Penrhyndeudraeth: Tref yng Ngwynedd

Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Penrhyndeudraeth ( ynganiad ).

Saif ar arfordir gogledd eithaf Meirionnydd, gyda'r Traeth Mawr a'r Traeth Bach ar y naill ochr iddo gydag Afon Glaslyn yn ei wahanu oddi wrth Eifionydd, a tua 3 milltir o Borthmadog.

Penrhyndeudraeth
Penrhyndeudraeth: Hanes, Cymraeg, Cyfrifiad 2011
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9298°N 4.0663°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000094 Edit this on Wikidata
Cod OSSH611388 Edit this on Wikidata
Cod postLL48 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Penrhyndeudraeth: Hanes, Cymraeg, Cyfrifiad 2011
Tafarn y Dderwen yng nghanol y pentref
Penrhyndeudraeth: Hanes, Cymraeg, Cyfrifiad 2011
Eglwys Brothen Sant, Llanfrothen

Hanes

Cynhanes

Mae nifer o olion ieithyddol Hen Gymraeg i'w weld yn enwau lleoedd ardal Penrhyndeudraeth e.e. 'Pont Briwet' (Briwet: o'r gair Brythoneg *Brued 'pont').

Ceir olion Cytiau Gwyddelod Ty'n y Berllan gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar

Mae arwyddocad a phwysigrwydd hanesyddol hefyd i'r pentref. Yng nghyfrifon gweision Edward I, brenin Lloegr, tra'n adeiladu Castell Harlech, gwelir sawl cyfeiriadau at drigolion cefnog y pentref. Yn ddiweddarach, bu gwŷr a gwragedd o bwysigrwydd ac arwyddoacad cenedlaethol yn byw yno. Yn hen blasty'r Hendre (sydd wedi'i leoli wrth Ysbyty Bron y Garth) yn 1648 fe anwyd Humphrey Humphreys, esgob Bangor a Henffordd yn olynol. Roedd Humphreys yn esgob diwygiedig effeithiol ac yn Gymro twymgalon: yn ôl Edward Lhuyd ef oedd Cymro mwyaf ei oes. Roedd yn achyddwr, ysgolhaig a Christion nodedig. Claddwyd ei rieni - Richard Humphreys a Margaret Wynn (o deulu Cesailgyfarch, Penmorfa) ym mynwent hen eglwys Llanfrothen. Bu farw Humphreys tra'n esgob Henffordd yn 1712. Gwelir un o greiriau'r teulu yn Eglwys y Drindod Sanctaidd Penrhyndeudraeth: yno y mae hen gist dderw a gyflwynodd Richard Humphreys i Eglwys Llanfrothen tra'n warden arni yn 1690.

Y cyfnod diweddar

Penrhyndeudraeth: Hanes, Cymraeg, Cyfrifiad 2011 
Boston Lodge, Penrhyndeudraeth.

Ni fu Penrhyndeudraeth erioed yn bentref crefyddol iawn. Gwelwyd y Methodistiaid yn sefydlu eglwysi yn y pentref yn gynnar yn hanes y mudiad gyda seiadau yn cael eu sefydlu mewn myrddunod[eglurhad?] fel Cae'r Gof a Gelli Gwiail. Mae hanes diddorol a chyffrous iawn am ddiwygwyr megis Daniel Rowland yn cynnal oedfaon yn Nhyddyn Isaf a'r bardd a'r cymeriad hynod Dafydd Siôn Siâms yn melltithio'r grefydd newydd yn gyhoeddus cyn cael ohono droedigaeth. Fflangellodd y Methodistiaid yn ddidrugaredd a hynny cyn iddo losgi ei holl weithiau barddol beirniadol mewn coelcerth cyhoeddus ar sgwâr y pentref. Mae cwpan cymun gwreiddiol y Methodistiaid hyn i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Yn wreiddiol, roedd y pentref mewn dau blwyf, sef plwyfi Llanfrothen a Llandecwyn a hynny cyn i'r plwyf newydd gael ei greu ym 1859.

Am yn agos i dri chwarter canrif gwaith ffrwydiadau Cwcs a fu'n asgwrn cefn economi'r pentref: yn ddiweddarach daeth atomfa Trawsfynydd â gwaith i'w gweithwyr. Yn hanesyddol, dibynnai'r boblogaeth ar gyflogaeth a gynigiwyd gan ddiwydiant llechi Blaenau Ffestiniog a'r allforio a mewnforio deunydd crai a fyddai'n mynd drwy borthladd prysur Porthmadog. Ar lafar gwlad gelwid y pentref yn 'Penrhyn Cocos' a hynny oherwydd diwydiant pwysig casglu cocos a ddigwyddai yn yr oes o'r blaen.

Cymraeg

Pentref Cymraeg ei iaith yw Penrhyndeudraeth a chlywir y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n naturiol gan bobl o bob oed. Yn 2001 roedd 76% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith Gymraeg.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Penrhyndeudraeth (pob oed) (2,150)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Penrhyndeudraeth) (1,568)
  
75.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Penrhyndeudraeth) (1542)
  
71.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Penrhyndeudraeth) (337)
  
36.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Natur

Rhwng y pentref a Phont Briwer, ar hen safle Cookes Explosives Ltd, mae gwarchodfa natur Gwaith Powdwr, sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Oriel

Cyfeiriadau

Tags:

Penrhyndeudraeth HanesPenrhyndeudraeth CymraegPenrhyndeudraeth Cyfrifiad 2011Penrhyndeudraeth NaturPenrhyndeudraeth OrielPenrhyndeudraeth CyfeiriadauPenrhyndeudraethAfon GlaslynCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Penrhyndeudraeth.oggEifionyddGwyneddMeirionnyddPenrhyndeudraeth.oggTraeth MawrWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Not the Cosbys XXXHebraegTitw tomos lasAngela 2Ysgol Syr Hugh OwenDenk Bloß Nicht, Ich HeuleY GwyllLlundainCoffinswellTaith y PererinEnglyn milwrOwen Morris RobertsTafodWalking Tall Part 2Rhif cymhlygGeraint GriffithsLlanharanPensiwnDawid JungAbertawe (sir)GalawegThe Fantasy of Deer WarriorThe ScalphuntersCyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r GymraegIago II, brenin yr AlbanKlaipėdaFietnamDiodLlynges22Leah OwenCaersallogErnst August, brenin HannoverFisigothiaidClyst St MaryThomas VaughanEwropThe Trouble ShooterHen BenillionFfrancodBysBugail Geifr LorraineThe Road Not TakenLlwyau caru (safle rhyw)Ceri Wyn JonesYnys GifftanCaerdyddNoson Lawen (ffilm)TsieineegSir Gawain and the Green KnightRMS TitanicNi LjugerSafleoedd rhywDylan Ebenezer1996Rock and Roll Hall of FameTŷ unnosTaekwondoSyriaSteffan CennyddWyau BenedictThe Tin StarThe Commitments (ffilm)Chris Williams (academydd)Ifan Huw DafyddMambaAwstralia (cyfandir)In The Days of The Thundering HerdPerlysieuyn🡆 More