Mynach (Groeg: μοναχός, monachos, Lladin: monachus), yw dyn sy'n byw bywyd crefyddol neilltuedig, un ai ar ei ben ei hun neu mewn cymuned, ac yn dilyn rheolau arbennig.
Gelwir merch sy'n byw yr un math o fywyd yn lleian fel rheol. Ceir mynachod mewn nifer o grefyddau, ond yn arbennig mewn Cristnogaeth a Bwdhaeth. Tueddir i ddefnyddio "mynach" am berson sy'n byw mewn cymuned a elwir yn fynachlog; ond mewn gwirionedd mae meudwy, sy'n byw ar ei ben ei hun, hefyd yn fath ar fynach.
Ysbrydolwyd mynachaeth o fewn Cristnogaeth ngan esiamplau megis y proffwyd Elias a Ioan Fedyddiwr, a fu ill dau yn byw yn yr anialwch.
Y Cristion cyntaf y gwyddir iddo ddilyn bywyd fel hyn oedd Sant Anthoni Fawr (251 - 356), fu'n byw fel meudwy yn anialwch yr Aifft ac a ddenodd gryn nifer o ddilynwyr ac efelychwyr. Dywedir mai Sant Pachomius (c. 292 - 348) oedd y cyntaf i ddatblygu'r syniad o gymuned o fyneich yn byw dan reolaeth abad. Daeth mynachaeth yn boblogaidd iawn yn yr Ymerodraeth Fysantaidd; ar ei uchafbwynt roedd tua 30,000 o fyneich. Yn y gorllewin, datblygwyd y rheol fynachaidd gyntaf gan Sant Benedict o Nursia (c. 480 – 547).
Ym Mwdhaeth Theravada, gelwir mynach yn bhikkhu, a'r rheol fynachaidd yn patimokkha. Disgwylir i'r mynachod fyw ar yr hyn a roddir iddynt; gan fynd o amgylch bob bore i gasglu rhoddion o fwyd. Mae'r myneich yn rhan o'r Sangha. Ceir myneich hefyd mewn Bwdhaeth Mahayana a Vajrayana hefyd, gyda rheolau ychydig yn wahanol. Mewn rhai gwledydd, er enghraifft Gwlad Tai, mae'n arferol i fechgyn dreulio blwyddyn neu ddwy mewn mynachlog fel rhan o'u hyfforddiant, er bod rhai yn dewis aros yn barhaol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mynach, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.