Cefnddwysarn: Pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan yng nghymuned Llandderfel, Gwynedd, Cymru, yw Cefnddwysarn ( ynganiad ) (neu Cefn-ddwysarn).

Saif yn ardal Meirionnydd tua tri chwarter milltir i'r de-orllewin o bentref Sarnau ar briffordd yr A494 a rhyw dair milltir i'r dwyrain o'r Bala.

Cefnddwysarn
Cefnddwysarn: Pentref yng Ngwynedd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.934°N 3.54°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH965385 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Rhwng y ddau bentref mae Cors y Sarnau. I'r gogledd mae bryn Cefn Caer-Euni â'i fryngaer fechan Caer Euni (neu Eini). I'r gorllewin mae tref Y Bala a Llyn Tegid ac ar orwel y dwyrain rhed llethrau cadarn Y Berwyn. Mae twmpath - safle castell pren efallai - ar ymyl Cefnddwysarn i'r de.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Enwogion y fro

Mae gan yr ardal hon le arbennig yn niwylliant Cymru. Er nad yw'n fawr o le mae wedi magu sawl person enwog.

Yno yn 1859 ar fferm y Cynlas y ganwyd Thomas Edward Ellis (Tom Ellis), un o wleidyddion disgleiriaf ei ddydd ac aelod blaenllaw o'r Rhyddfrydwyr a mudiad Cymru Fydd. Cafodd ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Dadorchuddiwyd y goflech iddo sydd i'w gweld yn yr eglwys heddiw gan Lloyd George yn 1910.

Er iddo gael ei eni yn Llanfor, treuliodd y bardd David Roberts (Dewi Havhesp) (1831-1884) y rhan helaeth o'i oes yng Nghefnddwysarn. Teiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.

Bu'r bardd Robert Williams Parry yn brifathro ysgol Y Sarnau am flwyddyn yn y 1910au cynnar.

Un o enwogion eraill y fro yw Llwyd o'r Bryn, a aned ar fferm rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel yn 1888. Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddigrifiadau ac atgofion o'r fro a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.

O ardal y Sarnau y daw'r ddau frawd, y prifeirdd Gerallt Lloyd Owen a Geraint Lloyd Owen. Mae rhai o gerddi gorau Gerallt yn ymwneud â chymeriadau a thirlun y fro. Geraint oedd Archdderwydd Cymru o 2016 i 2018 dan yr enw barddol Geraint Llifon.

Darllen pellach

  • T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (1954)
  • Llwyd o'r Bryn, Y Pethe (1955)

Cyfeiriadau

Tags:

A494Cefnddwysarn.oggCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Cefnddwysarn.oggGwyneddLlandderfelMeirionnyddSarnau, GwyneddWicipedia:TiwtorialY Bala

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Dafydd IwanMördaren – En Helt Vanlig PersonLong Beach, CalifforniaDennis RitchieHormonAbaty Dinas BasingLlyfr y Tri AderynWiciadurPysgodyn CleddyfGhostwatchCosofoDinas Efrog NewyddKnox County, OhioDie FreibadcliqueMynediad am DdimLaboratory Conditions69 (safle rhyw)Philip yr ApostolHafanCilgwriNagasaki (talaith)HomerosBwncathURLCass MeurigLa Revanche Du Prince NoirPisoIndia365 DyddWcráinCasinoY PerlauYr Ail Ryfel BydFast FiveY Nofel yn GymraegYr AlbanGoogleTre-biwtTîm pêl-droed cenedlaethol yr EidalWicidestunYr Arglwyddes Jane GreyY Glymblaid Gyda'r Uchelgais Uchel i Ddod a Llygredd Plastig i BenGwahardd bagiau plastigHaitiCylchred nitrogenHen GymraegConnecticutIracDaearwleidyddiaethJourney to MeccaCroatiaThomas Jones (Tudno)George BakerYr ArianninMelanie DarrowHerod FawrYr ArctigMargaret ThatcherSylvester StalloneGoodbye BafanaGwyddelegFarmerville, LouisianaArawnBryn Terfel🡆 More