Eglwys Y Gwir Iesu

Mae Eglwys y Gwir Iesu yn eglwys annibynnol a sefydlwyd yn Beijing, Tsieina ym 1917.

Heddiw mae yna oddeutu 1.5 miliwn o aelodau ym 45 gwlad . Perthyn yr eglwys i'r gangen Brotestanaidd Bentecostaidd of Gristnogaeth a ymddangosodd yn ystod yr 20g gynnar . Ers y 1980au sefydlwyd yr eglwys yma yn y DU. Ni ddethlir y Nadolig na'r Pasg gan yr eglwys .

Dyma ddeg athrawiaeth sylfaenol

Dyma ddeg athrawiaeth sylfaenol yr eglwys:

Ysbryd Glân

"Cred yr eglwys bod "siarad mewn tafodau" yn dystiolaeth o dderbyn yr Ysbryd Glân. Mae derbyn yr Ysbryd Glân yn hanfodol er mwyn dod i'r nefoedd. Mae'n tystio eich bod yn fab i Dduw. Yr Ysbryd Glân ydy'r Cymhorthydd a'r Cysurydd yr eich taith nefol."

Bedydd

"Bedyddio mewn dŵr ydy'r sagrafen ar gyfer maddeuant pechodau ac ar gyfer adfywiad. Gweithredir y bedydd yn enw'r Iesu mewn dŵr naturiol a byw gyda'r sawl a fedyddir â'i ben tua lawr i efelychu marwolaeth yr Iesu. Dylai'r person sydd yn derbyn y bedydd fod wedi'i drochi'n llwyr mewn dŵr a'i ben wedi'i blygu a'i wyneb tuag i lawr."

Cymundeb Sanctaidd

"Y Cymun Sanctaidd ydy'r sagrafen sy'n coffau marwolaeth yr Alglwydd Iesu Grist ar yr groes. Wrth i aelodau dderbyn cnawd a gwaed yr Arglwydd maent mewn cymundeb ysbrydol â fe - gyda'r gobaith am fywyd tragwyddol ac atgyfodiad ar Ddydd y Farn. Dim ond un bara croyw a sudd grawnwin a ddefnyddir a'i rannu ymysg y gynulleidfa."

Golchi traed

"Galluoga'r sagrafen o olchi traed rywun i gyfranogi yn yr Arglwydd; ac mae'n dysgu sancteiddrwydd, gostyngeiddrwydd, gwasanaeth a maddeuant. Gweithredir e yn enw'r Iesu ar bob aelod sy newydd ei fedyddio."

Dydd Saboth

"Mae dydd Saboth, seithfed dydd yr wythnos (dydd Sadwrn), yn ddydd sanctaidd wedi'i fendithio a'i sancteiddio gan Dduw. Mae rhaid ei gadw o dan ras Duw er mwyn coffâd cread a iachawdwriaeth Duw a chyda'r gobaith am orffwys tragwyddol yn y bywyd sydd i ddod."

Iesu Grist

"Bu farw Iesu Grist, y Gair a ddaeth yn gnawd, ar y groes er mwyn prynedigaeth pechaduriaid, atgyfodwyd ar y trydydd dydd ac esgynnodd i'r nefoedd. Efe yw unig Waredwr dynoliaeth, Creawdur y nefoedd a'r ddaear, a'r unig wir Dduw."

Beibl Sanctaidd

"Mae'r Beibl Sanctaidd, sy'n cynnwys yr Hen Destament a'r Testament Newydd, wedi'i ysbrydoli gan Dduw, yr unig wirionedd ysgrythurol, a'r safon ar gyfer byw'n Gristnogol."

Iachawdwriaeth

"Rhoddir iachawdwriaeth gan ras Duw drwy ffydd. Mae rhaid i gredinwyr ddibynnu ar yr Ysbryd Glân i fynd ar drywydd sancteiddrwydd, i anrhydeddu Duw, ac i garu dynoliaeth."

Eglwys

"Gwir eglwys y cyfnod apostolaidd wedi'i hadfer yw Eglwys y Gwir Iesu, a sefydlwyd gan ein Harglwydd Iesu Grist, trwy'r Ysbryd Glân yn ystod y 'teyrnasiad olaf'."

Y Farn Olaf

"Bydd Ail Ddyfodiad yr Arglwydd yn digwydd ar y Dydd Olaf pan ddisgyna E o'r nefoedd i farnu'r byd: Caiff y cyfiawn fywyd tragwyddol, tra condemnir yr anghyfiawn am byth."

Cyfeiriadau

Tags:

Eglwys Y Gwir Iesu Dyma ddeg athrawiaeth sylfaenolEglwys Y Gwir Iesu CyfeiriadauEglwys Y Gwir Iesu19171980au20gBeijingCristnogaethEglwysNadoligPasgTsieina

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

John Albert Jones25 RhagfyrEva StrautmannGêm fideoOrgasmElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigGwyddelegGwilym Tudur408CreampieSarah Jane Rees (Cranogwen)Treialon NurembergHydrefGeorge MichaelF802Wicipedia900SirMari JonesIlarYr Oesoedd CanolAnna VlasovaDu Fu31 MawrthArdal o Harddwch Naturiol EithriadolY Dywysoges MargaretConnecticutSex TapeY Weithred (ffilm)Cyfeiriad IPThe Poughkeepsie TapesMeicro-organebGweriniaeth Ddemocrataidd y CongoPopty microdon26 ChwefrorUnol Daleithiau AmericaMari'r Fantell WenFfwythiantSantes EilunedCarnolyn896Mawrth (mis)570auGwainSwydd AmwythigHenfynywNicolaus CopernicusSimón BolívarEnya599Rhyw llawTom PettyTeleduMoliannwnCyngar ap GeraintGerald FordMali Tudno Jones272Time Warp TrioAlexei NavalnyBaner yr Unol DaleithiauManon Steffan RosFideo ar alwWynford Ellis OwenPolisi Awstralia WenSystem cyfesurynnau daearyddolCyfarwyddwr ffilmBaner yr AlbanRobin Llwyd ab Owain7g🡆 More