Gwlad ffederal ar lan Môr Adria yn y Balcanau, de-ddwyrain Ewrop, oedd Iwgoslafia (enw swyddogol: Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Serbo-Croateg: Jugoslavija).
Roedd yn cynnwys y gweriniaethau ffederal Slofenia, Croatia, Serbia, Bosnia-Hertsegofina, Montenegro a Macedonia, sy'n wledydd annibynnol erbyn heddiw. Serbiaid a Croatiaid oedd mwyafrif y boblogaeth. Beograd oedd y brifddinas.
Delwedd:Emblem of Yugoslavia (1943–1963).svg, Emblem of Yugoslavia (1963–1992).svg, Coat of arms of the Kingdom of Yugoslavia.svg | |
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Beograd |
Poblogaeth | 23,271,000, 11,998,000 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Hey, Slavs |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Serbo-Croateg |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 255,804 km² |
Gerllaw | Môr Adria |
Yn ffinio gyda | yr Eidal, Gwlad Groeg, Hwngari, Rwmania, Albania, Bwlgaria, Awstria, yr Undeb Ewropeaidd, yr Almaen Natsïaidd |
Cyfesurynnau | 44.8206°N 20.4622°E |
Arian | Yugoslav dinar |
Dechreuodd fel "Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid" trwy uno Serbia, Croatia, Slofenia a Bosnia-Hertsegofina yn 1918. Cymerodd y brenin Alecsander I o Iwgoslafia rym absoliwt iddo'i hun yn 1929 ond cafodd ei asasineiddio gan genedlaetholwyr Croataidd yn 1934. Yn yr Ail Ryfel Byd meddianwyd y wlad gan yr Almaenwyr a ffoes Pedr II o Iwgoslafia, olynydd Alecsander, i alltudiaeth yn Llundain.
Rhanwyd y gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr rhwng dwy blaid wrthwynebus, sef y Tsietniciaid a'r Partisaniaid. Enillodd yr olaf gefnogaeth y Cynghreiriaid yn 1943 ac ar ôl y rhyfel sefydlodd eu harweinydd Tito lywodraeth gomiwnyddol.
Roedd Tito yn anfodlon i Iwgoslafia fod dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd a daeth materion i ben yn 1948 pan dorrodd gysylltiadai diplomyddol â'r Sofietiaid. Meiriolwyd y sefyllfa rywfaint yn sgîl marwolaeth Stalin. Dilynodd Tito bolisi o niwtraliaeth mewn materion tramor ('non-alignment') a datblygodd ffurf o sosialaeth ddatganoliedig unigryw i'r hen Iwgoslafia. Serbo-Croateg oedd yr iaith ffederal swyddogol.
Torrodd Iwgoslafia i fyny yn y 1990au yn Rhyfeloedd Iwgoslafia.
White T. Another fool in the Balkans - in the footsteps of Rebecca West. Cadogan Guides, Llundain , 2006
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Iwgoslafia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.