Croesor: Pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan yng nghymuned Llanfrothen, Gwynedd, Cymru, yw Croesor ( ynganiad ).

Saif yng Nghwm Croesor wrth droed Cnicht a'r Moelwyn Mawr yng Ngwynedd. Mae'r boblogaeth tua 105. Roedd yno un ysgol gynradd a chapel. Caewyd y naill yn 2010 a'r llall yn 2016, a chaeodd yr is-swyddfa bost yn 1980. Gellir cyrraedd yno ar hyd dwy ffordd fechan; yr un mwyaf hwylus o'r Garreg a'r llall, dros y mynydd o Tan-y-bwlch. Yn y 18g roedd ffordd dyrpeg yn cysylltu Tan y Bwlch â Nantmor yn mynd trwy'r pentref.

Croesor
Croesor: Pentref yng Ngwynedd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9812°N 4.0405°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH631446 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Datblygodd y pentref gyda thŵf y chwareli llechi yn y 19g. Mae sawl chwarel yn y cylch, yn enwedig Chwarel Croesor a Chwarel Rhosydd. Agorwyd Chwarel Croesor yn 1856 a daeth yn eithaf llewyrchus dan reolaeth Moses Kellow ar droead yr 20g. Adeiladwyd trac tram i ddod a'r llechi i lawr o'r chwarel a datblygwyd y pentref ymhellach gan Hugh Beaver Roberts, perchennog stâd Croesor.

Efallai fod y pentref yn fwyaf enwog fel cartref Bob Owen, Croesor y casglwr llyfrau ac ysgolhaig.

Agorwyd Ysgol Gynradd Croesor ym 1873, a caewyd yn 2008 oherwydd diffyg disgyblion.

Cyfeiriadau

Tags:

18gCnichtCroesor.oggCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Croesor.oggGwyneddLlanfrothenMoelwyn MawrWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Harri StuartJohann Wolfgang von GoetheFfilmIago fab SebedeusThe Trouble ShooterThe RewardBethan GwanasSupport Your Local Sheriff!Nella città perduta di SarzanaMynediad am DdimRMS TitanicSenedd y Deyrnas UnedigRhestr llynnoedd CymruPachhadlelaSeneddGwalchmai ap GwyarYr Ynysoedd DedwyddCorrynThe Fighting StreakMarie AntoinetteLlywodraethElizabeth TaylorTwitterLos AngelesWicidataDelhiIâr (ddof)Owen Morris RobertsEnsym2005CalsugnoCysgod TrywerynYr EidalAwstTywysogion a Brenhinoedd CymruSorgwm deuliwThe Speed Maniac1996Evan Roberts (gweinidog)Siarl I, brenin Lloegr a'r AlbanYn SymlMeirion MacIntyre HuwsDyledRajkanyaAled Lewis EvansFacebookGwlad IorddonenUndduwiaethDe OsetiaConversazioni All'aria ApertaBois y CilieSanto DomingoBretagneMihangelCronfa CraiFfloridaD. H. LawrenceAffganistanThe Disappointments RoomDwylo Dros y MôrURLCystadleuaeth Cân Eurovision 2021Wicipedia CymraegCascading Style SheetsFflorensAsiaLlawfeddygaethAnna VlasovaDaearegR.O.T.O.R.Caerfyrddin🡆 More