Mongolwyr

Mae'r Mongolwyr yn grŵp ethnig sy'n dod yn wreiddiol o'r ardal sydd rwan yn Fongolia, rhannau o Rwsia a gogledd-orllewin Tsieina, yn enwedig Mongolia Fewnol.

Heddiw mae tua 8.5 miliwn o Fongolwyr yn siarad yr iaith Fongoleg. Maen nhw'n cael eu cynnwys yn un o'r 56 cenedl sydd yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Mae tua 2.3 miliwn o Fongolwyr yn byw ym Mongolia, 4 miliwn ohonyn nhw ym Mongolia Fewnol (talaith yn Tsieina), a 2 filiwn yn y taleithiau Tsieinëaidd cyfagos. Yn ogystal ceir nifer o grwpiau ethnig yng Ngogledd Tsieina sy'n perthyn i'r Mongolwyr, sef y Daur, Buryat, Evenk, Dorbod, a'r Tuvin.

Ymlediad y Mongoliaid

Ceisiodd y Mongolwyr oresgyn Siapan ddwywaith. Y tro cyntaf, yn 1281, cafodd y llynges oresgynol ei dinistro'n llwyr mewn storm mawr (y kamikaze neu 'wynt dwyfol'). Yr ail dro, cyrhaeddodd milwyr Mongoliaidd yr ynysoedd, ond fe newynodd nhw am eu bod wedi colli eu cyflenwadau mewn storm arall - roedd y milwyr a samurai Siapanaidd yn medru trechu nhw felly.

Roedd buddugoliaethau'r Mongolwyr yn cynnwys goresgyn ynys Jafa a rhan o dde-ddwyrain Asia (Fietnam heddiw). Ond oedd y tywydd trofannol yn anaddas i'r gwŷr meirch, a llwyddodd Jafa i aros yn annibynnol yn y diwedd.

Ymgyrchoedd eraill

  • 1200, Gogledd Tsieina - lladdwyd 30,000,000 o bobol.
  • 1215, Yanjing, Tsieina (Beijing heddiw) - lladdwyd 25,000,000 o bobol.
  • 1221, Nishapur, Iran - lladdwyd tua 1.7 miliwn yn yr ymosodiad.
  • 1221, Merv, Iran - lladdwyd tua 1.3 miliwn o bobol.
  • 1221, Meru Chahjan, Iran - lladdwyd tua 1.3 miliwn.
  • 1221, Rayy, Iran - lladdwyd tua 1.6 miliwn o bobol.
  • 1226, Ymgyrch Tangut - Lawnsiodd Genghis Khan ryfel yn erbyn y bobl Tangut, gogledd Tsieina.
  • 1236, Bilär, dinasoedd Bwlgar, Volga Bwlgaria - lladdwyd 150,000 neu ragor (bron hanner y boblogaeth)
  • 1237-1240, Rwsia, Kiev - hanner y boblogaeth
  • 1241, Wahlstatt/Legnica - trechu byddin Pwylaidd-Almaenaidd yn Is-Silesia (gorllewin Gwlad Pwyl heddiw); aeth y Mongolwyr yn ôl i'w prifddinas, Karakorum, i ethol Khan Mawr newydd ar ôl marwolaeth Ogedei Khan.
  • 1258, Baghdad - lladdwyd tua 800,000 o bobol. Diwedd y frenhinllin Abbasid.
  • 1226-1266, dywedir fod 18 miliwn o bobol wedi eu lladd wrth i'r Mongoliaid gwncweru gogledd Tsieina (amcangyfrif Kublai Khan eu hun).

Hanes cyfoes

Yn 1921, gwrthryfelodd Mongolia Allanol gyda cymorth o Rwsia, i greu'r Fongolia gyfoes. Sefydlwyd llywodraeth Gomiwnyddol yn 1924. Amddiffynnodd yr Undeb Sofietaidd Fongolia yn erbyn ei goresgyn gan Siapan. Cefnogodd Mongolia yr Undeb Sofietaidd yn ei ffrae gyda Tsieina yn 1958. Yn 1990 cafodd y llywodraeth Gomiwnyddol ei dymchwel, a sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd yn 1992.

Mae Mongolia Fewnol yn dalaith ymreolaethol yn Tsieina. Mae llawer o bobl Han o Tsieina wedi symud yno, a nhw yw'r grŵp ethnig pwysicaf heddiw. Ni raid i'r Mongolwyr ddilyn polisi un plentyn y llywodraeth, ac mae llywodraeth GPT yn cefnogi'r iaith Fongoleg yn swyddogol.

Mae gan Rwsia rhai ardaloedd ymreolaethol Mongolaidd, e.e. y Buryatau:

  • Gweriniaeth Ymreolaethol Kalmykia (Mongolwyr Gorllewinol - Oiratau)
  • Ardal Ymreolaethol Ust-Orda Buryat
  • Ardal Ymreolaethol Aga-Buryat
  • Gweriniaeth Ymreolaethol Buryatia

Tags:

Grŵp ethnigGweriniaeth Pobl TsieinaMongolegMongoliaMongolia FewnolRwsiaTsieina

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Hollt GwenerPyramid sgwârL'ultima VoltaAfter Earth21 EbrillGwilym Bowen RhysYr Ail Ryfel BydCentral Coast, New South WalesL'acrobateBronn WenneliRhyfel Rwsia ac WcráinWest Ham United F.C.PolyhedronDiawled CaerdyddY MersJeremy RennerWicipediaThe MatrixAdolf HitlerUrsula LedóhowskaArtemisAbaty Dinas BasingAmanita'r gwybedBlue Island, IllinoisCymraegCiShani Rhys JamesAlwminiwmPapurOrlando BloomKim Jong-unAnimeLluosiCatahoula Parish, LouisianaParaselsiaethY Brenin a'r BoblGwynPussy RiotDe CoreaUwch Gynghrair Gweriniaeth IwerddonSir BenfroCymeriadau chwedlonol CymreigGwyddoniadurYr AlmaenTwo For The MoneyHuw Chiswell1906SansibarSanta Cruz de TenerifeParth cyhoeddusParamount PicturesY rhyngrwydY Derwyddon (band)AneirinOrgasmBelarwsA.C. MilanGeorge BakerCusanMy MistressGleidioGwlad PwylY Deml HeddwchCreampieAcwariwmRhanbarthau'r EidalTelemundoBBC Radio CymruWcráinGwïon Morris JonesTrearddur🡆 More