Nodwedd arbennig o'r dirwedd (e.e.
peiran, ystumllyn, neu forffoleg) a chymeriad cyffredinol arwyneb y tir yw tirffurf. Gall fod yn ganlyniad i ryngweithiad prosesau geomorffolegol (er enghraifft, gweithgaredd afonol, gweithgaredd rhewlifol, hindreuliad) a phrosesau tectonig a folcanig.
Geomorffoleg yw'r astudiaeth wyddonol o dirffurfiau'r ddaear a'r prosesau a roes fod iddynt.
O fewn Gwyddorau Daear, "tirwedd" yw'r term cyffredinol i ddisgrifio pryd a gwedd ardal sy'n cynnwys nodweddion naturiol (tirffurfiau) a nodweddion o wneuthuriad bodau dynol. O ran yr hinsawdd, gellir ei ddiffinio fel y graddau o wahaniaeth topolegol mewn codiadau yn y tirwedd, h.y. cydffurfiad wyneb solet y ddaear o ystyried ei elfennau anwastad (codiadau, pantiau, llethrau) gyda'i gilydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tirffurf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.