Llanegryn: Pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanegryn ( ynganiad ).

Saif ym Meirionnydd ar lan ddwyreiniol Dyffryn Dysynni tua chwarter milltir i'r gogledd o lôn yr A493, tua 3 milltir i'r gogledd o Dywyn, ar lethrau isaf yr Allt-lwyd, y bryn cyntaf yn yr esgair hir o fryniau sy'n dringo i gyfeiriad Cadair Idris. Mae Afon Dysynni yn llifo heibio i waelod y pentref.

Llanegryn
Llanegryn: Yr eglwys, Cyfrifiad 2011, Lleoedd eraill
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.62°N 4.07°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000074 Edit this on Wikidata
Cod OSSH600054 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Mae pont fwa yn croesi ffrwd fechan ar ymyl y pentref. Ychydig o dai sydd yn y pentref ei hun ond ceir tri chapel yno ynghyd â'r eglwys hynafol sy'n sefyll ychydig o'r neilltu i'r pentref ei hun. Mae'r lôn sy'n rhedeg trwy'r pentref yn eich tywys i fyny'r dyffryn i gyfeiriad Castell y Bere a Llanfihangel-y-pennant.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Yr eglwys

Mae Eglwys y Santes Fair a Sant Egryn yn adeilad pur hynafol sy'n dyddio o'r 13g. Eglwys un siambr ydyw gyda chlochdy bach yn y gorllewin. Prif ogoniant yr eglwys hon yw'r ysgrîn bren fendigedig sy'n dyddio o'r 15g; yn ôl traddodiad daeth i'r eglwys o Abaty Cymer, y tŷ Sistersiaidd ger Dolgellau. Ceir cofebion i aelodau o deulu Wynniaid Peniarth yn yr eglwys hefyd, e.e. yr un i Richard Owen (m. 1714).

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanegryn (pob oed) (303)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanegryn) (148)
  
49.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanegryn) (155)
  
51.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanegryn) (60)
  
42.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Lleoedd eraill

Pobl o Lanegryn

  • Hugh Hughes (1863-1944), cefnwr rygbi rhyngwladol i Gymru

Cyfeiriadau


Tags:

Llanegryn Yr eglwysLlanegryn Cyfrifiad 2011Llanegryn Lleoedd eraillLlanegryn Pobl o LanegrynLlanegryn CyfeiriadauLlanegrynA493Afon DysynniCadair IdrisCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Llanegryn.oggDyffryn DysynniGwyneddLlanegryn.oggMeirionnyddTywynWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DisgyrchiantIndiaLlanarmon Dyffryn CeiriogRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrRhyfel Sbaen ac AmericaTennis GirlRhestr o bobl a anwyd yng Ngweriniaeth IwerddonIeithoedd GoedelaiddAfter EarthLlydawAwdurBeibl 1588Dyn y Bysus Eto1927TsunamiHelen KellerParaselsiaethIndonesegDelweddRhyngslafegEthnogerddolegWilliam ShakespeareRhestr o wledydd a ddaeth yn annibynnol oddi wrth SbaenAwstraliaRichard Bryn WilliamsCyfarwyddwr ffilmSeattleMathemategCil-y-coed1724Real Life CamArwyddlun Tsieineaidd21 EbrillMalavita – The FamilyTrais rhywiolParth cyhoeddusCaerwyntKrak des ChevaliersRhian MorganRichard ElfynSupport Your Local Sheriff!Datganoli CymruLaboratory ConditionsRhyfel yr ieithoeddAlldafliadThe Salton SeaSbriwsenEdward VII, brenin y Deyrnas Unedig1961CalsugnoY MedelwrEtholiadau lleol Cymru 2022PubMedBenjamin NetanyahuCyfathrach Rywiol FronnolY we fyd-eangDer Da Ist Tot Und Der Beginnt Zu SterbenBethan Gwanas1855Llŷr ForwenGwyddoniasSiambr Gladdu Trellyffaint1 EbrillHanes Tsieina🡆 More