Trefor: Pentref yng Ngwynedd

Pentref gerllaw Yr Eifl ar arfordir gogleddol Llŷn yng Ngwynedd yw Trefor ( ynganiad ) .

Saif ychydig oddi ar y briffordd A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn, lle maer'r briffordd yn gadael yr arfordir ac yn troi tua'r de. Mae'n rhan o gymuned Llanaelhaearn. Mae yno harbwr bychan, pier a thraeth. Llifa Afon Tal i'r môr yn y pentref.

Trefor
Trefor: Hanes, Pobl o Drefor, Cyfeiriadau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanaelhaearn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.993°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH371467 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Hanes

Trefor: Hanes, Pobl o Drefor, Cyfeiriadau 
Trefor o lethrau Yr Eifl
Trefor: Hanes, Pobl o Drefor, Cyfeiriadau 
Trefor gyda phen gogleddol Yr Eifl
Trefor: Hanes, Pobl o Drefor, Cyfeiriadau 
Chwarel Sets, Trefor, c.1875

Pentref cymharol newydd yw Trefor. Yn 1839 nid oedd dim yno ond ffermydd a hanner dwsin o dai chwarelwyr. Tyfodd y pentref pan ddatblygodd y chwarel ithfaen ar Yr Eifl, a agorwyd yn 1850.

'Y Gwaith Mawr' oedd yr enw a roddwyd ar y chwarel newydd; yn ôl y sôn dyma chwarel sets fwyaf yn y byd, am gyfnod. Er ei fod ar lan y môr, nid "Tre-fôr" yw tarddiad yr enw. Enw gwreiddiol yr ardal yma oedd yr Hendre Fawr, neu'n syml,yr Hendre. Ceir y cofnod cyntaf o'r enw hwn yn 1552.

Ail-enwyd y pentref yn 1850 ar ôl Trevor Jones, rheolwr y chwarel. Gweithwyr yn y chwarel a'u teuluoedd oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth ac i blant y gweithwyr y codwyd yr ysgol gyntaf. Yn 1865 agorwyd tramffordd Chwarel yr Eifl i ddod a'r ithfaen o'r chwarel i'r harbwr. O'r cychwyn cyntaf bron roedd 'na berthynas glos rhwng gweithwyr chwarel Trefor a chwarel ithfaen Penmaenmawr.

Mae Seindorf Arian Trefor, a sefydlwyd yn 1863, yn un o'r hynaf yng Ngwynedd.

Ffilmiwyd y gyfres deledu Minafon yma yn yr 1980au a dogfennwyd bywyd y pentre yn y gyfres Trefor Only a ddangoswyd ar S4C yn 2005.

Pobl o Drefor

Trefor: Hanes, Pobl o Drefor, Cyfeiriadau 
Y cei yn Nhrefor
  • Thomas Bowen Jones. Bardd ac enillydd Cenedlaethol
  • Alun Jones. Llenor, enillydd cenedlaethol a pherchennog Llen Llyn, Pwllheli
  • Geraint Jones. Cerddor ac ymgyrchydd.
  • Morgan Jones. Sylwebydd chwaraeon.
  • Bet Jones, Llennor ac enillydd cenedlaethol
  • Guto Dafydd, bardd y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2014
  • Elis Dafydd, bardd y Gadair, Eisteddfod yr Urdd, Caerffili, 2015
  • Edward John (E. J.) Hughes (1888-1967). Cerddor ac organydd.
  • Miriam Trefor o Drefor

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl (Gwilym Jones, 1972)
  • Gwilym Owen, Dan Gysgod yr Eifl (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1990). Cyfrol fach ar chwaareli Llŷn gydag adran am chwarel Trefor.

Dolenni allanol

Tags:

Trefor HanesTrefor Pobl o DreforTrefor CyfeiriadauTrefor LlyfryddiaethTrefor Dolenni allanolTreforA499Afon TalCaernarfonClynnog FawrDelwedd:Trefor.oggGwyneddLlanaelhaearnLlŷnPwllheliTrefor.oggWicipedia:TiwtorialYr Eifl

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

21 EbrillPolisi un plentynFfisegCanadaEisteddfod Genedlaethol CymruBugail Geifr LorraineGwilym Roberts (Caerdydd)Siôr (sant)Yr AlbanThe Disappointments RoomLewis MorrisTrwythRhestr dyddiau'r flwyddynNorwyegJac a Wil (deuawd)1855Rhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig ArleinRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd Iwerddon1839 yng NghymruSbriwsenPidynKrak des ChevaliersCalsugnoRhestr afonydd CymruNiels BohrMichael D. JonesCaergystenninSefydliad WikimediaAderynAderyn mudolE. Wyn JamesPrawf TuringFfraincWoyzeck (drama)FfilmCod QRCerrynt trydanolCerddoriaeth CymruSaesnegRhyw rhefrolManic Street PreachersSefydliad Wicifryngau1973Y Rhyfel OerSbaenEfrog Newydd (talaith)LloegrIseldiregY DiliauOrganau rhywThomas Gwynn JonesGogledd IwerddonDewi 'Pws' MorrisMelyn yr onnenAserbaijanegDinasLlundainByseddu (rhyw)GwyddoniasDurlifEmma NovelloWalking TallBertsolaritzaCwmwl OortTwo For The MoneyDer Da Ist Tot Und Der Beginnt Zu Sterben🡆 More