyfi", chwedl Cantre'r Gwaelod ac elfennau o'r chwedl Hanes Taliesin.

Ceir cân werin arall, sef "Mynydd Aberdyfi", hefyd:

Mi geisiaf eto ganu cân
I'th gael di 'nôl fy ngeneth lân
I'r gadair siglo ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi...

Tro ar fyd

Neges cerdyn post o’r Bermo 28 Gorffennaf 1961:

    Bermo 28 Gorffennaf 1961: The weather has been grand except for today when we went on our excursion to Aberdovey. Aberdovey is a horrible place and there is only a few shops and NOT 1 chippy. They don't have chippies because they can't abide the smell of chips.

Rhyfedd o fyd i bentref yn enwog am ei physgod a'r llusenw ym Meirionnydd am bobol Aberdyfi oedd "Sgadans".

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberdyfi (pob oed) (878)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberdyfi) (263)
  
30.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberdyfi) (307)
  
35%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberdyfi) (222)
  
45.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Aberdyfi Tai hafAberdyfi Yr hen fferiAberdyfi Diwylliant a thraddodiadauAberdyfi Cyfrifiad 2011Aberdyfi EnwogionAberdyfi OrielAberdyfi Gweler hefydAberdyfi CyfeiriadauAberdyfi Dolenni allanolAberdyfiA493AberAfon DyfiCymruCymuned (Cymru)DiwydiantGwyneddMachynllethMeirionnyddPennalRheilffordd y CambrianTraethTwristiaethTywyn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Pedro I, ymerawdwr BrasilMichelangeloCenhinen BedrJava (iaith rhaglennu)1684CamriBaner yr Unol DaleithiauWashington (talaith)Ffrwydrad Ysbyty al-AhliFfraincNeopetsKappa MikeyTywysog CymruLukó de RokhaCREBBPMwstardThe SpectatorShïaFfilm arswydMaelströmComicEwcaryotHal DavidYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaGronyn isatomigHunaniaeth ddiwylliannolPont y BorthLleiddiadDinasoedd CymruCicio'r barRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonSigarét electronigTŵr EiffelTongaRhestr Cymry enwogDisgyrchiantAisha TylerFfibrosis systigAwstraliaThe Private Life of Sherlock HolmesPengwinWoyzeck (drama)BlogDafydd IwanPeter FondaKatwoman XxxBara brithTodos Somos NecesariosJohn Frankland RigbyParalelogramThe Big ChillHaikuI am Number FourYr EidalCwmni India'r DwyrainLos AngelesMartin LandauISBN (identifier)Evil LaughDydd LlunPlaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)14 GorffennafAncien RégimeCemegProtonMailAlphonse DaudetThe Wicked DarlingJustin TrudeauFuerteventuraCreampieThe Good GirlLleuwen SteffanEroplen🡆 More