Sukarno

Sukarno, weithiau Achmed Sukarno (6 Mehefin, 1901 – 21 Mehefin, 1970) oedd Arlywydd cyntaf Indonesia.

Yn yr hen orgraff, sillefid ei enw fel Soekarno. Fel llawer o drigolion ynys Jawa, dim ond un enw oedd ganddo.

Sukarno
Sukarno
GanwydKusno Sosrodihardjo Edit this on Wikidata
6 Mehefin 1901 Edit this on Wikidata
Surabaya Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1970 Edit this on Wikidata
Jakarta Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIndonesia, India Dwyreiniol yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Technische Hoogeschool te Bandoeng Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, casglwr celf Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Indonesia, Prif Weinidog Indonesia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolIndonesian National Party Edit this on Wikidata
TadSoekemi Sosrodihardjo Edit this on Wikidata
MamIda Ayu Nyoman Rai Edit this on Wikidata
PriodSiti Oetari, Inggit Garnasih, Fatmawati, Hartini, Kartini Manoppo, Dewi Sukarno, Haryati, Yurike Sanger, Heldy Djafar, Amelia De La Rama Edit this on Wikidata
PlantGuntur Soekarnoputra, Megawati Sukarnoputri, Taufan Sukarnoputra, Sukmawati Soekarnoputri, Guruh Sukarnoputra, Rachmawati Sukarnoputri, Bayu Sukarnoputra, Toto Suryawan Sukarno Putra, Kartika Sari Dewi Soekarno, Ayu Gembirowati Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin, Arwyr Genedlaethol Indonesia, Gwobr Heddwch Lennin, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Urdd Georgi Dimitrov, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Sofia, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Grand Cross of the Order of Chula Chom Klao Edit this on Wikidata
llofnod
Sukarno

Daeth Sukarno yn amlwg yn y mudiad cenedlaethol oedd yn ymgyrchu am annibyniaeth Indonesia, oedd bryd hynny dan reolaeth yr Iseldiroedd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd meddiannwyd ynysoedd Indonesia gan Japan. Ar ddiwedd y rhyfel yn Awst 1945, cyhoeddodd y cenedlaetholwyr Indonesaidd, dan arweiniad Sukarno, wladwriaeth annibynnol. Ceisiodd yr Iseldiroedd ad-ennill grym, ond wedi cryn dipyn o ymladd gorfodwyd hwy i gydnabod annibyniaeth Indonesia yn Rhagfyr 1949.

Daeth Sukarno yn Arlywydd ar 18 Awst, 1945, a bu yn y swydd nes iddo orfod ymddiswyddo ar 12 Mawrth, 1967. Gwanychwyd ei safle yn ddirfawr gan ddigwyddiadau 30 Medi 1965, pan laddwyd chwech cadfridog yn yr hyn a hawlid oedd yn ymgais gan Blaid Gomiwnyddol Indonesia (PKI) i gipio grym. Ymatebodd y fyddin, dan arweiniad y cadfridog Suharto, trwy ladd miloedd lawer o gomiwnyddion ac eraill y dywedid eu bod mewn cydymdeimlad â hwy. Credir i rhwng 500,000 a miliwn o bobl gael eu lladd. O hynny ymlaen, er i Sukarno barhau fel Arlywydd yn ffurfiol am gyfnod, Suharto oedd a'r grym mewn gwirionedd.

Yn ddiweddarach, daeth merch Sukarno, Megawati Sukarnoputri, yn bumed arlywydd Indonesia rhwng 2001 a 2004.

Arlywyddion Indonesia
Sukarno
Olynydd :
Suharto

Tags:

1901197021 Mehefin6 MehefinIndonesiaJawa

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Bruce SpringsteenRhyfel FietnamGwefanEglwys Sant Baglan, LlanfaglanGoogleModern FamilyCorff dynolLa Flor - Partie 2Y gynddareddYstadegaethJohn OgwenGwenno HywynBig BoobsPont grogCatahoula Parish, LouisianaNaked SoulsFfistioPompeiiL'ultimo Treno Della NotteAneirinThe MatrixTechnoleg gwybodaethOsteoarthritisHeather JonesCastanetMarie AntoinetteElisabeth I, brenhines LloegrMaoaethGwainDaearegRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrCentral Coast, New South WalesGregor MendelAdieu, Lebewohl, Goodbye2020Ynys-y-bwlInter MilanYsgrifennwrThe TimesFari Nella NebbiaDu FuDehongliad statudolCymdeithasPiso1945Nia Ben AurRobin Hood (ffilm 1973)Ynys MônLos AngelesChandigarh Kare AashiquiLouis PasteurRhestr mathau o ddawnsCymruHwferMoscfaThe Salton SeaSafleoedd rhywTeledu clyfarFfilm llawn cyffroPlanhigyn2014Hentai KamenSioe gerddHarri VIII, brenin LloegrJeremy RennerParamount PicturesLas Viudas De Los JuevesHarri WebbAradon🡆 More