Llangywer

Pentref bychan a chymuned ym Meirionnydd, Gwynedd, Cymru, yw Llangywer ( ynganiad ) (hefyd Llangywair; llygriad Saesneg: Llangower).

Saif Llangywer ar lan ddeheuol Llyn Tegid, tua 3 milltir a hanner i'r de o'r Bala a llai na chilometr o Lanuwchllyn. Rhed trac Rheilffordd Llyn Tegid trwy Llangywair, a cheir gorsaf yno. Yn 2011 roedd poblogaeth y gymuned hon yn 260.

Llangywer
Llangywer
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.877°N 3.63°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000081 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Llangywer
Eglwys y Santes Cywair

Hanes a hynafiaethau

Saif Castell Gronw ger y pentref, hen domen o'r Oesoedd Canol.

Yn yr Oesoedd Canol bu Llangywair yn un o dri phlwyf cwmwd Uwch Tryweryn yng nghantref Penllyn. Noda Cwm Cynllwyd, sy'n codi i gyfeiriad Bwlch y Groes, ffin orllewinol y plwyf, sy'n codi i'r dwyrain i fryniau deheuol Y Berwyn. Mae'n ardal fynyddig iawn gyda'r rhan fwyaf o'r anneddau'n gorwedd ar y llain o dir isel ar lan Llyn Tegid.

Bu'r bardd Euros Bowen yn reithor yma am flynyddoedd. Efallai fod Llangywer yn fwyaf adnabyddus am y gân werin draddodiadol:

    Ffarwel i blwy Llangywer
    A'r Bala dirion deg ..

Eglwys Santes Cywair

Cysegrir eglwys y plwyf i santes leol o'r enw Cywair. Ni wyddom ddim amdani o gwbl, ond credir fod llun dychmygol ohoni ar ffenestr liw dwyreiniol yr eglwys.

Llangywer 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Ceir cofnod am yr eglwys hon yn Taxatio 1291. Cofnodwyd i John Wynne ymweld â'r lle yn 1729. Yn ôl Cadw, 'St. Gwawr' yw'r enw cywir. Mae colofnau'r eglwys yn dyddio'n ôl i'r 15g os nad cynt. Caewyd y drysau am y tro olaf yn 2003 gan mai dim ond tri aelod oedd gan yr eglwys.

Ceir ffynnon sanctaidd gerllaw - Ffynnon Gywair - a orchuddir gan garreg a enwir yn Llech Cywair. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl werin am foddi'r deyrnas lle saif Llyn Tegid heddiw, esgeuluso rhoi'r garreg yn ôl ar y ffynnon a barodd iddi orlifio a boddi'r hen deyrnas, gan ffurfio'r llyn. Dyddia eglwys Llangywer o'r 13g, ond cafodd ei hail-adeiladu yn 1871.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangywer (pob oed) (260)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangywer) (170)
  
67.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangywer) (170)
  
65.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llangywer) (21)
  
19.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Tags:

Llangywer Hanes a hynafiaethauLlangywer Eglwys Santes CywairLlangywer Cyfrifiad 2011Llangywer CyfeiriadauLlangywerCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Llangwnnadl.oggGorsaf Reilffordd LlangowerGwyneddKilometrLlangwnnadl.oggLlanuwchllynLlyn TegidMeirionnyddRheilffordd Llyn TegidSaesnegWicipedia:TiwtorialY Bala

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Marie AntoinetteShowdown in Little TokyoDestins ViolésSbaenegHuluCyfalafiaeth22 AwstIaithLe Conseguenze Dell'amoreSF3A3Anaal NathrakhGwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol210auAdolygiad llenyddol1950auBanerSodiwmRhyw rhefrolMegan Lloyd GeorgeLladinAngela 2David MillarPab Ioan Pawl ILlygoden ffyrnigFfilm arswydCracer (bwyd)Y PhilipinauCoelcerth y GwersyllY Coch a'r GwynAnna KournikovaPriodasTŷ pârFranz LisztGemau Olympaidd yr Haf 1920Er cof am KellyGweriniaeth RhufainJuan Antonio VillacañasJem (cantores)Seiri RhyddionSeidrMike PencePunch BrothersY Byd ArabaiddIsabel IceY Wlad Lle Mae'r Ganges yn BywNever Mind the Buzzcocks1997Miri MawrBig BoobsPrwsiaCroatiaLukó de RokhaPriodas gyfunryw yn NorwyErotikYnysoedd TorontoCwnstabliaeth Frenhinol UlsterBukkakeProtonRhestr Cymry enwogEva StrautmannGwledydd y bydCicio'r barFfrwydrad Ysbyty al-AhliPlanhigynD. W. Griffith14 GorffennafTargetsKim Il-sungBreaking AwayThere's No Business Like Show BusinessFfraincSiamanaethRhif Llyfr Safonol RhyngwladolInstagramGareth Bale🡆 More