Corff statudol oedd 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Derbyniodd y Bwrdd grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, a oedd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau.
Bwrdd yr Iaith Gymraeg | |
Arwyddair | "Gwneud hi'n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd." |
---|---|
Pencadlys | Caerdydd, Caerfyrddin, a Chaernarfon |
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Cymraeg |
Prif Weithredwr | Meirion P. Jones |
Sefydlwyd | Rhagfyr 1993 |
Diddymwyd | Mawrth 2012 |
Math | Asiantaeth weithredol |
Lleoliad | Cymru |
Cyllideb | Dim cyllideb, ond yn cael grant blynyddol gan y llywodraeth o £12m |
Gwefan | www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20081121144021/http://www.byig-wlb.org.uk/Pages/Hafan.aspx |
Gellir ystyried Cyngor yr Iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 1973, fel cynsail at sefydlu'r Bwrdd. Wedi hynny, sefydlwyd corff ymgynghorol anstadudol ym 1988 o dan gadeiryddiaeth John Walter Jones. Gwnaeth y bwrdd argymhellion i’r llywodraeth yn 1991 bod angen Deddf Iaith newydd, gan arwain at Deddf Iaith 1993 a sefydlodd y bwrdd statudol.
Ar ddiwedd 2004 cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan "goelcerth y cwangos" a fyddai yn diddymu sawl corff yn cynnwys Bwrdd yr Iaith. Croesawyd hyn gan Gymdeithas yr Iaith ond nid oedd pawb yn cytuno. Yn 2006 cafwyd pleidlais yn y Cynulliad yn gorchymyn i Llywodraeth y Cynulliad ohirio'r cynllun. Yn dilyn Etholiad y Cynulliad 2007 cafwyd cytundeb Cymru'n Un rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Dair mlynedd yn ddiweddarach cyflwynodd y Llywodraeth y Mesur Iaith hir-ddisgwyliedig ac fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010. Byddai'r Ddeddf yn sefydlu swydd newydd Comisiynydd Iaith gan ddod a Bwrdd yr Iaith i ben ar ôl bron i ugain mlynedd. Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 31 Mawrth 2012 a trosglwyddwyd staff, eiddo a dyletswyddau y bwrdd i Lywodraeth Cymru ac i Gomisiynydd y Gymraeg.
Beirniadwyd y Bwrdd gan rai, yn honni nad oedd grym ganddo dros y cyrff cyhoeddus ac yn ei feirniadu am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector preifat.
Agwedd ymgyrchwyr dros y Gymraeg oedd gweld y Bwrdd yn offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei feirniadu'n llym, gan ymgyrchu am ddeddf iaith newydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bwrdd yr Iaith Gymraeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.