Sect Gristnogol yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Donatiaeth a ymffurffiodd yng Ngogledd Affrica yn y 4g, dan arweiniad yr Esgob Donatus Magnus, ac a oroesodd hyd at y 7g.
Sbardunwyd y sgism gan etholiad Caecilian yn Esgob Carthago (a leolir heddiw yn Nhiwnisia) yn 312, dewis a wrthwynebwyd gan rai am iddo gael ei gysegru gan "fradychwr" i'r ffydd, hynny yw un a ildiodd gopïau o'r Beibl i'r awdurdodau yn ystod erledigaeth y Cristnogion gan yr Ymerawdwr Diocletian.
Enghraifft o'r canlynol | athrawiaeth, Heresi |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn hanesyddol, mae Donatiaeth yn un o sawl mudiad sgismatig yn yr Eglwys Fore, megis Montaniaeth a Nofatianaeth yn Asia Leiaf a Meletiaeth yn yr Aifft. Dalient taw hwynt-hwy ydoedd yr unig wir eglwys, a dim ond y rhai sy'n byw bywyd di-fai sy'n perthyn i'r eglwys, ac nid arddelant ordinhadau unrhyw sect arall. Gwrthodasant ymyrraeth wladol mewn materion eglwysig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Donatiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.