Yr ymarfer o erlid anifeiliaid byw yw hela, gan amlaf bywyd gwyllt ar gyfer bwyta, adloniant, neu masnach.
Me defnydd cyfoes y term yn cyfeirio ar hela cyfreithlon yn hytrach na herwhela. Cyfeirir at yr anifeiliaid a ddelir fel helwriaeth, gan amlaf maent yn famaliaid neu'n adar.
Gellir hela hefyd gyfeirio at waredu ar fermin, fel modd o reoli pla i atal ymledaeniad heintiau a achosir gan or-boblogaeth. Mai rhai sydd o blaid hela hefyd yn dadlau y gall hela fod yn elfen bwysig o reoli bywyd gwyllt, ar mwyn helpu cynnal poblogaeth iach o anifeiliaid o fewn gallu cynhaliaeth system ecoleg yr amgylchedd lle nad yw rheolaeth naturiol megis ysglyfaethwyr yn bodoli.
Pysgota yw'r term a ddefnyddir ar gyfer yr erlid o bysgod, a ni gaiff ei gategoreiddio fel hela yn gyffredin.
Sonia Beirdd yr Uchelwyr yn aml iawn am hela, ac felly hefyd y y cyfreithiau Cymreig. Nodir yr anifeiliaid canlynol yn aml: y carw coch, yr iwrch, y baedd gwyllt, y llwynog, y dyfrgi, y crëyr, aderyn y bwn, y gylfinir, yr aran a gwenyn. Câi unrhyw un ddal y llwynog, y dyfrgi a’r iwrch a chadw gwenyn. Yn Y Naw Helwriaeth, sef testun a luniwyd tua chanol yr 16eg ganrif sy’n crybwyll y carw, yr iwrch, yr ysgyfarnog, y llwynog, y dringhedydd (sef y gath goed, y ffwlbart neu’r wiwer), y ceiliog coed (sef ffesant neu geiliog du'r mynydd, o bosibl, neu 'aderyn helwriaeth' yn gyffredinol), eogiaid, gwenyn, baeddod gwyllt ac eirth, er bod yr anifeiliaid hyn wedi diflannu o wledydd Prydain.
Roedd sawl dull hela, nid yn unig ymlid gan helgwn a saethu gyda bwa ond hefyd drwy ddefnyddio rhwyd rawn (rhawn yw blew ceffyl). Er i r gael eu defnyddio weithiau ar gyfer dal anifeiliaid mawr fel y ceirw a'r baedd gwyllt yn ogystal â chreaduriaid bach fel pysgod, adar, cwningod ac ysgyfarnogod, ystyrid defnyddio rhwyd yn ddull 'dianrhydded' gan rai. Ceid dulliau hela mwy 'gwerinol a chanodd Maredudd ap Rhys gerddi gofyn a diolch am rwyd bysgota. Canodd Gruffudd ap Maredudd at y defnydd o dryfer i ddal eog ifanc (neu 'gleisiad'), a chrybwyllodd yr Ustus Llwyd at y defnydd o rwydi ddal dyfrast. Roedd sawl dull o hela adar, fel y gwelir yng nghywydd Dafydd ap Gwilym, 'Ymddiddan â'r Cyffylog', sef drwy eu saethu, eu dal mewn magl ac, efallai, eu gyrru i fan agored neu lannerch mewn coed, fel y gellid eu dal mewn rhwydi.
O'r holl anifeiliaid, yr hydd, oedd yr anifail hela uchaf ei fri, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi'r cyfnod. Sonia Guto’r Glyn mewn cerdd i ofyn am walch fod Deon Bangor, Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, yn mwynhau hela hydd (cerdd 60.38).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hela, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.