Roedd Pedrog (Cernyweg: Petroc; Llydaweg: Pereg) yn sant o Gymro sy'n nawddsant Cernyw ar y cyd â Piran.
Ar 4 Mehefin mae ei ŵyl. Defnyddir baner Petroc fel baner Dyfnaint (yn atgof o'r hen dywysogaeth Frythonaidd cyn cyfnod Cernyw). Mae 5 eglwys i Petroc yng Nghernyw, 8 yn Llydaw a 17 yn Nyfnaint.
Pedrog | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Cymru |
Bu farw | 4 Mehefin 564 Lannwedhenek |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 4 Mehefin |
Tad | Glywys |
Cedwir ei enw yn Llanbedrog (Llŷn), Y Ferwig Ceredigion a Llanbedrog, Sir Benfro.
Roedd Petrocus neu Petroc neu Pedrog yn sant o'r 6g a aeth o Gymru i Iwerddon i astudio. Wedi ymweld â Rhufain aeth ymlaen i sefydlu mynachdy yng Nghernyw yn Padstow. (Petrockstow - Preswyl Petroc) Tua diwedd ei oes aeth i gell unig ar Bodmin Moor. Yn ôl William of Worcester bu farw ar 4ydd Mehefin 564. Hen enw Bodmin oedd Bosvenegh (Preswyl Mynachod). Cadwodd ei greiriau yn eglwys Bodmin tan 1177, cymerwyd nhw i Abaty St Mevennus yn Llydaw tan i'r brenin Henry II mynnu eu dychwelyd.
Ei brif eglwysi yng Nghymru ydy Eglwys Llanbedrog, Sir Benfro ac Eglwys Sant Pedrog, Llanbedrog, Llŷn, ac eglwys yn y Ferwig, Ceredigion, (a restrwyd, fel eglwys ‘Ber[e]wick’ ym 1291). Ym mhentref y Ferwig, ceir hen felin, sef Felin Bedr, enw sy'n adlewyrchu enw Pedrog, y cysegrwyd yr eglwys iddo, ac mae'n bosibl ei bod yn sefyll ar safle melin ganoloesol.
Ceir 17 eglwys iddo yn Nyfnaint a 6 yng Nghernyw. Yn Llydaw ceir 8 eglwys neu bentref gan gynnwys: Sant-Pereg, Lopereg a Tregon-Poudour (Fr: Église Saint-Pétrock de Trégon).
Rhestr Wicidata:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pedrog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.