Band gwerin Cymraeg o Gaernarfon yw Bwncath.
Ffurfiwyd y band pedwar-aelod yn 2014.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Label recordio | Rasal |
Dechrau/Sefydlu | 2014 |
Genre | Canu gwerin |
Prif ganwr y band yw'r gitarydd Elidyr Glyn sy'n adnabyddus gan iddo ennill Cân i Gymru 2019, gyda’i gân Fel Hyn 'Da Ni Fod. Enillodd Dlws Alun Sbardun Huws yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 am gyfansoddi'r gân Curiad Y Dydd.
Mae Bwncath wedi perfformio’n fyw mewn amryw o ddigwyddiadau ledled Cymru, megis, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gŵyl Fwyd Caernarfon, Gŵyl Rhuthun, a Gŵyl Fach y Fro, i enwi ond rhai. Maent wedi ymddangos ar Noson Lawen ar S4C hefyd.
Cyhoeddir cerddoriaeth Bwncath ar label recordio Rasal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bwncath (band), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.