Yr eglwys wladol a sefydlodd Harri VIII yng Nghymru a Lloegr pan dorrodd y cysylltiad â'r Eglwys Gatholig er mwyn iddo allu cael ysgariad yw Eglwys Loegr.
Archesgob Caergaint yw pennaeth Eglwys Loegr a'r Eglwys Anglicanaidd yn ogystal. Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr ym 1920.
Mae Eglwys Loegr yn cynnwys elfennau Protestannaidd amlwg yn ei chyfansoddiad, ond ar yr un pryd mae'n hawlio fod yn olynydd, fel eglwys sefydlog y wladwriaeth neu eglwys wladol, i'r drefn eglwysig yn Lloegr a sefydlwyd gan Sant Awstin, esgob cyntaf Caergaint, ddiwedd y 6g. Roedd Cristnogaeth Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill yn annibynnol, a dim ond yn raddol, o gyfnod y Normaniaid ymlaen, y daeth y drefn eglwysig yng Nghymru dan awdurdod archesgobion Caergaint.
Sylfaen athrawiaeth Eglwys Loegr yw'r Llyfr Gweddi Gyffredin a 39 Erthygl y Ffydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eglwys Loegr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.