Gŵyl Gristnogol symudol yw'r Sulgwyn a gynhelir ar yr wythfed Sul ar ôl y Pasg.
Mae'n dathlu disgyn yr Ysbryd Glân ar yr Apostolion ac yn seiliedig ar yr 'Ŵyl yr Wythnosau' Iddewig. Gellir olrhain ei dathlu i'r 3ed ganrif OC.
Yr enw Lladin ar yr ŵyl yw Pentecost, sy'n deillio o'r gair Groeg pentikosti, sef 'y 50fed ddiwrnod' (ar ôl y Pasg). Enwir sawl enwad a mudiad Cristnogol yn 'Bentecostaidd'.
Er ei bod yn ŵyl fawr yn y calendr eglwysig, cymharol ychydig o ddefodau ac arferion poblogaidd sy'n gysylltiedig â hi, efallai am nad oes cysylltiad amlwg â gŵyl baganaidd. Un ddefod hynod a gynhelid ar y Sulgwyn yng Nghymru oedd defod 'Y Pren Dedwydd'. Coeden anghyffredin gyda hollt fawr wrth ei gwaelod oherwydd ymrannu'r pren yn ddwy gangen sy'n cyffwrdd eto wedyn i dyfu'n rheolaidd oedd hon, a safai ar ystâd y Plas Hen yn Llŷn, Gwynedd. Byddai'r werin bobl yn ymgynnull yno ar y Sulgwyn i geisio basio trwy'r hollt: dedwyddwch a gai'r rhai a fedrai hynny. Credir fod hyn yn deillio o ddefod yn ymwneud â ffrwythlondeb, rhyw a genedigaeth. Arfer arall yn Llŷn ar y Sulgwyn oedd i ferched sefyll gyda'u dwylo tu ôl i'w cefnau a cheisio dal oen yn eu dannedd wrth ei wlân. Rhoddid yr enw 'Brenhines yr Oen' ar bwy bynnag a lwyddai i wneud hynny ac yfid 'Cwrw Oen'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sulgwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.