Dadansoddiad o ddylanwadau daearyddiaeth ar gysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang yw daearwleidyddiaeth.
Rhoddir sylw i leoliad, yr amgylchedd ac hinsawdd, tirwedd a thirffurfiau, priddeg, adnoddau naturiol, a daearyddiaeth leol, a'r effaith sydd gan y rheiny ar gysylltiadau a gwrthdaro rhwng gwladwriaethau a gweithredyddion eraill. Ers ail hanner yr 20g, mae'r maes wedi ymwneud yn fwy ag agweddau o ddaearyddiaeth ddynol, er enghraifft demograffeg, cludiant a chyfathrebu.
Y gwyddonydd gwleidyddol o Sweden Rudolf Kjellén oedd y cyntaf i ddefnyddio'r enw, ym 1916, a chafodd y ddamcaniaeth ei datblygu gan y daearyddwr Almaenig Karl Haushofer. Ymledodd trwy Ewrop yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, yn enwedig Canolbarth Ewrop, a daeth i sylw ysgolheigion mewn gwledydd eraill yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Defnyddiwyd syniadau daearwleidyddol i gyfiawnhau ymlediaeth drefedigaethol, gan gynnwys Tynged Amlwg yn yr Unol Daleithiau a Lebensraum yn yr Almaen Natsïaidd. Adeiladodd y maes ar draddodiad gwleidyddol Ewrop y gellir ei olhrain i'r Henfyd, pan ysgrifennai'r hen Roegiaid ar bwysigrwydd tir âr a mynediad i'r môr, yn ogystal ag athronwyr, hanesyddion a llenorion yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daearwleidyddiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.