Yn ôl Cristnogaeth, trydydd person y Drindod yw'r Ysbryd Glân.
Gellir ei ystyried yn bresenoldeb ysbrydol y Duwdod yn y byd.
Datblygodd diwinyddiaeth yr Ysbryd Glân mewn ymateb i ddadleuon yn yr Eglwys Fore ynglŷn â'r berthynas rhwng Duw'r Tad ac Iesu, Duw'r Mab. Cafodd Ariadaeth ei chondemnio gan Gyngor Nicaea yn 325 am iddi ddysgu taw creadur oedd y Mab ac nid yn gyfartal nac yn gyd-dragwyddol â'r Tad. Yn 381 cafodd y syniad taw creadigaeth gan y Mab yw'r Ysbryd Glân ei chondemnio gan Gyngor Caergystennin. Erbyn yr 11g derbyniai'r filioque gan Eglwys Rhufain, hynny yw ychwanegiad at Gredo Nicea-Caergystennin sydd yn awgrymu bod yr Ysbryd Glân yn deillio o'r Tad a'r Mab. Hwn oedd un o'r gwahaniaethau mewn athrawiaeth Gristnogol a arweiniodd at y Sgism Fawr yn 1054.
Cynrychiolir yr Ysbryd Glân yn yr ysgrythur drwy drosiadau: y golomen wen, symbol heddwch a chymod; corwynt, symbol nerth; a thafodau tân, symbol o berlewyg credinwyr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Ysbryd Glân, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.