Llanbedrog: Pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne-orllewin Llŷn, Gwynedd yw Llanbedrog ( ynganiad ).

Mae'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion tua hanner ffordd rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Abersoch i'r de. Rhed y ffordd A499 trwy'r pentref.

Llanbedrog
Llanbedrog: Pentref a chymuned yng Ngwynedd
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8577°N 4.4848°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000068 Edit this on Wikidata
Cod OSSH328318 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Mae penrhyn Mynydd Tir y Cwmwd (343 troedfedd) yn ei gysgodi i'r de. O'r copa ceir golygfeydd braf dros Fae Ceredigion ac Ynysoedd Tudwal ac i fryniau Eryri yn y gogledd-ddwyrain. Mae cerflun 'Y Dyn Haearn' i'w ganfod ar Fynydd Tir y Cwmwd.

Mae traeth Llanbedrog yn ddeniadol ac yn boblogaidd gan ymwelwyr. I'r gogledd ceir craig isel Carreg y Defaid.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu Llanbedrog a Phwllheli.

Mae eglwys y plwyf yn bur hynafol. Fe'i cysegrir i Sant Pedrog. Eglwys un siambr hir ydyw, sy'n dyddio yn rhannol i'r 13g. Ychwanegwyd clochdy yn y 19g pan gafodd ei hatgyweirio'n sylweddol a'i thrawsnewid gan golli llawer o'i chymeriad hynafol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio i'r 15g.

Mae Plas Glyn-y-Weddw, plasty Fictoraidd rhestredig Gradd II a chanolfan ddiwylliannol, wedi'i leoli yn y pentref.

Llanbedrog: Pentref a chymuned yng Ngwynedd
Traeth Llanbedrog o Fynydd Tir y Cwmwd.
Llanbedrog: Pentref a chymuned yng Ngwynedd
Plas Glyn-y-Weddw

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbedrog (pob oed) (1,002)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedrog) (526)
  
54%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedrog) (488)
  
48.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbedrog) (273)
  
53.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Cyfeiriadau

Tags:

A499AbersochBae CeredigionCymuned (Cymru)Delwedd:Llanbedrog.oggGwyneddLlanbedrog.oggPenrhyn LlŷnPwllheliWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

GeorgiaRhestr baneri CymruDelweddGwyddoniadurURLY Deyrnas UnedigAmerican Dad XxxSteffan Cennydd1 MaiLlundainLleiandyAled a RegPaganiaethRhufainY MedelwrLlydawFfilm bornograffigGorwelChicagoManon RhysSiot dwad wynebMangoGemau Olympaidd yr Haf 2020HindŵaethCelf CymruBartholomew RobertsCyfarwyddwr ffilmGNU Free Documentation LicenseDic JonesDewi 'Pws' MorrisLlyn y MorynionRhyw rhefrolAserbaijanegOrgasmPandemig COVID-19Gogledd IwerddonAwdurBamiyanCalsugnoKempston Hardwick1993Woyzeck (drama)UsenetYnniManon Steffan Ros1839 yng NghymruAnnie Harriet Hughes (Gwyneth Vaughan)CiSwedegStygianHollywoodJohn Ceiriog HughesRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrTom Le CancreC.P.D. Dinas CaerdyddEagle EyeCyfandirS4CCerrynt trydanolRhif Llyfr Safonol RhyngwladolY FaticanRhodri LlywelynBananaPatagoniaPessachFernando AlegríaGweriniaeth🡆 More