Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru oedd un o bynciau gwleidyddol a chrefyddol mwyaf chwerw y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru.
Yn hanesyddol ac yn gyfreithiol, caif y Mesur hwn ei gyfri'n gam pwysig gan mai dyma un o'r troeon cyntaf i ddarn o gyfraith gwlad gael ei greu'n benodol am Gymru, yn hytrach nac am Gymru a Lloegr.
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 1914 |
Dyddiad cyhoeddi | 1914 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Yng Nghymru fe'i gwelwyd fel coron ar waith a brwydrau hir a gychwynnwyd yng nghanol y 19g gyda'r Anghydffurfwyr yn eu harwain, ymgyrchoedd megis Rhyfel y Degwm pan ataliodd cannoedd o bobl rhag talu arian prin (degfed rhan o'u hincwm) i'r Eglwys yn Lloegr. Ymhlith yr ymgyrchwyr hyn yr oedd Thomas Gee, Tom Ellis ac aelodau Cymru Fydd.
Gyda sefydlu'r Liberation Society yn 1844 troes yr holl eglwysi Anghydffurfiol, gan gynnwys y Methodistiaid Calfinaidd, i gefnogi'r alwad. Ar ôl dros 60 mlynedd o ymgyrchu a dadlau pasiwyd mesur i ddatgysylltu'r eglwys yn Senedd San Steffan yn 1914 ond oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ni ddaeth i rym tan 31 Mawrth 1920.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.