Blaenau Ffestiniog: Tref chwarel yng Ngwynedd

Tref yng Ngwynedd, Cymru, yw Blaenau Ffestiniog( ynganiad ).

Fe'i lleolir gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddi boblogaeth o 4,830 (Cyfrifiad 2001) (Gan gynnwys Llan Ffestiniog ). Mae Caerdydd 175.6 km i ffwrdd o Flaenau Ffestiniog ac mae Llundain yn 308.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sydd 29 km i ffwrdd.

Blaenau Ffestiniog
Blaenau Ffestiniog: Hanes, Diwylliant, Trafnidiaeth
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,875 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9944°N 3.9375°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH705455 Edit this on Wikidata
Cod postLL41 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.

Mae'r wlad o gwmpas y dref yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.

Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan bapur bro o'r enw Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis.

Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionnydd.

Hanes

Blaenau Ffestiniog: Hanes, Diwylliant, Trafnidiaeth 
Traphont yn y Blaenau tua 1975

Tyfodd y Blaenau yn gyflym o gwmpas y chwareli llechi yn ystod y 19g wedi i ŵr o'r enw Methusalem Jones ddarganfod llechfaen yn yr ardal yn yr 1760au. Agorwyd rheilffordd fach (Rheilffordd Ffestiniog heddiw) i gludo llechi o'r Blaenau i Borthmadog, oedd yn borthladd bach prysur yn y 19eg ganrif. Yn anterth y diwydiant llechi ar droad yr 20g, cododd poblogaeth y dref i 11,434 yn ôl cyfrifiad 1901, gan ei gwneud yn ail dref fwyaf gogledd Cymru ar ôl Wrecsam ar y pryd.

Diwylliant

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898.

Cerddoriaeth Gyfoes Gymraeg

Mae rhestr faith o fandiau chwyldroadol Cymraeg sy'n dod o Flaenau Ffestiniog, yn eu plith: Anweledig, Llwybr Llaethog, Mim Twm Llai, Frizbee, dau boi o Blaena, Llan Clan a Gwibdaith Hen Fran er enghraifft.

Côr Meibion y Brythoniaid

Trafnidiaeth

Saif Blaenau ar un pen Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n ei chysylltu â Chyffordd Llandudno a Llandudno trwy dirlun prydfrerth Dyffryn Lledr a Dyffryn Conwy. Ceir lein arall sydd ar gyfer twristiaid yn bennaf heddiw ond yn y gorffennol a fu'n dwyn llechi i'r cei ym Mhorthmadog, sef Reilffordd Ffestiniog. Mae'r A470 yn mynd trwy'r dref cyn dringo Bwlch y Gorddinan. Mae gwasanaethau bws cyson 1B i Borthmadog, sy'n cysylltu â'r gwasanaeth i Fangor ac mae gwasanaethau bysus eraill i Landudno a Dolgellau. Mae gwasanaeth bws lleol hefyd sy'n cysylltu Tanygrisiau a Rhiwbryfdir gyda chanol y dref.

Ysgolion

Mae'r dref yn cael ei gwasanaethu gan dair ysgol gynradd, sef: Ysgol Manod, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Tanygrisiau. Mae'r ysgolion hyn yn bwydo'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Moelwyn.

Blaenau Ffestiniog: Hanes, Diwylliant, Trafnidiaeth 
Golygfa o'r Blaenau, yn edrych i lawr o'r Moelwyn Bach

Clybiau a Chymdeithasau

Blaenau Ffestiniog: Hanes, Diwylliant, Trafnidiaeth 
Seiclwr mynydd yn ymarfer ar un o draciau Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog

Cyflogaeth

Er fod y diwydiant chwareli llechi yn parhau i gyflogi nifer o bobl yn y dref, mae'r diwydiant hwn wedi cael ei ddisodli fel prif gyflogwyr gan ffatri Blaenau Plastics sydd â staff o tua 300. Rhai o gyflogwyr mawr eraill y dref yw ffatri Metcalfe, sy'n creu offer arlwyo, a phwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau. Mae dau gwmni cludiant ffyrdd mawr wedi eu lleoli yn yr ardal hefyd, sef 'Roberts Ffestiniog' o Lan Ffestiniog a 'E. Hughes' o'r Manod.

Gwahanol Ardaloedd y Dref

Tafarnau'r Dref

Enwogion

Y Glaw

Mae glaw y Blaenau yn ddihareb. Mae’r graff canlynol yn seiliedig ar ddata o Hanes Plwyf Ffestiniog yn dangos nad dihareb go iawn yw liquid sun brolia rhai trigolion y dref!

Blaenau Ffestiniog: Hanes, Diwylliant, Trafnidiaeth 
Graff yn dangos glaw ardal Ffestiniog o’i gymharu â’r trefi o gwmpas, yn y cyfnod 1865-1880 (data GJ Williams, 1882)

Llyfryddiaeth

  • amryw awduron, Chwareli a Chwarelwyr (Caernarfon, 1974)
  • Gwyn Thomas, Yn Blentyn yn y Blaenau (1981). Darlith hunangofiannol.
  • Gwyn Thomas, Blaenau Ffestiniog (2007 Gomer). Casgliad o gerddi a lluniau.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Blaenau Ffestiniog: Hanes, Diwylliant, Trafnidiaeth  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Tags:

Blaenau Ffestiniog HanesBlaenau Ffestiniog DiwylliantBlaenau Ffestiniog TrafnidiaethBlaenau Ffestiniog YsgolionBlaenau Ffestiniog Clybiau a ChymdeithasauBlaenau Ffestiniog CyflogaethBlaenau Ffestiniog Gwahanol Ardaloedd y DrefBlaenau Ffestiniog Tafarnaur DrefBlaenau Ffestiniog EnwogionBlaenau Ffestiniog Y GlawBlaenau Ffestiniog LlyfryddiaethBlaenau Ffestiniog Gweler hefydBlaenau Ffestiniog CyfeiriadauBlaenau Ffestiniog Dolen allanolBlaenau FfestiniogBangorBlaenau Ffestiniog.oggCilometrCymruDelwedd:Blaenau Ffestiniog.oggGwyneddLlan FfestiniogParc Cenedlaethol EryriWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Teyrnas GwyneddGŵydd dalcenwenJoy LavilleSamoaCeidwad y GannwyllJulia ChildPeiriannyddOsian GwyneddRhestr baneri CymruCondomWessexSimon BowerThere Goes The GroomGeorgegCynnwys rhyddY Brenin ArthurSeattleDewi 'Pws' MorrisJohn William ThomasDistyllu ffracsiynolY Tebot PiwsYr Ail Ryfel BydGwylan yr ArctigMichael PortilloSwlŵegRhyw llawWcráinBeunoThe Greatest ShowmanPidynGweriniaeth DominicaCapel CelynAserbaijanegUnol Daleithiau AmericaTeyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd IwerddonYnysoedd HeleddMedal Ddrama Eisteddfod yr UrddBethan Rhys RobertsY GwyllDe OntsnappingFflorensGwaeduTaleithiau'r Unol DaleithiauEginynNot The Bradys XxxPobol y CwmSeland NewyddRobin LlywelynHTMLLlyfr BlegywrydCyfathrach Rywiol FronnolSimon HarrisCelynninL'ammazzatinaAmherst, MassachusettsActinidGaynor Morgan ReesEros, o Deus Do AmorURLGwedros GawrDistawrwydd... Allwch Chi Ei Glywed?Capel y NantCernywegGwenan GibbardBaner NicaragwaHuw ChiswellPontrhydyfenLeo VaradkarPolca🡆 More