Awstin O Hippo: Diwinydd Cristnogol cynnar, athronydd a Thad Eglwysig (354-430)

Roedd Awstin o Hippo neu Sant Awstin (Lladin: Aurelius Augustinus; 13 Tachwedd 354 - 28 Awst 430) yn o'r ffigyrau pwysicaf yn natblygiad Cristionogaeth yn y gorllewin.

Ystyrir ef fel sant gan yr Eglwys Gatholig ac mae llawer o enwadau Protestannaidd hefyd yn ei ystyried fel un o dadau'r ffydd. Mae barn yr eglwysi Uniongred amdano yn fwy amrywiol.

Awstin o Hippo
Awstin O Hippo: Diwinydd Cristnogol cynnar, athronydd a Thad Eglwysig (354-430)
Ganwyd13 Tachwedd 354 Edit this on Wikidata
Thagaste Edit this on Wikidata
Bu farw28 Awst 430 Edit this on Wikidata
Hippo Regius Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, diwinydd, hunangofiannydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, pregethwr, hanesydd, bardd, henuriad, ysgrifennwr, offeiriad Catholig, esgob er anrhydedd, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob esgobaethol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCyffesion Awstin Sant, The City of God, On the Trinity Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEmrys Sant Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl28 Awst, 15 Mehefin Edit this on Wikidata
TadPatricius Edit this on Wikidata
MamMonica o Hippo Edit this on Wikidata
PlantAdeodatus Edit this on Wikidata
Awstin O Hippo: Diwinydd Cristnogol cynnar, athronydd a Thad Eglwysig (354-430)
"St Awstin a Monica" (1846), gan Ary Scheffer.

Ganed Awstin yn 354 yn Tagaste (Souk Ahras, Algeria heddiw), o deulu Berber. Addysgwyd ef ym Madaurus, ac yna yn Carthago. Roedd ei fam, Monica, yn Gristion a'i dad Patricius yn bagan. Am gyfnod, gadawodd Awstin yr eglwys i ddilyn Manicheaeth, er mawr ofid i'w fam. Ffurfiodd berthynas a merch a barhaodd am bymtheng mlynedd, a ganwyd mab, Adeodatus, iddo. Yn 383 symudodd i Rufain ac yn 384 cafodd swydd athro rhethreg ym Milan.

Perswadiwyd ef gan esgob Milan, Emrys, i ymuno a'r Eglwys Gatholig. Bedyddiwyd ef a'i fab Adeodatus gan Emrys yn ystod Pasg 387, ac yn 388 dychwelodd i Affrica. Ar y ffordd bu farw ei fam yn Ostia, ac yn fuan wedyn ei fab. Creodd fynachlog yn Tagaste, ac yn 391 ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Hippo Regius, (yn awr Annaba, yn Algeria). Daeth yn bregethwr enwog, ac yn 396 gwnaed ef yn esgob Hippo. Bu farw yno yn 75 oed yn 430, pan oedd y ddinas dan warchae gan y Fandaliaid.

Ysgrifennodd Awstin nifer fawr o weithiau yn Lladin, yn cynnwys gweithiau yn dadlau yn erbyn Ariadaeth, Donatiaeth, Manicheaeth a Pelagiaeth. Y mwyaf enwog o'i weithiau yw Confessiones (Cyffesiadau), a ystyrir weithiau fel yr hunangofiant modern cyntaf, a De civitate Dei (am ddinas Dduw).

Tags:

13 Tachwedd28 Awst354430CristionogaethEglwys GatholigSant

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

TwitterYr AifftDavid Ben-Gurion770MilwaukeeMancheWicidestunMarianne NorthJuan Antonio VillacañasHinsawddRhyw tra'n sefyllGodzilla X MechagodzillaEmojiIndiaEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigIncwm sylfaenol cyffredinolMoanaPiemonte216 CCOrgan bwmpLlygad EbrillConstance SkirmuntTrawsrywedd1391Esyllt SearsCaerdyddNetflixEalandDiana, Tywysoges CymruCalsugnoSefydliad WicimediaAgricolaKilimanjaroDoler yr Unol DaleithiauAmser797705KrakówRhannydd cyffredin mwyafWicidataHegemoniCyfryngau ffrydioJess DaviesFfawt San AndreasYr Wyddgrug1701Oregon City, OregonOlaf SigtryggssonThe Beach Girls and The MonsterWaltham, MassachusettsSimon BowerDydd Gwener y GroglithWordPress1573Dinasyddiaeth yr Undeb EwropeaiddUndeb llafurWeird WomanRhyw geneuolYmosodiadau 11 Medi 2001Sefydliad WicifryngauNoson o FarrugWiciDafydd IwanLee MillerDenmarcIRCCenedlaetholdeb🡆 More