Pentrefan Tal-Y-Llyn: Pentref yng Ngwynedd

Pentrefan bach a chyn plwyf yng nghymuned Llanfihangel-y-Pennant, Gwynedd, Cymru, yw Tal-y-llyn.

Saif ar lannau Llyn Mwyngil yn agos at bentref Abergynolwyn. Roedd y plwyf gwreiddiol yn 36,000 erw (15,000 ha). Eglwys y Santes Fair, Tal-y-llyn, oedd canolfan y plwyf o'r canol oesoedd hyd ddatblygu'r diwydiant llechi yn ne Meirionnydd yn y 1780au. Agorwyd chwareli yn ardaloedd Corris ac Aberllefenni o blwyf Tal-y-llyn a daeth y pentrefi a thyfodd o amgylch y chwareli yn bwysicach o ran poblogaeth a gweithgarwch na phentref y llan.

Tal-y-llyn
Pentrefan Tal-Y-Llyn: Pentref yng Ngwynedd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6669°N 3.9083°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH709094 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Mae eglwys y plwyf yn dyddio o'r 13g, gyda'r strwythur presennol yn dyddio o tua 1590 (gydag olion yn awgrymu eglwys gynharach o'r 6g). [3] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II *. Mae John David Edwards (1805-1885), offeiriad Eglwys Loegr a chyfansoddwr yr emyn dôn Rhosymedre, wedi'i gladdu ym mynwent yr eglwys.

Llifa Afon Dysynni allan o'r llyn ger pentref Tal-y-llyn, gan ymdroelli tuag at Fae Ceredigion i'r gogledd o Dywyn. Mae olion Llyn y Tri Greyeyn i'w gweld ar gyrion yr hen blwyf ym Mwlch Llyn Bach.

Adeiladwyd Rheilffordd Talyllyn yn y 1860au i wasanaethu'r chwareli ym Mryn Eglwys. Er na chyrhaeddodd at y llyn na'r pentref erioed, a ni fu cynlluniau iddi wneud hynny, roedd terfynfa'r rheilffordd yn y plwyf, a thrwy hynny yn rhoi ei henw i'r rheilffordd. Bellach mae twristiaeth yn un o brif ddiwydiannau'r ardal, ac mae'r pentrefan yn cynnwys gwesty a thafarn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Cyfeiriadau

Pentrefan Tal-Y-Llyn: Pentref yng Ngwynedd  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Tags:

AbergynolwynAberllefenniCorrisCymruCymuned (Cymru)Diwydiant llechi CymruEglwys y Santes Fair, Llyn MwyngilGwyneddLlanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)Llyn MwyngilSir FeirionnyddYr Oesoedd Canol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

HindŵaethJanet YellenHanes Tsieina1912WicipediaBoddi TrywerynIestyn GarlickCudyll coch MolwcaiddGogledd CoreaSupport Your Local Sheriff!Yr AlbanClwb C3Miguel de CervantesI am Number FourRhestr dyddiau'r flwyddyn1616Fideo ar alwLlinWcráinCreampieIfan Gruffydd (digrifwr)C.P.D. Dinas AbertaweAbermenaiSawdi ArabiaCalsugnoSefydliad WicifryngauShowdown in Little TokyoLlyn y MorynionIndonesiaCathRhif Llyfr Safonol RhyngwladolCanadaRhian MorganXXXY (ffilm)Rhestr CernywiaidPubMedCynnwys rhyddJohn William ThomasXHamsterHafan1927Dosbarthiad gwyddonolWilliam ShakespeareGIG CymruCascading Style SheetsCyfandirSaunders LewisBeibl 1588Simon BowerElectronRwsegBertsolaritzaBig BoobsGirolamo SavonarolaIndonesegWessexWalking TallBananaMelyn yr onnen🡆 More