Llandygái: Pentref yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llandygái ( ynganiad ) (weithiau Llandygai neu Llandegai).

Saif ychydig i'r de-ddwyrain o ddinas Bangor ar lan orllewinol Afon Ogwen, gyda phentref Tal-y-bont ar y lan ddwyreiniol. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llandygái gan Sant Tegai/Tygái yn y 6g.

Llandygái
Llandygái: Pentref yng Ngwynedd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTegai Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2167°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000073 Edit this on Wikidata
Cod OSSH597708 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)

Yr adeilad mwyaf yn Llandygái yw Castell Penrhyn, a adeiladwyd gan Arglwydd Penrhyn gyda'r arian a gafodd o dyfu siwgr yn Jamaica a'r elw o Chwarel y Penrhyn. Mae'n awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Heb fod ymhell o Landygái mae gwarchodfa adar Aberogwen, ar lan Traeth Lafan.

Treuliodd y bardd Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769-1838), un o ddisgyblion Dafydd Ddu Eryri, y rhan helaeth o'i oes yn Llandygái. Gweithiai yn Chwarel y Penrhyn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).

Olion hynafol

Ceir cylch cytiau caeedig Cororion gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Rhwng Llandygái a stad dai Maesgeirchen mae Stad Ddiwydiannol Llandygái. Wrth baratoi'r tir ar gyfer y stad ddiwydiannol yn 1967 darganfuwyd olion tŷ sylweddol o faint o'r cyfnod Neolithig, 6 medr o led wrth 13 medr o hyd, ynghyd ag olion o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn, cyfnod y Rhufeiniaid a mynwent o'r Canol Oesoedd cynnar. Mae'r stad ddiwydiannol yn awr yn cael ei ehangu. Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Parc Bryn Cegin yn 2006 (cyn yr adeiladu), gan ddarganfod olion tŷ arall yn dyddio o oddeutu 4000CC ac olion neolithig eraill, yn ogystal ag olion dau dŷ crwn o gyfnod y Brythoniaid a'r Rhufeiniaid, amrywiaeth o leiniau gwydr ac arteffactau eraill, a thwmpathau llosg o'r oes efydd.

Mewn llenyddiaeth

Sonnir am "glochdy Llandygái" mewn cerdd i "Glychau'r Gog" gan R. Williams Parry:

    Mwynach na hwyrol garol
    O glochdy Llandygái
    Yn rhwyfo yn yr awel
    Yw mudion glychau Mai
    Yn llenwi'r cof â'u canu;
    Och na bai'n ddi-drai!

Yr 'hwyrol garol' yw'r sŵn sy'n dod o'r clychau wrth iddynt gael eu canu.

Cyfeiriadau

Tags:

6gAfon OgwenBangorCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Llandygái.oggGwyneddLlandygái.oggSantTalybont, BangorTegaiWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Nella città perduta di SarzanaXXXY (ffilm)In The Days of The Thundering HerdIago IV, brenin yr AlbanIGF1Big JakeRalphie MayGini NewyddGalawegGwainAir ForceMartin o ToursPont y BorthIago III, brenin yr AlbanKarin Moglie VogliosaBartholomew RobertsCarl Friedrich GaussHermitage, BerkshireMoscfaRiley ReidThe Trouble ShooterThe FeudYr Ail Ryfel BydDiwrnod Rhyngwladol y GweithwyrYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaDeadly InstinctRhif cymhlyg2024Tywysog CymruClyst St MaryGŵyl Gerdd DantYr Apostol PaulTwyn-y-Gaer, LlandyfalleHisako HibiGwledydd y bydGeraint GriffithsY Brenin ArthurIago II, brenin yr AlbanSenedd y Deyrnas UnedigGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)École polytechniqueCantonegArwrAmaethyddiaethRhiwbryfdirCascading Style SheetsEnglynLlanfihangel-ar-ArthTywyddSir Gawain and the Green KnightDyledRobert GwilymMamma MiaHebog y GogleddCerdd DantCysawd yr HaulMyrddinParthaGlasgwm, PowysAwstCorsen (offeryn)Côd postLingua Franca NovaFandaliaidMacOSStorïau TramorSafleoedd rhywCaryl Parry JonesArctic PassageFforwm Economaidd y Byd🡆 More