Llanystumdwy: Pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanystumdwy ( ynganiad ).

Saif yn ardal Eifionydd ar yr A497 rhwng Cricieth a Pwllheli, ar lannau Afon Dwyfor. Ystyr yr enw yw "yr eglwys wrth y tro ar Afon Dwy".

Llanystumdwy
Llanystumdwy: Pobl o Lanystumdwy, Atyniadau, Addysg
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9222°N 4.2713°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000089 Edit this on Wikidata
Cod OSSH473385 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Mae'n enwog am ei chysylltiadau â Lloyd George. Treuliodd y 'Dewin Cymreig' ei blentyndod yn y pentref tan oedd yn 15eg oed, yng ngofal ei ewythr Richard Lloyd, crydd wrth ei grefft a gweinidog cynorthwyol yn y capel lleol: Capel Moreia. Cafodd Lloyd George ei gladdu yn Llanystumdwy.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Yn Llanystumdwy ym 1912 roedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru, pan ddychwelodd Lloyd George yma i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith gan alw am bleidleisiau i ferched. Cafodd y merched eu llusgo o'r neuadd yn filain iawn a'u curo. Cafodd un ohonynt ei dillad wedi’u tynnu a bu bron i un arall gael ei thaflu oddi ar pont Afon Dwyfor gerllaw, ac i’r creigiau oddi tano.

Mae'n bentref deniadol lle gwelir nifer o fythynnod a thai sy'n dyddio o'r 17g a'r 18g, wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. Mae pont ddwy fwa sy'n dyddio o'r 17g ar Afon Dwyfawr ar gyrion Llanystumdwy.

Llanystumdwy: Pobl o Lanystumdwy, Atyniadau, Addysg
Tŷ Newydd, Llanystumdwy

Pobl o Lanystumdwy

Atyniadau

Llanystumdwy: Pobl o Lanystumdwy, Atyniadau, Addysg 
Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy.

Ceir Amgueddfa am fywyd a gwaith Lloyd George yn y pentref. Mae ei fedd, a gynlluniwyd gan y pensaer Clough Williams-Ellis (Portmeirion), ynghyd â'r capel coffa gerllaw, dros yr hen bont ar gyrion y pentref.

Mae Tafarn y Plu yn dafarn Gymreig draddodiadol a adeiladwyd yn 1813 ac sydd prin wedi newid ers hynny.

Addysg

Lleolir Ysgol Llanystumdwy yn y pentref. Mae'r ysgol gynradd Gymraeg hon yn rhan o dalgylch Ysgol Eifionydd, Porthmadog.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanystumdwy (pob oed) (2,080)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanystumdwy) (1,553)
  
77%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanystumdwy) (1528)
  
73.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanystumdwy) (271)
  
31.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel

Cyfeiriadau

Tags:

Llanystumdwy Pobl o LanystumdwyLlanystumdwy AtyniadauLlanystumdwy AddysgLlanystumdwy Cyfrifiad 2011Llanystumdwy OrielLlanystumdwy CyfeiriadauLlanystumdwyA497Afon DwyforCriciethCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Llanystumdwy.oggEifionyddGwyneddLlanystumdwy.oggPwllheliWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

17 EbrillCattle KingCombeinteignheadAderyn bwn lleiafCoffinswellWalter CradockUndeb credydSex TapeEdward H. Dafis14eg ganrifHob y Deri Dando (rhaglen)FietnamegY Deyrnas UnedigCymruYr AlbanCeri Wyn JonesTaith y PererinIago V, brenin yr AlbanFrom Noon Till ThreeStiller SommerBeti GeorgeDe Osetia2024Purani KabarYn y GwaedContactPensiwnCorff dynolDiodThe Speed ManiacCoch y BerllanEconomi gylcholLoganton, PennsylvaniaCaersallogFfilm llawn cyffroWyau BenedictCiGwledydd y bydJohn Williams (Brynsiencyn)Chirodini Tumi Je AmarUwch Gynghrair LloegrYnys GifftanCyfieithiadau o'r GymraegSefydliad Wicimedia7Rule BritanniaHottegagi Genu BattegagiFandaliaidBBC Radio CymruNovialLlanrwstAwstralia (cyfandir)Argyfwng tai CymruEwropGwyddoniadurSidan (band)CredydDelhiSwahiliRose of The Rio GrandeMarie AntoinetteAristotelesCombrewAda Lovelace🡆 More