Damcaniaeth ym mholisi tramor Unol Daleithiau America yn ystod y Rhyfel Oer oedd damcaniaeth y dominos sydd yn tybio byddai gwladwriaeth sydd yn troi'n gomiwnyddol yn ysgogi llywodraethau comiwnyddol i ddod i rym mewn gwladwriaethau cyfagos, megis effaith dominos yn cwympo.
Defnyddiwyd y syniad yn gyntaf gan yr Arlywydd Harry S. Truman i gyfiawnhau danfon cymorth milwrol i Wlad Groeg a Thwrci yn y 1940au, ac roedd yn rhan bwysig o bolisi tramor yr Arlywydd Dwight D. Eisenhower yn y 1950au. Bu llywodraeth yr Unol Daleithiau yn pryderu'n enwedig am ymlediad comiwnyddiaeth yn Ne Ddwyrain Asia, a defnyddiwyd effaith y dominos i gyfiawnhau ymyrraeth filwrol gan yr Americanwyr yn Rhyfel Fietnam.
Enghraifft o'r canlynol | political theory |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Damcaniaeth y dominos, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.