Pencadlys yw'r term a ddefnyddir yn gyffredinol am brif ganolfan weinyddol corff cyhoeddus, cwmni, mudiad neu sefydliad arall.
Yn nhermau milwrol, mae'n cyfeirio at brif ganolfan pennaeth milwrol a'i staff. Fel arfer mae pencadlys yn adeilad o ryw fath, ond yn achos byddin gall fod yn un symudol.
Bathwyd y gair Cymraeg "pencadlys" yn 1862. Mae'n seiliedig ar y gair Cymraeg Canol cadlys, a olygai "amddiffynfa" yn wreiddiol ond a ddaeth i fagu'r ystyron "gwersyll (filwrol)" a "phrif orsaf" ac wedyn "pencadlys" yn nes ymlaen.
Weithiau gall sefydliad gael fwy nag un pencadlys; er enghraifft, mae gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg dri, gyda'r prif bencadlys yng Nghaerdydd, a dau arall yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pencadlys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.