Y Croesgadau

Roedd y Croesgadau yn gyfres o ymgyrchoedd milwrol a ymladdwyd gan Gristnogion o orllewin Ewrop draw yn y Dwyrain Canol yn yr Oesoedd Canol, sef rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a diwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Eu pwrpas oedd adfeddiannu'r Tiroedd Sanctaidd, gan gynnwys lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslimiaid. Roedd y tiroedd hyn yn bwysig i Gristnogion oherwydd dyma lle'r oedd Cristnogaeth wedi cychwyn, ac ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg cyhoeddodd y Pab bod angen achub y Tir Sanctaidd rhag rheolaeth gan Fwslemiaid. At ei gilydd dyma gychwyn cyfnod pan ymladdwyd wyth croesgad bwysig. Bu sawl ymgyrch gan Gristnogion i recriwtio pobl i ymladd yn y Croesgadau a dyma oedd pwrpas taith Gerallt Gymro drwy Gymru yn 1188. Roedd Jeriwsalem yn fan ymladd allweddol rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ac yn bwysig i’r ddwy grefydd. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth Jeriwsalem, a mannau cysegredig eraill ym Mhalesteina, yn gyrchfannau pwysig i bererinion Cristnogol gan mai'r rhain oedd y tiroedd lle'r oedd Iesu Grist wedi byw. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith bod hon yn broses barhaol, gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.

Cefndir

Roedd cyfuniad o resymau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol am y croesgadau;

  • Gwleidyddol – Roedd gobaith y byddai'r croesgadau yn ailuno’r Eglwys Gatholig Orllewinol ac Eglwys Uniongred Ddwyreiniol Groeg
  • Economaidd – Roedd gwladwriaethau masnach yr Eidal eisiau ehangu eu masnach ym Môr y Canoldir ar adeg pan oedd Mwslimiaid yn rheoli llawer o borthladdoedd strategol. Byddai ehangu eu masnach ym Môr y Canoldir yn golygu y byddai gwledydd Ewrop yn medru ehangu eu llwybrau masnach draw i’r Dwyrain Canol lle'r oedd modd iddynt gael mynediad at nwyddau moethus.
  • Cymdeithasol – Roedd y Croesgadau’n cynnig rhyddid cymdeithasol i gymdeithas a oedd wedi ei gorlwytho gan foneddigion heb dir. Roedd hyn o ganlyniad i’r drefn gyntafanedigaeth lle’r oedd y mab cyfreithiol hynaf yn etifeddu holl dir ei rieni. Roedd y Croesgadau’n cynnig cyfle i’r boneddigion hynny heb dir ennill tiroedd yn y Dwyrain Canol. Os oedd bonheddwr yn mynd ar groesgad byddai ei farchogion yn ei ddilyn i’r frwydr fel rhan o’u rhwymedigaethau ffiwdal.
  • Crefyddol – Yn 1095 rhoddodd y Pab Urban II araith ddramatig i Gyngor Clermont yn annog Cristnogion i fynd i ryfel er mwyn achub Jerwsalem rhag rheolaeth Fwslimaidd. Ymateb y dorf a oedd wedi ymgasglu oedd dechrau llafarganu Deus vult, (ewyllys Duw yw hyn). Roedd Cristnogion duwiol yn achub ar y cyfle i fynd ar bererindodau neu deithiau ysbrydol i’r lleoedd a oedd yn gysylltiedig ag Iesu Grist a Christnogaeth. Roedd ‘cymryd y Groes’ yn brawf perffaith o gariad a defosiwn Cristnogol at Dduw. Byddai’r croesgadwyr yn cael maddeuant am eu pechodau gan dreulio llai o amser ym mhurdan (lle byddai pechodau yn cael eu golchi cyn mynd i’r Nefoedd). Roedd adennill ac amddiffyn y Tir Sanctaidd ac amddiffyn Cristnogion (wrth ladd Mwslimiaid) yn cael eu hystyried yn ffyrdd o garu eich cymydog.

Yn gryno, roedd Cristnogion a Mwslimiaid yn cymryd rhan yn eiddgar mewn ymgyrchoedd i ladd a dinistrio ar raddfa enfawr, a hynny’n bennaf er mwyn cred a choncwest grefyddol mewn ymgais i sicrhau goruchafiaeth.

