Bryncir: Pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Dolbenmaen, Gwynedd, Cymru, yw Bryncir.

Saif yn ardal Eifionydd ar briffordd yr A487 rhwng Pant Glas a phentref Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw Afon Dwyfach.

Bryncir
Bryncir: Enwogion, Llyfryddiaeth, Cyfeiriadau
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.979297°N 4.263598°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r 6g gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda chanolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw Golan. Daw enw'r pentref o blasty Bryncir, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain wrth geg Cwm Pennant. Pan adeiladwyd y rheilffordd, mynnodd Mr Huddart, perchennog ystâd Bryncir ar y pryd, y byddai gorsaf yn cael ei chodi mor agos ag oedd yn bosibl i'w blasty.

Cafwyd damwain ddrwg ar y rheilffordd ger Gorsaf reilffordd Bryncir cyn iddi agor yn swyddogol ym 1866.

Mae llwybr Cenedlaethol Lôn Las Cymru yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran Lôn Eifion, ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

Enwogion

Magwyd y cyflwynydd teledu a radio Gerallt Pennant (g. 1960, Bangor) yn Nerwyn Fechan ym Mryncir.

Llyfryddiaeth

  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995); gweler "Pen Llystyn"

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Bryncir EnwogionBryncir LlyfryddiaethBryncir CyfeiriadauBryncir Dolenni allanolBryncirA487Afon DwyfachCymruCymuned (Cymru)DolbenmaenEifionyddGarndolbenmaenGwyneddPant Glas

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

FfrangegClustlys bychanEuros BowenArlunyddGwlad TaiLlyfr BlegywrydCaradog PrichardForlorn RiverRhestr o seintiau CymruJapanAnwsAberdaugleddau1452Carles PuigdemontImmanuel KantFfistioArabegAl PacinoLyn EbenezerAberhondduBaskin-RobbinsRichard Howe, Iarll Howe 1afDeallusrwydd artiffisialHen BenillionMedal Ddrama Eisteddfod yr UrddCemeg organigLlenyddiaethOrganau rhywY WaunHafanRobert John Rowlands (Meuryn)Gwlad PwylAled Jones WilliamsCynhaiarnDizzy DamesWhatsAppGwilym Bowen RhysHaxtun, ColoradoCyfrifiadurEidalegForrest Gump (ffilm)Goresgyniad Llain Gaza gan Israel (2023‒24)Llanllwchaearn, CeredigionBarddGaiana15 EbrillYnys AfallonRhiwnachorThe Cincinnati KidGwedros GawrArianPidynWessexYn y GwaedAmherst, MassachusettsMetadataOsian GwyneddRhestr dyddiau'r flwyddynPolle FictionLaurel CanyonUncle FrankWythPolisi Awstralia WenFfilm bornograffigPatxaranHamasDar es Salaam🡆 More