Grŵp mawr o unigolion sydd yn rhannu'r un gofod cyhoeddus ac yn rhyngweithio mewn ffordd systematig yw cymdeithas.
Yn fras, mae'n cynnwys pob casgliad o bobl sydd yn ymateb i'w gilydd ac yn ffurfio felly cyfundrefn ar sail cydberthynas, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu, a rhaniad llafur; yn yr ystyr hon, gellir defnyddio'r term hefyd ar gymdeithasau anifeiliaid o'r un rywogaeth. O ganlyniad i weithredoedd ac ymatebion yr unigolion â'i gilydd, byddai'r gymdeithas yn ffurfio rhyw fath o drefn yn seiliedig ar arferion, rheolau, a buddiannau cyffredin er mwyn iddynt cyd-fyw yn heddychlon. Y gymdeithas ddynol yw pwnc disgyblaeth cymdeithaseg, sydd yn ymwneud ag ymddygiad cymdeithasol, patrymau o berthnasau a chysylltiadau cymdeithasol, ac agweddau eraill o fywyd cymunedol a diwylliannol.
Diffinnir cymdeithas ddynol unigryw gan boblogaeth sydd yn byw mewn tiriogaeth ddaearyddol benodol, fel rheol gyda diwylliant a ffordd o fyw gyffredin, dan drefn sydd naill ai yn meddu ar sofraniaeth ac yn annibynnol ar gymdeithasau eraill, neu gyda digon o ymreolaeth ac hunangynhaliaeth i'w hystyried yn system gymdeithasol ar wahân. Gwahaniaethir cymdeithas ddynol benodol gan nodweddion strwythurol ei threfn yn ogystal â nodweddion diwylliannol a chymdeithasol y boblogaeth y mae'n ei chynnwys. Yn ôl gwladwriaeth-ganoliaeth, y meddylfryd traddodiadol ym maes gwyddor gwleidyddiaeth, mae'r gwahaniaethau rhwng cymdeithasau dynol yn cyfateb i ffiniau'r cenedl-wladwriaethau: cymdeithas Ffrengig, cymdeithas Almaenig, ac ati. Er bod ysgolheigion mewn meysydd eraill yn aml yn dilyn y patrwm hwn, nid diffiniad digonol mohoni am ei fod yn hepgor cymdeithasau cenhedloedd nad yw'n annibynnol a chymdeithasau ethnig a diwylliannol sydd yn mynd y tu hwnt i ffiniau, er enghraifft cymdeithas Gymreig, cymdeithas Gyrdaidd, a chymdeithas Québecois. Mae twf globaleiddio yn enwedig wedi dangos cyfyngiadau'r hen ddiffiniad gwleidyddol, ac mae rhai Marcswyr wedi mabwysiadu'r term "ffurfiad cymdeithasol" i gyfeirio at gymdeithasau yn nhermau eu datblygiad gwleidyddol ac economaidd, fel y'i ceir gan amlaf y tu mewn i ffiniau penodol.
Grŵp cyfyngedig o bobl yw cymuned, yn ôl y diffiniad traddodiadol, sydd yn byw yn agos i'w gilydd ac yn rhyngweithio wyneb yn wyneb. Gellir ei hystyried yn ffurf fach, leol ar gymdeithas.
Nid mater hawdd yw llunio'r gwahaniaeth rhwng cymdeithas a'r wladwriaeth. Defnyddir y term cymdeithas sifil i ddisgrifio'r rhannau cydweithredol o gymdeithas sydd ar wahân i'r wladwriaeth, gan gynnwys sefydliadau crefyddol, busnesau a chwmnïau, y cyfryngau torfol, elusennau, carfanau pwyso, undebau llafur a chymdeithasau proffesiynol, clybiau, a mudiadau cyfundrefnol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymdeithas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.