Term a ddefnyddir i ddisgrifio'r amryw fentrau masnachol sy'n cyflogi gweithwyr rhyw, perfformwyr erotig er enghraifft, mewn perthynas â'r hyn a elwir yn gyffredinol yn adloniant oedolion, sy'n cynnwys pornograffi ac erotica, am ei fod yn cynnwys mathau o adloniant a difyrrwch nad yw'n cael ei ystyried yn addas i blant, yw diwydiant rhyw.
Gellid ymestyn y diffiniad o'r diwydiant rhyw i gynnwys puteindai a phuteindra yn gyffredinol hefyd.
Honnir yn aml fod y diwydiant rhyw yn un o'r rhai mwyaf sylweddol yn y byd, gyda phresenoldeb ym mhob gwlad bron. Yn ogystal â'r "alwedigaeth hynaf", mae'r diwydiant yn cynnwys cynhyrchu, dosbarthu a gwerthu ffilmiau i oedolion ("ffilmiau coch"), nifer o safleoedd ar y rhyngrwyd, a thwristaeth ryw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Diwydiant rhyw, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.