Grŵp rhyngwladol yw'r Mudiad Amhleidiol o wladwriaethau nad yw'n ystyried eu hunain wedi'u hymochri'n ffurfiol ag unrhyw floc grym, neu yn erbyn unrhyw floc.
Mae'n cynnwys Belarws, Wsbecistan, ac holl aelodau Grŵp y 77, ac eithrio'r rhai sydd yn arsyllwyr yn y Mudiad yn ogystal â gwledydd Oceania (ar wahân i Papua Gini Newydd a Fanwatw, sydd yn aelodau).
Y Mudiad Amhleidiol | |
Pencadlys | Canolfan Gydgysylltu yn Ninas Efrog Newydd |
---|---|
Aelodaeth | 120 o aelodau 17 o wledydd arsyllwyr |
Prif gorff penderfynu | Cynhadledd Penaethiaid Gwladwriaethau y Gwledydd Amhleidiol |
Cadeirydd | Yr Aifft |
Ysgrifennydd Cyffredinol | Mohamed Hussein Tantawi (de facto) |
Sefydlwyd | 1961 |
Gwefan | csstc.org |
Sefydlwyd y sefydliad yn Beograd ym 1961 gan ymdrechion Josip Broz Tito, Arlywydd Iwgoslafia, Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India, Gamal Abdel Nasser, Arlywydd yr Aifft, Kwame Nkrumah, Arlywydd Ghana, a Sukarno, Arlywydd Indonesia. Eu bwriad oedd i hyrwyddo trydydd ddewis i wladwriaethau'r Trydydd Byd ar wahân i flociau'r Dwyrain a'r Gorllewin yn y Rhyfel Oer.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Mudiad Amhleidiol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.