Hanes y Croesgadau

Y Croesgadau 
Pedr y Meudwy yn arwain Croesgad y Bobl

Y Groesgad Gyntaf

Ymladdwyd y Groesgad Gyntaf o 1095 i 1099. Fe'i lansiwyd dan oruchwyliaeth a nawdd y Babaeth. Arweiniodd Pedr y Meudwy fyddin yn erbyn lluoedd Kilij Arslan, swltan Nisé, ond cafodd ei drechu. Y flwyddyn ganlynol cipiodd y Croesgadwyr Nisé a threchwyd Kilij ym mrwydr Dorylé. Roedd 1098 yn flwyddyn gofiadwy i'r goresgynwyr; cipiwyd Edessa ac Antioch a chrëwyd taleithiau Croesgadwrol ynddynt, a chafodd byddin Fwslimaidd dan arweinyddiaeth Karbouka o ddinas Mosul ei threchu. Yn 1099 cipiwyd Caersalem a Thripoli. Yn y Ddinas Sanctaidd ei hun coronwyd y fuddugoliaeth â chyflafan ddychrynllyd, gyda'r trigolion, yn Iddewon, Cristnogion Uniongred a Mwslemiaid yn ddi-wahân, yn cael eu targedu.

Yr Ail Groesgad

    Prif erthygl - Yr Ail Groesgad

Cwymp talaith Edessa i'r Saraseniaid yn 1144 oedd y sbardun i'r Ail Groesgad, aflwyddiannus.

Y Drydedd Groesgad

Cwymp dinas Caersalem i Saladin yn 1187 oedd y sbardun a arweiniodd at gyhoeddi'r Drydedd Groesgad yn 1189. Yr arweinwyr oedd Phylip II Awgwstws o Ffrainc, yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a Rhisiart Lewgalon o Loegr. Parhaodd hyd 1192.

Y Bedwaredd Groesgad

Yr amcan wrth lansio'r Bedwaredd Groesgad (1202 - 1204) oedd cipio'r Aifft, ond roedd yr amgylchiadau yn erbyn hynny, ac yn y diwedd anrheithiwyd un o ddinasoedd pwysicaf y byd Cristnogol gan y Croesgadwyr annisgybledig, sef Caergystennin.

Y Croesgadau Olaf

    Prif erthyglau - Y Bumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Y Groesgad Olaf

Methiannau trychinebus fu pob un o'r tair croesgad olaf yn ystod y 13g. Erbyn 1291 roedd caer hollbwysig Acre ym Mhalesteina, amddiffynfa olaf y Croesgadwyr yn y Lefant, wedi cwympo, ac roedd y Croesgadau ar ben.

Arwyddocâd y Croesgadau

Agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y Groegiaid. Daeth llawysgrifau gweithiau gan Aristotlys ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welwyd yn ystod y Dadeni Dysg. Cyfoethogwyd Ewrop gan fathemateg y Mwslimiaid, yn arbennig ym maes algebra (a oedd yn ddieithr i Ewropeaid cyn hynny). Daeth Ewrop hefyd dan ddylanwad syniadau’r Arabiaid am feddygaeth, gwyddoniaeth, athroniaeth a chelfyddyd. Daeth croesgadwyr â pherlysiau gwerthfawr yn ôl gyda nhw o’r Dwyrain Canol hefyd, sef nytmeg a sinamon, siwgr a chotwm.

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth ddethol

  • Amin Maalouf, Les croisades vues par les Arabes (Paris, 1985; argraffiad newydd, Editions J'ai Lu, Paris, 2003). Golwg ar y Croesgadau o safbwynt yr Arabiaid).

Tags:

Y Croesgadau CefndirY Croesgadau Hanes y CroesgadauY Croesgadau Arwyddocâd y CroesgadauY Croesgadau CyfeiriadauY Croesgadau Llyfryddiaeth ddetholY CroesgadauCrefyddCristnogaethCymruEwropGerallt GymroIesuIslamJeriwsalemPabPalesteinaY Dwyrain CanolYr Oesoedd Canol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Trais rhywiolBilboEssexSwydd AmwythigWiciadurISO 3166-1Glas y dorlanAngel HeartIndiaTymhereddTeganau rhywDriggJohn F. KennedyDisgyrchiantR.E.M.System weithreduRhif Llyfr Safonol RhyngwladolIKEALlanw LlŷnLene Theil SkovgaardAli Cengiz GêmMahanaMark HughesSwleiman IRaymond BurrHong CongThe Merry Circus23 MehefinAdnabyddwr gwrthrychau digidolS4CTatenThe FatherLlywelyn ap GruffuddAdolf HitlermarchnataMaries LiedWrecsamMean MachineBanc canologDenmarcGorllewin SussexLliwGwibdaith Hen FrânYr HenfydEl NiñoRule BritanniaDafydd HywelSt PetersburgHirundinidaeCarcharor rhyfelFfraincErrenteriaGarry KasparovEdward Tegla DaviesFfisegParisAnturiaethau Syr Wynff a PlwmsanPussy RiotTalcott ParsonsJimmy WalesFietnamegMeilir GwyneddIrunEirug WynTŵr EiffelRhian MorganDrwmBibliothèque nationale de France🡆 More