Yr Oesoedd Canol

Cyfnod hanesyddol sy'n ymestyn yn fras o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig ar ddiwedd y 4g i gyfnod y Dadeni a chychwyn y Diwygiad Protestannaidd (1515) yw'r Oesoedd Canol (neu'r Oesau Canol/Canol Oesoedd).

Fe'i rhagfleinir yn hanesyddiaeth draddodiadol Ewrop gan y cyfnod Clasurol (Gwareiddiad Rhufain a Groeg yr Henfyd) ac fe'i olynir gan y Dadeni Dysg a'r Cyfnod Diweddar, sy'n parhau hyd heddiw.

Yr Oesoedd Canol
Ewrop a'r Môr Canoldir yn 1190

Yn hanes Ewrop, gellir ei rannu'n dri is-gyfnod, sef:

Yn naturiol mae hyd y cyfnodau hyn yn amrywio cryn dipyn o wlad i wlad. Defnyddir y term i ddisgrifio cyfnodau cyffelyb yn hanes gwledydd eraill hefyd, yn arbennig yn achos gwledydd Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia.

Ar ôl cwymp Ymerodraeth Rhufain yr oedd hi'n gyfnod ansefydlog iawn yn Ewrop. Roedd pobl o sawl rhan o'r byd yn symud trwy'r cyfandir ac felly roedd y gymdeithas yn newid. Ar wahân i'r anhrefn ar ôl i'r Mongoliaid ddod i Ewrop, roedd y sefyllfa yn gwella ar ôl 1000.

Roedd yr Oesoedd Canol yn gyfnod o afiechydon mawr hefyd, gyda'r Pla Du yn lladd tuag 1/3 o boblogaeth Ewrop yn y 14g.

Hanes

    Yr Oesoedd Canol Uwch

Y Croesgadau

Yr Oesoedd Canol 
Gwarchae Antioch 1098, yn ystod y Groesgad Gyntaf.

Anturiaethau milwrol gan Wledydd Cred (gwledydd Cristnogol gorllewin Ewrop) a drefnid yn bennaf er mwyn adfeddiannu lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslemiaid oedd y Croesgadau, a hynny rhwng 1095 a diwedd y 13g. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes. Roedd croesgadu yn digwydd yn nwyrain Ewrop hefyd, yn erbyn "paganiaid" y Baltig.

Ymladdwyd y Croesgadau yn y Lefant yn bennaf, yn enwedig ym Mhalesteina a Syria ond hefyd yn yr Aifft ac Asia Leiaf. Nid y Mwslemiaid yn unig a ddioddefodd. Creuwyd cryn anhrefn yn yr Ymerodraeth Fysantaidd a gyfranodd yn y pen draw at gwymp yr ymerodraeth Gristnogol honno. Pan gyrhaeddwyd Caersalem bu cyflafan erchyll ar Iddewon y ddinas a lladdwyd miloedd o bobl diniwed gan y milwyr buddugoliaethus.

Ar yr ochr bositif, agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y Groegiaid. Daeth llawysgrifau o weithiau gan Aristotlys ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welid yn ystod y Dadeni. Cyfoethogwyd Ewrop gan mathemateg y Mwslemiaid yn ogystal, yn arbennig ym maes algebra (oedd yn ddiarth i Ewropeiaid cyn hynny).

Gweler hefyd

Yr Oesoedd Canol 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Tags:

15154gClasurDadeniDadeni DysgDiwygiad ProtestannaiddEwropGroeg yr HenfydGwareiddiad RhufainHanesHanesyddiaethYmerodraeth Rufeinig

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Zulfiqar Ali BhuttoGorllewin SussexCapreseSafle Treftadaeth y BydEsblygiadAlldafliadBasauriSafleoedd rhywHela'r drywLlanw LlŷnMalavita – The Family11 TachweddIddew-SbaenegFfrangegEagle EyeCyngres yr Undebau LlafurHirundinidaeCelyn JonesNational Library of the Czech RepublicRecordiau CambrianFfilm llawn cyffroWaxhaw, Gogledd CarolinaJohnny DeppAnne, brenhines Prydain FawrCascading Style SheetsTony ac AlomaPenarlâgR.E.M.Rhestr ffilmiau â'r elw mwyafData cysylltiedig1792Anturiaethau Syr Wynff a PlwmsanGenwsAmserThe End Is NearWassily KandinskyDewiniaeth CaosLSaltneyThe Disappointments RoomEmma TeschnerMelin lanwFfuglen llawn cyffroPysgota yng NghymruuwchfioledMyrddin ap DafyddEconomi CymruSbermMorlo YsgithrogAngeluRhyddfrydiaeth economaiddYsgol Gynradd Gymraeg BryntafSwleiman ICrefyddLady Fighter AyakaRSSLinus PaulingBrexitDirty Mary, Crazy LarryEternal Sunshine of The Spotless MindMean MachineAdran Gwaith a PhensiynauNoriaYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaAmerican Dad XxxEmyr Daniel2006Cytundeb KyotoEsgobCymraegIndiaCrai Krasnoyarsk🡆 More