Bethel, Gwynedd: Pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, ydy Bethel ( ynganiad ).

Saif ar ffordd y B4366 rhwng Caernarfon a Llandygái, 4 cilometr o Gaernarfon a 7 cilometr o Fangor.

Bethel
Bethel, Gwynedd: Ysgol Gynradd Bethel, Cyfrifiad Cenedlaethol 2011 ar Gymraeg, Pobl o Fethel
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1645°N 4.2099°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH522653 Edit this on Wikidata
Cod postLL55 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
    Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Bethel.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).

Tyfodd y pentref yn sgil datblygiad chwareli Llanberis, yn enwedig Chwarel Dinorwig, gan fod Bethel wrth ochr y rheilffordd oedd yn cario llechi o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli. I'r de o'r pentref mae bryngaer Dinas Dinorwig.

Gerllaw Bethel ei hun mae Saron a Penrhos. Yn y pentref ceir garej gwerthu ceir, tri chapel a chaffi 'Perthyn', a agorodd ei ddrysau ym mis Hydref 2020. Mae yna hefyd glwb pêl-droed.

Ysgol Gynradd Bethel

Ysgol Gynradd Sirol (Babanod/Iau) yw Ysgol Gynradd Bethel ac mae'n ysgol ddyddiol, ddwyieithog, gyd-addysgol. Yn 2019, roedd 150 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn mynychu'r ysgol. Cymraeg yw iaith yr ysgol o ddydd i ddydd a Chymraeg yw'r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu â'r disgyblion ac yng ngweinyddiaeth yr ysgol. Yn dilyn arolygiad Estyn yn 2019, derbyniodd yr ysgol y sgôr uchaf posib gan yr arolygwyr. Beirniadwyd yr ysgol ar bum maes; Safonau, Lles ac Ymagweddau tuag at Ddysgu, Profiadau Dysgu ac Addysgu, Gofal, Cymorth, Arweiniad, ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Derbyniwyd sgôr ardderchog ym mhob maes.

Cyfrifiad Cenedlaethol 2011 a'r Gymraeg

Arolwg sy'n digwydd bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Yn ôl canlyniadau cyfrifiad 2011, roedd 1,342 o bobl, dros 3 oed, yn byw ym Methel. O'r nifer hwn, roedd 85.8% o boblogaeth y pentref yn gallu siarad Cymraeg, a 77.1% o boblogaeth y pentref yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Caiff y canran uchel hwn o siaradwyr Cymraeg ei adlewyrchu yn adroddiad Estyn o Ysgol Bethel yn 2019, sydd yn nodi bod bron pob un o’r disgyblion yn "ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn ei defnyddio'n naturiol wrth siarad â'i gilydd."

Pobl o Fethel

Cyfeiriadau

Tags:

Bethel, Gwynedd Ysgol Gynradd BethelBethel, Gwynedd Cyfrifiad Cenedlaethol 2011 ar GymraegBethel, Gwynedd Pobl o FethelBethel, Gwynedd CyfeiriadauBethel, GwyneddBangorBethel, Gwynedd.oggCaernarfonCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Bethel, Gwynedd.oggGwyneddLlanddeiniolenLlandygáiWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ethan AmpaduThe Next Three DaysDe AffricaProffwydoliaeth Sibli DdoethThomas Jones (almanaciwr)PaffioRhestr bandiau24 MawrthTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr EidalBrysteBukkakeRhyfel Annibyniaeth AmericaArwel HughesTalaith CremonaMasarnenFfilm yng NghanadaPisoRhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaethY we fyd-eangCnofilNovialOboEv Dirəyi-El DirəyiWaxhaw, Gogledd CarolinaBorder CountryStepan BanderaAlldafliadHer & HimAngkor WatS4CGwyddelegEwroDove Vai Tutta Nuda?Wicipedia CymraegAlmanacTîm Pêl-droed Cenedlaethol Gwlad GroegRowan AtkinsonCymdeithas Bêl-droed LloegrFideo ar alwElizabeth Taylor365 DyddSpotifyAmgylcheddaethUnited NationsParasomniaTudur Owen19 TachweddLloegrBoduanUsenetNedwPervez MusharrafGwain1942Two For The Money1965Talaith NovaraMamograffegCarles PuigdemontFarmer's DaughtersDiddymiad yr Undeb SofietaiddRhyw llawPrifysgol GenefaWicipedia🡆 More